Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Llŷr Beaumont Jones (Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau  ofuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 163 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023, fel rhai cywir.

 

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Sicrhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd yn cynnal arolwg o afon Dyfi cyn cyfnod prysur y Pasg er mwyn penderfynu ar y lleoliadau mwyaf addas i osod angorfeydd yr harbwr.

 

Cadarnhawyd y disgwyli i gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr, neu gofrestru eu cychod dŵr ar gyfer y tymor sydd i ddod, gwblhau’r ffurflen ar-lein yn brydlon drwy wefan Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bydd cwsmeriaid angorfeydd angen cysylltu gyda’r Harbwrfeistr er mwyn cadarnhau eu lleoliad angori yn yr harbwr.

 

Pwysleisiwyd bod Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn parhau i gael ei ddilyn yn drylwyr er mwyn gwella diogelwch i bawb sy’n defnyddio neu’n gweithio yn yr amgylchedd morol porthladdoedd.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr Cynorthwyol, Mr Oliver Simmons am ei waith ymrwymedig yn yr harbwr. Nodwyd ei fod bellach wedi gadael ei swydd er mwyn sefydlu cwmni newydd. Mynegwyd dymuniadau gorau iddo a’r cwmni i’r dyfodol. Eglurwyd bod ymgeiswyr yn cael eu cyfweld ar gyfer llenwi’r swydd wag ar hyn o bryd a gobeithir bydd unigolyn cymwysedig yn cychwyn yn y rôl ar ddechrau tymor prysur yr haf.

 

Ymhelaethwyd bod swydd barhaol newydd wedi ei hysbysebu i gynorthwyo’r Harbwrfeistr a’i gymhorthydd gyda’u gwaith. Esboniwyd mai teitl y swydd yw Swyddog Traethau Meirionnydd ac mae wedi ei leoli yn harbwr Abermaw i weithio ar hyd traethau’r arfordir rhwng Abermaw ac Aberdyfi. Nodwyd y gobeithir bydd y swyddog yn cychwyn yn y swydd cyn cyfnod y Pasg. Cadarnhawyd bod y penodiad yma yn ychwanegol i’r staff traethau tymhorol sy’n cael eu penodi i weithio ar draethau Aberdyfi a Thywyn erbyn cyfnod yr haf yn flynyddol. Diweddarwyd yr Aelodau y gobeithir bydd yr aelodau staff tymhorol yn cychwyn gweithio o ddiwedd mis Mai ymlaen.

 

Cydnabuwyd nad oes diweddariad i’w rannu ar ddangosyddion perfformiad gan nad oes fawr newid wedi bod dros fisoedd y gaeaf . Cadarnhawyd bydd y wybodaethyn cael ei gynnwys yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy berfformiad ariannol yr harbwr ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn adolygiad mis Tachwedd 2023. Tynnwyd sylw at nifer o bwyntiau o fewn y penawdau isod:

 

·       Gweithwyr – Eglurwyd y rhagwelir tanwariant o £7,963 yn y maes yma oherwydd ymddiswyddiad Mr Simmons.

·       Eiddo – nodwyd fod gwariant wedi cael ei wneud yn y maes yma yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd. Esboniwyd ei fod yn cwmpasu nifer o ddyletswyddau megis cynnal a chadw tiroedd yn ogystal â meinciau. Eglurwyd hefyd ei fod yn cynnwys ad-daliad am rai taliadau megis meinciau coffaol.

·       Trafnidiaeth - Adroddwyd bod y pennawd hwn yn manylu ar danwydd i ddefnyddio cwch yr harbwr ac nid yw costau cynnal a chadw wedi cael ei gynnwys yn y ffigyrau. Cadarnhawyd yr amcangyfrifwyd tanwariant o £427 oherwydd nid yw’r tywydd wedi galluogi swyddogion i ddefnyddio’r cwch mor aml ag gobeithiwyd.

·       Gwasanaethau a Chyflenwadau - Proffwydwyd bydd tanwariant o oddeutu £7,000 o fewn y maes hwn oherwydd costau dydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 17 Hydref, 2024 (yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn).

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 15fed Hydref 2024.