Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

Cofnod:

PENDERFYNWYD Etholwyd y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones fel Is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

Cofnod:

PENDERFYNWYD Etholwyd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones fel Is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 87 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024, fel rhai cywir.

 

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 93 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Cadarnhawyd bod 81 o gychod wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi eleni. Nodwyd bod hyn yn gynnydd bychan o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ble roedd 72 o angorfeydd blynyddol. Gobeithiwyd bydd y ffigwr hwn yn parhau i gynyddu i’r dyfodol.

 

Eglurwyd bod unrhyw un sydd yn dymuno cofrestru eu bad pŵer yn gwneud hynny drwy wefan y Cyngor. Adroddwyd bod 1013 o gychod pŵer a 1044 o fadau dŵr personol wedi eu cofrestru'r tymor hwn. Nodwyd hefyd bod 84 cwch gydag injan o dan 10hp wedi eu cofrestru, sef cyfanswm o 2141  fadau ar gyfer y tymor. .y. Cydnabuwyd bod hyn 368 yn is na’r  tymor blaenorol, ble roedd 2509 o gofrestriadau. Ystyriwyd mai’r prif ffactorau am y lleihad hwn yw tywydd ansefydlog a’r hinsawdd ariannol bresennol.

 

Sicrhawyd bod yr harbwr yn cydymffurfio â Chod Diogelwch Morol Porthladdoedd, sy’n amlinellu safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol.. Eglurwyd bod y Gwasanaeth yn adolygu’r cod ar hyn o bryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth  gyda newidiadau statudol diweddar. Anogwyd yr aelodau i ddod i gyswllt gyda swyddogion os oes ganddynt unrhyw sylwadau ar beth ddylai gael ystyriaeth wrth ei addasu.

 

Croesawyd Mr Thomas Walton sydd wedi cael ei benodi yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ers mis Ebrill eleni. Diolchwyd hefyd i’r wardeniaid traeth tymhorol a fu’n gweithio yn Aberdyfi a Thywyn dros y tymor.. Tynnwyd sylw penodol at ddau swyddog a oedd wedi cysylltu gyda Gwylwyr y Glannau ynglŷn â digwyddiad difrifol a oedd yn datblygu ar ochr arall i’r afon. . Diolchwyd iddynt am ymateb yn brydlon a nodwyd bod cais am ganmoliaeth (commendation) y Bad Achub yn dilyn y digwyddiad. Cyhoeddwyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau wedi cychwyn proses ymddeol a byddai’n gorffen gyda’r gwasanaeth yn fuan ym mis Mawrth 2025. Diolchwyd iddo am ei holl waith dros nifer o flynyddoedd a rhannwyd dymuniadau gorau iddo i’r dyfodol.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy berfformiad ariannol yr harbwr ar gyfer 1 Ebrill 2024 hyd at 31 Mawrth 2025. Manylwyd ar y prif bwyntiau canlynol gan bwysleisio mai rhagdybiaeth o’r gwariant cyflawn y cyllidebau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a rannwyd, yn seiliedig ar wariant hyd at 31 Awst 2024, a gall y sefyllfa newid os bydd argyfwng yn codi:

 

·       Gweithwyr - Rhagdybiwyd tanwariant o £1,894 yng nghyllidebau cyflogau a chostau swyddogaethau oherwydd bod yr Harbwrfeistr Cynorthwyol wedi cychwyn yn ei rôl ar ddyddiad hwyrach na 1 Ebrill 2024.

·       Eiddo - Proffwydwyd tanwariant o £10,333 yn y gyllideb hon, sy’n gyfrifol am gynnal tiroedd, casglu sbwriel ac ati. Eglurwyd bod tanwariant yn y gyllideb gan nad oes costau sylweddol hyd yma wedi codi. .

·       Trafnidiaeth - Ystyriwyd bydd tanwariant o £218 yn y gyllideb hon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd nad yw’r gyllideb hon yn cynnwys costau rhedeg  a chynnal a chadw cerbyd y gwasanaeth, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 18 Mawrth 2025.

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 18fed Mawrth 2025.