Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Heol yr Eglwys, Tremadog
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2015/16. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r Fforwm ar gyfer 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn
Is-gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2015/16/ Deallwyd bod amser cychwyn y cyfarfod yn anghywir yn
nyddiadur y Cadeirydd felly
yn ei absenoldeb
o ran helaeth o’r cyfarfod bu i’r
Is-gadeirydd gadeirio’r cyfarfod. |
|
CROESO I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd
Dylan Minnice, Pennaeth Ysgol Botwnnog,
i’w gyfarfod cyntaf o’r Fforwm
Cyllideb Ysgolion yn dilyn ei
benodiad fel olynydd i Gareth T M Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod diwethaf y Fforwm a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2015. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2015 fel rhai cywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION: · 3 (a) Hyfforddiant Cyllidol i Ysgolion Ø 13 Hydref 2015 Ø 14 Hydref 2015 Ø 15 Hydref 2015 Amser a lleoliad i’w gadarnhau Cofnod: Eitem 3 (a) – Hyfforddiant
Cyllidol i ysgolion Adroddwyd bod y dyddiadau isod wedi eu
pennu ar gyfer cynnal hyfforddiant
cyllidol i ysgolion gyda’r amser a lleoliadau i’w cadarnhau maes o law: 13 Hydref
2015 14 Hydref
2015 15 Hydref
2015 Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
GWEITHGOR CYLLID ADDYSG I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn gofyn i’r Fforwm
gadarnhau parhad o’r Gweithgor Cyllid
Addysg er mwyn cynnal trafodaeth yn unol â phenderfyniad
y Cabinet yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2015 sef: (a) Derbyn
cynigion y Fforwm Cyllido Addysg ar gyfer cyflawni £952,000 o arbedion o’r gyllideb
ysoglion yn 2015/16 a chadw o fewn yr
addewid cyllido ysgolion, gan ddefnyddio
“Model B” ar gyfer cwtogi £60,131 o ddyraniad staff dysgu’r sector gynradd, a chwtogi £25,771 o ddyraniad staff
dysgu’r sector uwchradd. (b) Gofyn
i’r Fforwm Cyllido Ysgolion barhau i adolygu gwasanaethau a threfniadaeth addysg er mwyn
canfod gweddill y targed arbedion uwchben y £952,000 ar gyfer 2015/16, gan ddisgwyl eu hargymhelliad
ynglyn â sut y gellir gwireddu’r £4.3m cyfan dros y cyfnod
2015/16 – 2018/19 (c) Gofyn
i’r Aelod Cabinet Addysg annog cyrff llywodraethol
ysgolion unigol i ystyried sut y gallant ddefnyddio balansau eu hysgolion fel
rhan o becyn i gyfarch eu bwlch
ariannol mewn ffordd gynlluniedig. Cyfeiriwyd at y daenlen oedd ynghlwm i’r
adroddiad yn crynhoi yr hyn
drafodwyd gan y Gweithgor hyd yma. O safbwynt
toriadau gosodwyd targed o £4.3m er mwyn ceisio cael
y Gwasanaeth Addysg i uchafu’r
arbedion effeithlonrwydd y byddai modd eu
gwasgu allan o’r gyfundrefn addysg cyn symud
ymlaen i doriadau. Pwysleiswyd bod y ffin rhwng arbedion effeithlonrwydd a thoriadau yn un anodd i’w
ddiffinio ym maes addysg. Gofynnwyd i’r Fforwm
gadarnhau aelodaeth y Gweithgor ac fe’u hatgoffwyd o’r aelodau ymysg Penaethiaid
y sector uwchradd a’r cynradd: Neil Foden, Alun Llwyd,
Eifion Jones a Dewi Lake (Uwchradd) Owain Lemin Roberts, Ifan
Llyr Rees, Geraint Evans a Sianelen Pleming (Cynradd) Awgrymwyd i’r GYDCA drafod enwebiad i olynu Sianelen Pleming ar y Gweithgor yn sgil
ei bwriad i ymddeol. Adroddodd y Pennaeth Addysg mai’r her
ydoedd bod yn fwy effeithlon tra’n gweithio tuag at yr arbedion
o £4.3m. Roedd
canran toriadau y gwasanaeth oddeutu 6 / 7% o’i gymharu â rhai gwasanaethau a oedd yn chwilio am oddeutu
30%. Byddai’n ofynnol i’r Gweithgor
gynnal trafodaethau anodd iawn gan
ystyried egwyddorion sylfaenol gan gyfarch
y ddarpariaeth orau i blant a phobl ifanc.
Ychwanegodd yr Aelod
Cabinet Addysg bod Cabinet y Cyngor yn cynnal cyfres o weithdai gyda holl
Aelodau’r Cyngor i drafod
proses yr arbedion a bod y Gwasanaeth Addysg o dan ystyriaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Ar derfyn y
broses bwriedir, er tryloywder, ymgynghori gyda thrigolion Gwynedd ym mis Medi
/ Hydref ynglyn â gweithrediad y toriadau posibl. Awgrymodd Bennaeth y byddai’n rhaid i’r Gweithgor edrych
ar y darlun yn ei gyfanrwydd
ac oni fyddai’n well ei enwi “Gweithgor
Rhesymoli Addysg ac Ysgolion”.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad. (b) Cadarnhau Aelodaeth y Gweithgor Cyllid Addysg fel a ganlyn: Cadeirydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion (Mr Godfrey Northam) Aelod Cabinet Addysg (Y Cyng.
Gareth Thomas) 4 Pennaeth Cynradd (Owain Lemin Roberts, Ifan Llyr Rees, Geraint Evans ac un enwebiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2014/15 I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd fanylion balansau ysgolion ar 31 Mawrth 2015 a oedd yn amlinellu
bod y balansau wedi gostwng £281,267 yn ystod 2014/15 i £3,495,580, sy’n cyfateb i 4.89% o’u dyraniad terfynol. Nodwyd bod gan 15 ysgol ddiffyg ariannol
ar ddiwedd 2014/15 gwerth £327,873 i gymharu gyda 7 ar ddiwedd
2013/14 gwerth £116,313. ·
9 ysgol
gynradd gyda chyfanswm diffyg £111,677 (amrywio rhwng £780 a £52,579) ·
5 ysgol
uwchradd gyda chyfanswm diffyg £190,742 (amrywio rhwng £17,943 a £94,128) ·
1 ysgol
arbennig gyda diffyg £25,454 Gwelir lleihad sylweddol
ym malansau ysgolion uwchradd ond cynnydd ym
malansau ysgolion cynradd. Atgoffwyd yr Aelodau am y drefn gweithredu cyfarwyddo defnydd balansau a chyfeiriwyd at yr atodiad oedd
ynghlwm i’r adroddiad yn amlygu’r
symiau ariannol sydd dros y trothwyon. Nodwyd bod 18 ysgol gynradd dros
y trothwy
£50,000 a 4 ysgol uwchradd
dros y trothwy £100,000. Nododd yr Aelod
Cabinet Addysg bod balansau uchel
ysgolion yn creu loes iddo
yn enwedig wrth geisio amddiffyn
cyllideb ysgolion a’r hinsawdd o doriadau sydd ohoni. Pwysleiswyd yr angen i weithredu’r
cynllun cyfarwyddo defnydd balansau ac i ysgolion gyflwyno rhesymeg dros gadw’r
balansau dros y trothwyon. Penderfynwyd: Cymeradwyo: (a)
I’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid
gydweithio yn agos gyda’r ysgolion
gyda diffyg ariannol er mwyn
sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg
cyn gynteg â phosibl (b)
I’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid
adolygu trefniadau presennol monitro cyllidebau ysgolion (c)
Wrth drafod balansau,
rhaid ystyried yr her ar ysgolion
i ddarganfod arbedion ariannol sylwedol yn y blynyddoedd gyllidol 2016/17, 2017/18 a thu hwnt. Dylid hefyd fod
yn ymwybodol am effaith ariannol rhagolwg lleihad pellach yn nifer
disgyblion ysgolion uwchradd o dros £800,000 rhwng 2016/17 a 2017/18. |
|
GRANT GWELLA ADDYSG I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Addysg ynghylch y
grant “newydd” sy’n uno 11 grant blaenorol gan weithredu toriad
o 10% yr un pryd. Cyfeiriwyd
at y manylion ariannol a olygir cyfanswm cyllid Grant Gwella Addysg i Wynedd yn £6,308,073. Gwelwyd ynghlwm i’r adroddiad ddadansoddiad
o ddyraniad ysgolion unigol yn seiliedig
ar: GGA Cyfnod Sylfaen
(fformiwla penodol yn bennaf ar
sail disgyblion cyfnod
Sylfaen) GGA Rhwydwaith
14-19 (yn bennaf ar sail cyrsiau penodol a ddarperir) GGA Eraill (80% nifer disgyblion 20%, cinio am ddim) Mewn
ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod GwE wedi anfon templed i ysgolion ar gyfer
rhestru ystod o bwrpasau’r grant gan ofyn iddynt ei
gwblhau fel rhan o’u trefn
cynllunio ar gyfer gwella’r Ysgol. Nododd
Bennaeth werthfawrogiad i’r Uned Gyllid
am eu gwaith yn nhrefniadau’r uchod a gofynnwyd a fydd y maes yn
rhan o drafodaethau y Gweithgor. Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth
Addysg ni ellir rhagweld beth fydd
maint y gyllideb Ebrill nesaf a pha elfennau fydd
i’w cadw’n ganolog. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
RHWYDWAITH CYFRIFIADUROL YSGOLION I ystyried adroddiad gan yr Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid. (Copi ynghlwm) Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad yr Uwch Reolwr Technoleg
Gwybodaeth yn diweddaru’r Aelodau ynglyn â’r grant gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer: ·
Rhoi darpariaeth di-wifr gynhwysfawr yn y mannau dysgu ·
Safoni ar gyflymder i’r
rhyngrwyd ar 10mbps (ysgolion cynradd ac arbennig) / 100mbps (ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd > 300 o ddisgyblion) ·
Darpariaeth yn cael ei
gyflwyno ar ffeibr ar gyfer
ehangu’n y dyfodol i 100mbps
a 1000mbps ·
Pob cyswllt yn cael
ei wneud yn ran o rwydwaith ehangach y sector gyhoeddus
(PSBA) gyda’r bwriad y bydd pob
cyswllt wedi eu cytundebu tan ddiwedd Mawrth 2017. Nodwyd bod
5 ysgol cynradd yn parhau i ddisgwyl
am y ddarpariaeth newydd oherwydd bod y rhaglen wedi llithro a’r
tebygolrwydd y gall barhau
i lithro. Cyfeiriwyd
at ddatblygiadau pellach mewn darpariaeth sustem fôn newydd
i swyddfeydd y Cyngor a fydd
hefyd ar gael i ysgolion a olygai cyfleon am arbedion yn y biliau
ffôn. Nodwyd
bod y ddarpariaeth di-wifr yn cael ei
hymledu i swyddfeydd a chanolfannau eraill y Cyngor, megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, archifdai ac amgueddfeydd, sy’n golygu y gall disgyblion ac athrawon barhau gyda gwaith
cwricwlwm yn y mannau hyn. Penderfynwyd: Cymeradwyo: (i)
Bod y gwaith sydd wedi ei wneud
hyd yma yn
cynnig gwelliant sylweddol i’r isadeiledd
technoleg gwybodaeth sy’n cefnogi dysgu
yn yr ysgolion (ii)
I ymrwymo i ddefnyddio’r
ddarpariaeth newydd ac adolygu’r ddarpariaeth cyn diwedd y cyfnod
cytundebol ym Mawrth 2017. |
|
PENNU DYDDIADAU AR GYFER CYFARFODYDD · ? November 2015 · ? February 2016 (before 16 February 2016) Cofnod: Penderfynwyd: Pennu’r
dyddiadau isod ar gyfer cyfarfodydd
nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion: 18 Tachwedd 2015 (9.30
a.m.) 10 Chwefror 2016 (9.30
a.m.) |
|
YMDDISWYDDIAD Cofnod: Nododd Mr Godfrey Northam ddymuniad
Mr Walter Williams, cynrychiolydd Llywodraethwyr
Uwchradd Ardal Arfon, i ymddiswyddo fel aelod o’r Fforwm
Cyllideb oherwydd ymrwymiadau eraill. Trafodwyd ymhellach diffyg presenoldeb rhai o’r Llywodraethwyr
sy’n gwasanaethu ar y Fforwm ac awgrymwyd gwneud ymholiadau yng Nghymdeithas Llywodraethwyr
Gwynedd ynglyn â’u dymuniad i barhau i wasanaethu ar y Fforwm. Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog
Cefnogi Aelodau a Chraffu gysylltu â’r Adran
Addysg ar gyfer gwneud trefniadau i Gymdeithas Llywodraethwyr
Gwynedd: (i)
enwebu olynydd i Mr Walter
Williams (ii)
ganfod dymuniad y Llywodraethwyr eraill ynglyn â pharhad i wasanaethu ar y Fforwm. |