Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Canolfan gyswllt y Cyngor, Penrhyndeudraeth
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Arwyn
Williams (Ysgol Tryfan), Alan Wyn Jones (Ysgol Nefyn), Richard Derwyn Jones
(Ysgol Garndolbenmaen), Eleri Morgan Davies (Ysgol y Gorlan), Neil Foden (Ysgol
Friars), Anest Gray Frazer (Esgobaeth), Gwenan Davies Jones (Cadeirydd
Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd), Ellen Williams (Cadeirydd Ffederasiwn
Penaethiaid Uwchradd), Hefin Owen (Cyfrifydd
Grŵp Datblygu) a Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol
Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I gadarnhau
cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2020 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O’R COFNODION I drafod unrhyw eitemau sydd yn codi o’r cofnodion. Mae ‘Statistical First Release’ – balansau ysgolion
wedi’i hanfon at aelodau’r Fforwm. Cofnod: Eitem 5 – Balansau Ysgolion 31/3/2020 dros £50,000 (Cynradd) neu £100,000 (Uwchradd) Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd
na chafwyd
cadarnhad hyd yma o’r sefyllfa
gyfreithiol o ran statws ysgol ddilynol. Holwyd ymhellach a fyddai’n bosib’ rhoi’r cynradd
a’r uwchradd gyda’i gilydd am y tro. Nodwyd nad
oedd modd gwneud hynny gan
ei fod yn
fater cyfreithiol yn hytrach nag yn ddewis i
awdurdod. Nodwyd bod holl aelodau’r Fforwm wedi derbyn copi
o’r datganiad ystadegol cyntaf ynglŷn â chronfeydd ariannol wrth gefn
ysgolion ar 31 Mawrth, 2019. Tynnwyd sylw at rai o’r prif bwyntiau,
sef:- ·
Bod
cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru yn £46m ar 31 Mawrth
2019, oedd yn gyfwerth â £102 y disgybl.
·
Mai
Abertawe oedd â’r lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £251, a
Sir Fynwy yr isaf, gyda diffyg o £22 y disgybl. ·
Bod
gan 151 o ysgolion cynradd, 77 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1
ysgol feithrin a 10 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd
yn gyfwerth â £29m. Roedd gan y 1,287 o
ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a
glustnodwyd ar eu cyfer. Nodwyd ymhellach bod
Gwynedd yn eithaf agos i’r uchaf
o ran lefel y cronfeydd wrth gefn fesul
disgybl. Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd
mai pryder mwyaf y swyddogion fyddai bod ysgolion yn mynd i
ddiffyg, gan ei bod yn anodd
iawn dod
allan o’r sefyllfa honno. Eitem 7 – Grantiau Ysgolion 2020/21 Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd
na chafwyd
gwybodaeth hyd yma gan GwE ynglŷn
â’r defnydd o’r Grant Datblygiad Proffesiynol. Eitem 8 – Setliad Drafft – Strategaeth Ariannol Cyngor Gwynedd Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd
bod elfen o’r bid cludiant wedi ei
ariannu a chadarnhawyd nad oedd
hyn yn effeithio
ar gyllid ysgolion beth bynnag. Nodwyd y deellid bod
Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu
peidio cynaeafu’r cynllun arbedion cyffredinol ar gyfer ysgolion eleni, a phwysleisiwyd, petai yna fwriad
i newid hynny
i’r dyfodol, y dylai’r Fforwm fod yn rhan
o’r drafodaeth honno. Mewn ymateb, nodwyd bod y sefyllfa’n dibynnu ar setliad
Llywodraeth Cymru i gynghorau. Cafwyd setliad gwell na’r
disgwyl eleni, ond ni allai neb roi addewid
i’r dyfodol a byddai ffactorau megis Brexit, y llifogydd diweddar a Coronavirws yn amlwg yn rhan
o’r drafodaeth yn y dyfodol. Cytunwyd y dylai’r Fforwm fod yn rhan
o’r drafodaeth petai’r sefyllfa’n newid yn y dyfodol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DYRANIAD INTEGREIDDIO PDF 61 KB Adroddiad
gan Hefin Owen. Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad y Cyfrifydd Grŵp Datblygu yn rhoi dadansoddiad
o’r Dyraniad Integreiddio ers sefydlu’r gyfundrefn ariannu gyfredol yn 2015/16. Nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad wedi gofyn iddo
adrodd ar rai pwyntiau yn sgil
yr eitem hon. Eglurodd:- ·
Y
comisiynwyd arolwg allanol ynglŷn â’r defnydd o’r cyllid integreiddio fel
rhan o Gwedd 2 o’r adolygiad strategol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a
Chynhwysiad (ADY a Ch). ·
Mai’r
bwriad ar y pryd oedd sefydlu is-grŵp fyddai’n edrych ar y dulliau
gwahanol o ddatganoli’r cyllid integreiddio, ond ar draws hynny daeth cais gan
y Bwrdd Rheoli i wneud adolygiad llawn o’r gwasanaeth ADY a Ch ar draws Gwynedd
a Môn. ·
Bod
y gwaith hwnnw wedi mynd rhagddo yn ystod yr wythnosau diwethaf. Adroddwyd yn ôl ar hynny eisoes a byddai
hynny’n cael ei rannu gyda’r Byrddau Strategol. ·
Bod
y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad yn dymuno
pwysleisio bod yna fwriad a dymuniad i drafod opsiynau gwahanol o ran
datganoli, a byddai’r is-grŵp yn edrych ar hynny yn ystod yr wythnosau
nesaf. PENDERFYNWYD
bod yr is-grŵp fydd yn edrych
ar y dulliau gwahanol o ddatganoli’n bwydo nôl i’r
Fforwm nesaf. Cytunwyd hefyd i rannu
crynodeb o’r adolygiad annibynnol o’r Gwasanaeth ADY a Ch ar draws Gwynedd a Môn i’r grwpiau ymgynghorol
cynradd ac uwchradd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
STRATEGAETH DIGIDOL YSGOLION PDF 64 KB Cyflwyniad
gan Huw Ynyr a Gwern ap Rhisiart Cofnod: Nodwyd bod
holl aelodau’r Fforwm wedi derbyn copi o adroddiad a baratowyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth ar
y cyd â Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion ar y Cynllun Grant Seilwaith Mewn
Ysgolion - Hwb. Eglurwyd na lwyddwyd i
gynnwys yr adroddiad ar raglen y Fforwm oherwydd na dderbyniwyd y ffigurau
terfynol gan Lywodraeth Cymru tan yr unfed awr ar ddeg. Manylwyd ar
gynnwys yr adroddiad. Nodwyd:- ·
Yng
Ngorffennaf 2019, y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg raglen ariannu i helpu i
drawsnewid Technoleg Addysg Mewn Ysgolion yng Nghymru. ·
Y
byddai’r fenter £50m yn defnyddio ‘catalog TGCh Cymru Gyfan’ newydd fel cyfrwng
i helpu awdurdodau lleol i brynu’r cyfarpar addas angenrheidiol ar ran eu
hysgolion. ·
Yn
unol ag amodau’r cynllun, awdurdodau lleol fyddai’n gwasanaethu fel y partner
cyflenwi strategol ar gyfer y rhaglen a byddai’n rhaid defnyddio’r cyllid yn
briodol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cael ei huwchraddio yn unol â’r safon
cenedlaethol. ·
Bod
Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyswllt ar gyfer ysgolion y sir ac wedi cytuno i
egwyddorion craidd safoni, cysondeb ac, yn bwysicaf oll, cynaliadwyedd. ·
Bod y grant yn galluogi adnewyddu rhwydwaith ysgolion
Gwynedd er mwyn cyrraedd y safon genedlaethol, gan uwchraddio pwyntiau
rhwydwaith diwifr a chabinetau rhwydwaith a gosod ceblau newydd lle bo angen. ·
Bod
y caledwedd ar gyfer uwchraddio’r rhwydwaith wedi ei archebu, a byddai’r gwaith
mewnosod yn digwydd dros y ddau dymor nesaf. ·
Gan
fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynaliadwyedd yr offer yma, ni fyddai yna
oblygiadau cost ar yr ysgolion pan fyddai’r offer a osodid drwy’r grant yn
cyrraedd diwedd ei oes. ·
Y
buddsoddwyd yn agos i £1.4m o’r grant eleni ar galedwedd i uwchraddio’r
rhwydwaith. ·
Bod
asesiad o niferoedd a chyflwr y dyfeisiadau presennol ar draws ysgolion Gwynedd
yn dangos bod ystod eang o ddyfeisiadau ar gael yn yr ysgolion, ond bod llawer
ohonynt wedi dyddio. ·
Bod
Strategaeth Addysg Ddigidol yr Adran Addysg wedi gosod uchelgais o ran cyfradd
dyfais i blentyn o 1:4 yn y cyfnod sylfaen ac 1:1 yng nghyfnodau allweddol 2, 3
a 4, ynghyd â dyfais i bob athro/athrawes ac i nifer o’r staff cynhaliol. ·
Byddai
peidio cynnal cyfradd 1:1 yn y sector uwchradd yn golygu cadw elfennau o’r hen
system ac yn golygu cynnydd sylweddol mewn costau cynnal a chadw’r offer. ·
Amcangyfrifid
bod angen 13,676 o ddyfeisiadau ar gost o £2,908,205.02. Byddai’r grant yn ein galluogi i brynu’r
dyfeisiadau hyn. ·
Yn
seiliedig ar gylch adnewyddu o 5 mlynedd byddai’n rhaid canfod 20% o gost y
dyfeisiadau hyn bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf. Ar ddiwedd y 5 mlynedd, byddai set newydd o ddyfeisiadau
yn cael eu cyflwyno. Byddai’r costau fel
a nodir yn y tablau isod:-
Athrawon
|