Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 (ynghlwm). COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Adroddiadau llafar gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) ar:- ·
COVID – costau ychwanegol / colled incwm 2020/21; ·
Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020/21 COFNODION: Eitem 9 - Materion Ariannol COFID-19 Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion:- ·
Yr
adroddwyd yn flaenorol ein bod wedi hawlio bron i £50,000 ar ran ysgolion
oherwydd costau ychwanegol yn sgil COFID, a bod cais pellach wedi’i gyflwyno i
Lywodraeth Cymru erbyn hyn am ychydig dros £100,000. ·
Yn
sgil cyflwyno adroddiad ar gyllideb refeniw’r Cyngor i’r Cabinet ar 26 Ionawr,
byddwn yn gwybod a ganiateir trosglwyddo’r grant i ysgolion, gan obeithio
gwneud hynny erbyn diwedd Ionawr. Mewn ymateb i gais am ddiweddariad
ynglŷn â phrydau ysgol, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion nad oedd
yr ysgolion unigol yn hawlio’r grant, ond bod hynny’n digwydd ar lefel
strategol gan yr Adran Addysg. Roedd
hynny eisoes wedi digwydd am dymor yr haf, ac roedd cais pellach wedi’i
gyflwyno erbyn hyn am y golled incwm prydau ysgol. Eitem 11 – Cyllid Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY) Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion, drwy
ymgynghori â’r penaethiaid, bod £160,000 o’r grant ADY ar gyfer cefnogi
disgyblion anghenus wedi ei rannu rhwng yr ysgolion uwchradd; 50% ohono yn
seiliedig ar y niferoedd sy’n derbyn cinio ysgol am ddim, a 50% ar sail
‘Behavioural, Emotional and Social Difficulties (BESD)’, sef categori anghenion
arbennig. Pwysleisiwyd, os defnyddio’r data BESD ar
gyfer cyllidebu o hyn ymlaen, bod angen bod yn hollol siŵr bod y sail
honno’n gyson ar draws pob ysgol yng Ngwynedd.
Mewn ymateb, cytunodd y Pennaeth Cynorthwyol ADY a Chynhwysiad fod angen
cysondeb, a chadarnhaodd fod y gwasanaeth a’r swyddogion sy’n cefnogi’r
ysgolion yn rhoi sylw i hyn. Croesawyd y grant unwaith ac am byth hwn,
ond nodwyd bod y dull o’i ddyrannu yn codi cwestiwn o ran sut mae’r dyraniad
sirol blynyddol o bron i £1,000,000 yn cael ei rannu rhwng ysgolion. Awgrymwyd y dylid edrych ar hyn eto, gan
ystyried faint o blant sydd angen cefnogaeth cynhwysiad cyson, fel bod yr arian
yn cael ei rannu mewn dull priodol i ymateb i anghenion y plant hynny. Holwyd a oedd rheidrwydd i wario’r grantiau
addysg erbyn 31 Mawrth eleni, er bod yr ysgolion wedi cau. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfrifydd
Grŵp Ysgolion bod rhaid gwario’r arian erbyn hynny. Byddai pob ysgol yng Nghymru yn yr un sefyllfa,
a debyg bod yna arweiniad cenedlaethol ar hyn. Holwyd ymhellach a oedd Gwynedd yn trafod y
mater gyda Llywodraeth Cymru. Mewn
ymateb, nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion na fu’n rhan o unrhyw
drafodaethau hyd yma, ond y gallai godi’r mater yng nghyfarfod cyfrifwyr Cymru
yr wythnos nesaf. Nododd y Pennaeth Addysg ein bod mewn tirwedd
nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, ac roeddem yn gaeth i reoliadau Llywodraeth
Cymru. Yn ôl dehongliad y Llywodraeth,
nid oedd yr ysgolion wedi cau, ond yn hytrach yn agored ac yn dysgu o bell. Roedd y sefyllfa’n rhwystredig i ysgolion ac
awdurdodau addysg, ond fel y nodwyd, byddai hyn yn cael ei godi yn y cyfarfod
cyfrifwyr, ac roedd hefyd wedi ei godi gan awdurdodau ledled Cymru. PENDERFYNWYD cynnal trafodaeth gyda’r penaethiaid uwchradd ynglŷn â sail dyrannu dyraniad ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
RHAGOLYGON YSGOLION PDF 269 KB Adroddiad gan
Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp
Ysgolion) (ynghlwm). COFNODION: Cyflwynwyd
er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu ar
ragolygon cyllidol 3 mlynedd i ysgolion ddechrau mis Rhagfyr 2020 ar sail
cyfrifiad nifer disgyblion Medi 2020. Nodwyd bod
yr ystadegau’n dangos niferoedd cynradd yn lleihau yn sgil disgyblion hŷn
yn symud i fyny i’r sector uwchradd, a’r niferoedd sy’n cychwyn cynradd wedi /
yn lleihau. O ganlyniad, dros y 3
mlynedd, rhagwelid lleihad oddeutu £1m yn ein hysgolion cynradd – cyfwerth ag
oddeutu 18 llai o athrawon, a chynnydd yn y sector uwchradd cyfwerth â chynnydd
o 15 o athrawon. Cyfeiriwyd
at sefyllfa yn y gorffennol pan y bu i’r cynradd gynorthwyo’r uwchradd, a
holwyd a fyddai’n bosib’ i’w uwchradd dalu’r gymwynas yn ôl petai trafferthion
yn codi yn y cynradd. Mewn ymateb,
eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion y digwyddodd hynny ar yr adeg yr oedd
yr ysgolion yn wynebu arbedion o £4.3m, ac yn hytrach na bod yr arbedion yn
cael eu rhannu’n gyfartal, roedd mwy o bwysau ar y cynradd i ganfod arbedion er
mwyn helpu’r uwchradd. Ychwanegodd y
Pennaeth Cyllid nad oedd y sefyllfa cynddrwg rŵan, gan nad oedd y Cyngor
yn gofyn i’r gwasanaethau na’r ysgolion am gynlluniau arbedion newydd
ychwanegol erbyn 2021/22, a bod sefydliadau unigol wedi cynllunio am y senario
gyda demograffi, lle bydd arian yn dilyn disgyblion. Hefyd, nodwyd, o gymharu data 2019/20 y 22
awdurdod addysg Cymreig, bod cyllid fesul disgybl cynradd Gwynedd yr uchaf drwy
Gymru ar sail gros ac yn 2il ar sail net.
Yn yr un amser, roedd cyllid fesul disgybl uwchradd Gwynedd yr 8fed
uchaf ar sail gros ac yn 13eg ar sail net.
O ganlyniad, gellid casglu fod Gwynedd yn ymddangos i ariannu’r cynradd
yn weddol anrhydeddus, o’i gymharu â’r uwchradd. Yn wyneb hyn, ni chredid ein bod mewn
sefyllfa i ofyn i’r sector uwchradd sybsideiddio’r sector gynradd ar hyn o
bryd. Nodwyd hefyd
nad oedd grantiau penodol ysgolion am 2021/22 wedi’u cadarnhau, ac nad oedd
gwarant bod pob grant yn parhau, nac yn cynyddu / lleihau ar gyfer y flwyddyn
nesaf. Mewn ymateb,
awgrymodd y Pennaeth Cyllid fod posibilrwydd cryf y byddai mwyafrif y grantiau
yn aros ar yr un lefel, fel ‘cash flat’, oherwydd o’r hyn dderbyniwyd gyda’r
‘setliad’, nid oedd newidiadau mawr i’w gweld eto. Er hynny, nododd y bu i’r Llywodraeth gwtogi
lefel y grantiau penodol ysgolion ym mis Ebrill / Mai 2020, felly byddai peth
ansicrwydd yn parhau hyd nes derbynnir cadarnhad swyddogol gan Lywodraeth
Cymru. PENDERFYNWYD
derbyn yr wybodaeth. |
|
CYLLIDEB Y CYNGOR 2021/22 Adroddiad llafar
a chyflwyniad sleidiau gan Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid). COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad llafar a chyflwyniad sleidiau gan y Pennaeth Cyllid ar gyllideb
2021/22 y Cyngor, gan amlygu’r effaith tebygol ar gyllid ysgolion. Nodwyd
amserlen penderfynu ar gyllideb a threth 2021/22, darpariaeth llawn am gytundeb
tâl athrawon Medi 2020 (3.1% am 5 mis yr haf), ynghyd â £250 yr un i staff
ategol ar gyflogau is na £24k, ariannu incrementau cyflog athrawon, darpariaeth
ar gyfer chwyddiant ar gyflenwadau, ynni, cludiant tacsis disgyblion (£207k),
ayb, a demograffi (£187k) yn seiliedig ar gynnydd net mewn nifer disgyblion. Nodwyd
tebygolrwydd o ariannu bidiau un tro cludiant tacsis (£145k) a Rhaglen Ysgolion
21ain Ganrif (£42.5k), ynghyd â bidiau parhaol cludiant tacsis (£145k arall) a
phrydau ysgol am ddim (£124k). Fodd bynnag,
eglurwyd bod y setliad grant £7m oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cyfarch
chwyddiant £6.9m, ond yn annigonol ar gyfer cwrdd â’r cynnydd mewn galw am
wasanaethau. Felly,
nodwyd y bydd tynged y bid ‘cryfhau darpariaeth ADY blynyddoedd cynnar; (£226k)
yn dibynnu ar barodrwydd cynghorwyr Gwynedd i gynyddu lefel y Dreth Cyngor, tra
bo nifer o drethdalwyr yn dioddef yn ariannol oherwydd yr argyfwng COVID. Pwysleisiodd
y Pennaeth Cyllid fod y ffigurau yn dal i symud, a gofynnwyd i’r aelodau beidio
rhyddhau’r wybodaeth. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth. |
|
STRATEGAETH DIGIDOL YSGOLION Adroddiad llafar gan
Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirionnydd). COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad llafar gan Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirionnydd yn nodi bod y
drafodaeth lefel uchel yn parhau o ran y dewisiadau. Cadarnhaodd na fyddai yna ymrwymiad cyllidol
newydd ychwanegol ar yr ysgolion y flwyddyn nesaf, ac y byddai aelodau’r fforwm
yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau dros y misoedd nesaf. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH 2021-24 PDF 118 KB Adroddiad gan
Owen Owens (Uwch Reolwr Gwasanaeth
Adnoddau Addysg) (ynghlwm). COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn nodi bod y
cytundebau canlynol yn dod i ben ar 31/3/21:- ·
Arlwyo,
Glanhau a Gofalu a Chynnal Tiroedd (cynradd / uwchradd / arbennig a dilynol) ·
Canolfan
Fusnes Addysg (cynradd) Eglurwyd bod
y cytundebau Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chanolfan Fusnes Addysg yn cael eu
cynnig eto am y cyfnod 1/4/21 – 31/3/24, ond bod y cytundeb Cynnal Tiroedd yn
cael ei gynnig am flwyddyn yn unig (1/4/21 – 31/3/22) gan fod y gwaith yn
parhau o fodelu dyraniadau ar gyfer Cynnal Tiroedd i ysgolion, fel eu bod yn
adlewyrchu gofynion cynnal tiroedd y safleoedd unigol yn well. Nodwyd
ymhellach:- ·
Bod
proses ymgynghori yn cael ei gynnal gydag ysgolion parthed y Cytundebau Lefel
Gwasanaeth fyddai’n cael eu cynnig iddynt yn Ebrill 2021. ·
Bod
yr ysgolion wedi derbyn copïau o’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth drafft a
gyflwynwyd gan y gwasanaethau, gan amlygu’r newidiadau ynddynt o’u cymharu â’r
cytundebau presennol, ac y gwahoddwyd yr ysgolion i gyflwyno unrhyw sylwadau
erbyn 12 Chwefror, 2021. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir
cyfarfod nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 1 Mawrth, 2021. COFNODION: Nodwyd y cynhelir cyfarfod
nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 1 Mawrth, 2021. |