Lleoliad: Virtual Meeting - Teams
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/2023 COFNODION: PENDERFYNWYD ail-ethol Arwyn Williams,
Pennaeth Ysgol Brynrefail, yn Gadeirydd y Fforwm am 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/2023 COFNODION: PENDERFYNWYD gan nad oedd enw yn cael ei
gynnig ar gyfer y rôl is-gadeirydd y byddai y rôl yn cael ei gadael yn wag am y
tro, er mwyn gallu symud ymlaen gyda y cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard (Prif
Weithredwr), Siôn Huws (Adran Gyfreithiol y Cyngor), Y Cynghorydd Gwilym Jones
(Llywodraethwr Ysgol Borthygest) a Donna Roberts
(Ysgol Hafod Lon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w
nodi. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2022 COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
Fforwm a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2022 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Trafod unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion. COFNODION: Nodwyd bod nifer o’r materion eisoes wedi eu cynnwys ar
yr agenda. |
|
BALANSAU YSGOLION 31/3/22 PDF 220 KB Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion). Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp
Ysgolion, gan nodi bod patrwm cenedlaethol yn ymddangos yn y ffigyrau oedd yn
mynd hyd at ddiwedd Hydref. Cadarnhawyd
mai Gwynedd yw’r Awdurdod gyda’r balansau uchaf y pen
yng Nghymru, gyda dim un o ysgolion Gwynedd mewn diffyg. Ategwyd at hyn gan y Pennaeth Addysg, oedd
wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, oedd yn cadarnhau fod y balansau yn anghyffredin o uchel, a’u hawgrym o gynllun
gwario dros dair blynedd. Nododd y Cyfrifydd Grŵp y bydd £7.5 miliwn yn
diflannu erbyn diwedd y flwyddyn os yw cynlluniau yn cael eu cario allan. Cadarnhawyd nad oes trafodaeth wedi bod gydag ysgolion
unigol, ond nad yw y sefyllfa mor addawol ac mae y balansau
yn ei awgrymu, gyda llawer o ysgolion wedi ymrwymo i wario yn y flwyddyn
newydd. Nodwyd bod materion ychwanegol
hefyd megis codiadau cyflogau, a chynnydd mewn prisiau tanwydd fydd yn
effeithio ar y ffigyrau. Cadarnhawyd na
fydd lleihad yn grantiau sylweddol y Llywodraeth. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2022/2023 PDF 371 KB Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion). COFNODION: Atgoffodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion y Fforwm o’r
grantiau sylweddol sydd wedi eu derbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o’u
cymharu gyda grantiau eleni o £13 miliwn.
Nodwyd, yn flaenorol, fod grant hwyr refeniw cynnal a chadw wedi ei
dderbyn, ond cadarnhawyd nad yw hwn ar y cardiau eleni. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
STRATEGAETH ARIANNOL Y CYNGOR 2023/2024 Adroddiad
Llafar gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid) COFNODION: Rhoddwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, a gadarnhaodd
bod llawer o’r wybodaeth yn newid yn barhaus, ac na fydd ffigwr Setliad
Ariannol yr Awdurdod ar gael nes 14 Rhagfyr.
Nododd y Pennaeth Cyllid ei bod yn ymddangos y bydd y setliad yn llai
gwael na’r hyn yr oedd wedi ofni, a rhannodd sleidiau gyda’r Fforwm. Cyfeiriodd at faterion fydd yn cael effaith
ar y setliad megis chwyddiant cyffredinol o 10/11%, a bod digartrefedd wedi
cynyddu yn y Sir. O ran sefyllfa ariannol y flwyddyn gyfredol (2022/23),
cadarnhawyd na fydd grantiau ychwanegol, a disgwylir bydd gorwariant o £7.1
miliwn yn erbyn cyllideb y Cyngor. Gan
na ddisgwylir grantiau ychwanegol eleni, bydd rhaid llenwi’r bwlch trwy
ddefnyddio balansau y Cyngor. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at lythyr oedd
eisoes wedi ei ddanfon at Benaethiaid ynglŷn â’r bwlch ariannol, ond
nodwyd efallai y daw y bwlch i lawr fymryn. Nodwyd bod ffigyrau cyfrifiad 2021 yn dechrau bwydo
drwodd hefyd, ac mae llygedyn o obaith y bydd y setliad fymryn yn well na’r hyn
oedd wedi ei ragweld. Cadarnhawyd
efallai y bydd posib prynu amser yn 2023/24 ond wrth gwrs mae hyn yn ddibynnol
ar gyhoeddiad y Gweinidog. Cyfeiriwyd at yr opsiynau i gau’r bwlch, ond mae yna
waith balansio, yn enwedig gan fod y sefyllfa
ariannol wedi newid mor annisgwyl ers dechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol. Cyfeiriwyd at y drefn blaenoriaethu, gan gadarnhau bod y
Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr yn edrych ar y cynigion unigol o bob Adran, a
bydd hyn yn cael ei ddilyn gan bob Pennaeth yn mynd gerbron y Tîm
Arweinyddiaeth 19 a 20 Rhagfyr i drafod ymhellach. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at fodelu toriadau o 1% i 6%
ar gyfer ysgolion, ac er y gellir prynu amser, dim ond am gyfnod mae hyn yn
bosib. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y drefn a ffigyrau
dangosol gyda thoriad fflat ar draws y sectorau i gyd. Nododd bod 6% yn gyfystyr â £4.8 miliwn, ond
pwysleisiwyd mai ffigyrau dangosol ydy y rhain. Cadarnhawyd yr angen am gyfarfod arall ddiwedd
Ionawr/dechrau Chwefror yn ddibynnol ar ddyddiaduron. Pwysleisiwyd mai y rhain yw y ffigyrau gwaethaf. Diolchodd y Pennaeth Addysg am gyflwyniad da, eglur, gan
nodi bod yn rhaid i bob Adran baratoi, ond nad oedd modd darogan y sefyllfa ar
hyn o bryd. Agorwyd y cyfarfod i gwestiynau / sylwadau : Nododd y Cadeirydd mae un peth yw dangos ffigyrau, ond
nid yw y ffigyrau yn dangos sefyllfa fregusrwydd
plant sydd yn dod dros Covid. Nododd y Pennaeth Addysg bod gwaith adfer y
sefyllfa effaith Covid ar blant. Yn ychwanegol, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg
ei fod wedi gorfod darlunio ardrawiad ar bobl Gwynedd wrth wneud cynigion i’r
Tîm Arweinyddiaeth. Nododd y Pennaeth
Addysg yr angen i ystyried y toriadau cyffredinol ar draws y tri sector, er bod
y dip demograffeg wedi taro y cynradd ac eto i ddod i’r uwchradd. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod pob cynnig yn cael ei
ystyried, ar draws y Cyngor. Cododd Cynrychiolydd yr Undeb gwestiwn ynglŷn ... view the full COFNODION text for item 10. |
|
CANOLFANNAU IAITH 2023/2024 Adroddiad Llafar
gan Rhys M Glyn, (Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd) COFNODION: Cafwyd cyflwyniad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi
Gwynedd. Cyfeiriodd at y cyfarfod
28/6/21 ble drafodwyd y Grant Gwella Addysg a’r gymeradwyaeth ynglŷn â’r
cyfraniad gan ysgolion. Nododd y bwriad
i fodelu opsiynau er mwyn ymgynghori gydag ysgolion a’r Fforwm. Nododd y dymuniad na fydd angen mynd ar ofyn
ysgolion ac y bydd modd dod o hyd i’r arian eleni, gan drafod ymhellach yn y
cyfarfod nesaf sut y bydd yn cael ei ariannu. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i dderbyn diweddariad
pellach yn y cyfarfod nesaf. |
|
INTEGREIDDIO 2023/2024 PDF 479 KB Cyflwyniad
gan Ffion Edwards Ellis, (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad) Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyfeiriwyd at yr arolwg ar-lein oedd wedi ei rannu er
mwyn derbyn sylwadau Penaethiaid. Cadarnhawyd bod 33 holiadur wedi dod i law,
gyda Model 7 ar gyllidebu ysgolion yn cael ei ffafrio. Nodwyd bod y sylwadau yn trafod effaith Model
7 ar gyllidebau ysgolion ac y byddent yn symud ymlaen i wneud mwy o waith ar
Fodel 7. Cadarnhawyd mai y camau nesaf fydd edrych ar Fodel 7 yn
fwy gofalus, gan ystyried y sylwadau, gan edrych ar newid yn Ebrill 2023, ac
yna ail-drafod os ydy y model yn addas ai peidio. Croesawodd y Cynrychiolydd Undeb bod y gwaith sicrhau
ansawdd y data yn cael ei wneud gyda swyddogion ansawdd. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a
Chynhwysiad y bydd gwaith yn cael i wneud i edrych os yw'r pwysedd yn
gywir. Yn ychwanegol, nododd mai wrth
wneud y gwaith modelu y bydd yn dod yn glir os oes rhywbeth ddim yn iawn. Cadarnhawyd y bydd yn cael sylw drwy lygaid
darparwyr. Cadarnhawyd y bydd diweddariad yn cael ei roi yn y
cyfarfod Ionawr/Chwefror. Cwestiynwyd a oes grŵp yn edrych ar y gwaith a
chadarnhawyd bod gweithgor yn bodoli ond bod angen cynrychiolaeth newydd. Cadarnhawyd bod Gwynedd yn symud ymlaen yn
dda ac o flaen ambell Sir gyfagos. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i dderbyn diweddariad
pellach yn y cyfarfod nesaf. |
|
RHAGOLYGON TAIR MLYNEDD PDF 269 KB Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfrifydd Grŵp Ysgolion,
ble nodwyd bod y Sir yn edrych ar golli 550 o blant cynradd oherwydd lleihad
mewn niferoedd. Golyga hyn golli £1.2
miliwn yn y sector cynradd dros dair blynedd.
Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru yn ail-edrych ar Grant y Chweched, ond
efallai y byddent yn symud i’w osod ar ffigyrau gwir, a chadarnhawyd bod popeth
i fyny yn yr awyr. Nodwyd os yw balansau wedi mynd,
y bydd angen pontio Ebrill i Awst.
Nodwyd bod llawer o bethau i fyny yn yr awyr ar hyn o bryd a bod
ystadegau genedigaethau yn ymddangos i fod yn gostwng. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETHAU 2023 PDF 121 KB Adroddiad
gan Owen Owens, (Uwch Reolwr Ysgolion) COFNODION: Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod
wyth cytundeb yn dod i ddiwedd eu hoes a bod ysgolion wedi cael cynnig rhoi
sylwadau, ac y byddent yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf, mewn manylder. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a
chael diweddariad yn y cyfarfod nesaf. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I’w
Gadarnhau COFNODION: Cadarnhawyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal
Dydd Llun 6 Chwefror am 3.30 p.m. dros Teams.
Dechreuodd
y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 5.00 y.h. |