Lleoliad: Virtual Meeting - Teams
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2023/2024 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Mr Richard Jones,
Pennaeth Ysgol Chwilog yn Gadeirydd y Fforwm am 2023/2024. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/2024 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Mr Dylan Minnice,
Ysgol Botwnnog yn Is-Gadeirydd y Fforwm am 2023/2024. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg), Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Brian Jones (Llywodraethwyr Arfon), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwyr, Arfon), Ms Eleri Moss, Mrs Donna Roberts (Ysgolion Arbennig), Mr Eifion Roberts (Llywodraethwyr Meirionnydd), Debbie Anne Williams Jones (Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol) a Menna Wynne-Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror, 2023 Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
Fforwm a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2023 fel rhai cywir, gan dderbyn diweddariad
fel y nodir isod. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION I drafod unrhyw faterion
sydd yn codi o’r cofnodion nad
ydynt yn ymddangos ar yr Agenda Cofnod: Eitem 7 - Canolfannau Iaith - cadarnhawyd nad oedd
diweddariad ar gael ar hyn o bryd.
Amlinellwyd y trefniant hanesyddol o dderbyn y grant a’r bwriad i
ail-drafod y trefniant gyda GwE. Eitem 9 - Integreiddio a Dull Dyrannu i Ysgolion -
cadarnhawyd nad oedd diweddariad ar gael ar hyn o bryd. Cadarnhawyd y byddai trefniadau yn rhy hwyr
i’w gweithredu erbyn Medi 2023, felly bod angen edrych ar y tymor
canlynol. Cadarnhawyd bod y gyllideb
integreiddio, a’r dull o rannu ar sail oriau plant, angen sylw pellach. |
|
BALANSAU YSGOLION 31 MAWRTH 2023 PDF 216 KB Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyfeiriodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion at y papur oedd
yn manylu balansau ysgolion unigol ar 31 Mawrth 2023. Cadarnhaodd bod y sefyllfa yn debycach i’r
arfer erbyn hyn, gyda lleihad o £4.8 miliwn.
Nodwyd bod tair Ysgol mewn diffyg a bod y gwaith o adolygu y balansau yn
cymryd lle nawr, er bod disgwyl lleihad pellach erbyn diwedd y flwyddyn. Codwyd y pryder ynglŷn â sefyllfa y grantiau hwyr, gan
gadarnhau bod pum grant hwyr wedi ei derbyn gan ysgolion oedd gyfystyr a
£96,000, ac nad oedd yn sefyllfa i’w chroesawu.
Cyfeiriwyd at sefyllfaoedd o
gario drosodd mwy na £700,000, ond bod rhaid cynllunio gyda ffigwr o £230,000 o
dan ystyriaeth. Cadarnhaodd y Pennaeth
Cyllid bod balansau mawr yn mynd drosodd. Cwestiynwyd faint o ysgolion sydd yn debyg o fod mewn twll
cyllidol ar ddiwedd 2024 a chadarnhawyd bod llawer o ysgolion wedi penodi dros
dro trwy ddefnyddio balansau eleni ac o ganlyniad bydd y lefelau wedi gostwng
yn sylweddol erbyn mis Medi. Nodwyd y pryder, gyda y swyddi dros dro yn dod i ben, bod y
plant yn parhau i fod angen cefnogaeth a’i bod yn anodd iawn ei cefnogi. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2023/2024 Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) – Papur i’w gyflwyno yn y cyfarfod Cofnod: Cadarnhawyd y bydd papur yn cael ei gyflwyno yn y
cyfarfod nesaf gan y bydd modd cadarnhau bryd hynny y grantiau cyflymu dysgu,
datblygu disgyblion (PDG) a datblygu plant.
Cadarnhawyd y bydd Bwrdd GwE yn cyfarfod i ystyried y Grant Consortia
maes o law, ac y bydd cadarnhad yn cael ei rannu ar ddiwedd y tymor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn y
cyfarfod nesaf. |
|
TAL ATHRAWON 2022/2023 A 2023/2024 PDF 414 KB Adroddiad
gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion), Hywyn Lewis Jones
(Cyfrifydd Grŵp Addysg, Economi a Chymuned) a Ffion Madog Evans (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, Cyfrifeg a Phensiynau – Adroddiad i ddilyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymddiheurwyd gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod y
papur yn hwyr yn cael ei ddosbarthu, ond gobeithiwyd bod y neges, ar fater
cymhleth iawn, wedi cael ei roi drosodd mewn modd syml. Tywyswyd Aelodau y Fforwm drwy y papur, oedd
wedi ei gynhyrchu mewn ymateb i gais o’r Grŵp Uwchradd, yn gofyn am
eglurhad ar sut mae arian yn cyrraedd y Cyngor ac yn cael ei rannu. Amlinellwyd y cefndir a arweiniodd at y sefyllfa, gan
nodi y bu i Lywodraeth Cymru ddatgan codiad o 5%. Diwedd Mawrth cynigwyd 3% gan Lywodraeth
Cymru, gyda chodiad pellach o 1.5% a 1.5% heb ei gyfuno fel cynnig cyflogau
athrawon. O ran Cyngor Gwynedd, cadarnhawyd bod 3% wedi ei
glustnodi yn y gyllideb wreiddiol ar gyfer codiadau athrawon, ond gan mai 5%
oedd y codiad, bod bwlch amlwg. Mewn
ymateb, bu i Gyngor Gwynedd ryddhau 1%, ac yn dilyn trafodaethau gyda CLlLC, bu
i Cyngor Gwynedd ymdrin â’r 1% arall. O ran y 3%, bu i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddent yn
rhoi grant – hynny yw 1.5% am saith mis a 1.5% heb ei gyfuno am flwyddyn
academaidd gyfan, sef £1.1 miliwn. Cadarnhawyd, er mwyn cau y cyfrifon, rhaid oedd
amcangyfrif y swm, ond roedd yr ymdeimlad nad oedd wedi bod yn ddigon i lenwi y
bwlch. Cadarnhawyd ymhellach bod y setliad ar sail data, gyda’r
arian wedi cyrraedd Cyngor Gwynedd ac yna’r Cyngor yn penderfynu ar y dyraniad
i ysgolion unigol ar sail fformiwla.
Nodwyd bod bob ceiniog wedi ei thargedu ac yn cyrraedd ysgolion. £480,000 oedd y grant, sef 1.5% parhaol a
£638,000 unwaith ac am byth, oedd yn grant llawn. Nodwyd bod elfen o grant Chweched Dosbarth
hefyd. Adroddwyd bod y gêm yn newid ar
bob cam a’i bod yn gymhleth iawn.
Tynnwyd sylw at y sgil effeithiau, gan nodi er bod pawb yn derbyn bod
rhaid cael ffordd i ddyrannu, bod y sefyllfa yn effeithio ar y staff sydd yn
cael eu cyflogi gan Ysgolion, ac nid y staff sydd yn dysgu. Cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi dyrannu’r grant ar sail
lefel staffio ‘FTE’ sydd yn y fformiwla ond bod sefyllfaoedd lle mae
gwahaniaeth rhwng y nifer o staff sydd yn y fformiwla yma a faint sydd yn cael
eu cyflogi. Ehangwyd ar hyn gan nodi bod
y bwlch sylweddol oherwydd y fethodoleg.
Holiwyd ymhellach am ffigwr ar gyfer costau staff dysgu a’r hyn mae
Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau. Roedd
Aelodau y Fforwm yn gytûn ei bod yn sefyllfa annheg iawn. Nododd y Cadeirydd nad oedd y cynnydd yng nghyflogau
staff ategol wedi ei gwrdd yn 2022/23, ac nad oedd penderfyniad wedi ei wneud
ar godiadau hyd yma. Nododd y Rheolwr
Cyllid bod canran uwch wedi ei glustnodi ar gyfer 2023/24, ond nid oedd unrhyw
sicrwydd y byddai yn ddigonol. Codwyd y pryder bod rhai ysgolion a balansau i allu amsugno y sefyllfa, a chwestiynwyd a oes arian cyfatebol yn dod i Gymru? Cadarnhawyd mai mater i Lywodraeth Cymru yw hyn, ond nad oes rheidrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH Adroddiad
gan
Diane Pritchard-Jones (Pennaeth Cynorthwyol – Gwasanaethau Addysg) – Adroddiad Llafar Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Pennaeth Cynorthwyol
Gwasanaethau Addysg. Cadarnhawyd bod
ambell Gynllun wedi ei adolygu a bod rhai Cynlluniau ble derbyniwyd sylwadau ac
o ganlyniad fe’i hail hystyriwyd.
Cadarnhawyd bod y sefyllfa rhywbeth yn debyg i’r arfer, ond bod rhai
ysgolion heb gysylltu i roi gwybod un ffordd neu’r llall. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
UNRHYW FATER ARALL I godi
unrhyw fater perthnasol Cofnod: Fformat cyfarfodydd y dyfodol – ‘roedd yr opsiwn i
gyfarfod yn hybrid wedi ei gynnig i Aelodau y Fforwm ar gyfer y cyfarfod hwn,
ac un yn unig oedd yn yr Ystafell Gyfarfod.
Cwestiynwyd dymuniad aelodau y Fforwm ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. Nododd y Pennaeth Gwasanaeth bod manteision ac
anfanteision i’r opsiynau - weithiau mae cyfarfod yn well wyneb i wyneb, ond
mae gan rai unigolion cryn waith teithio i gyrraedd cyfarfod yng
Nghaernarfon. Cytunwyd i gynnig opsiwn hybrid ar gyfer cyfarfodydd y
dyfodol, gan atgyfnerthu y neges bod yr opsiwn hybrid ar gael a bod y gofod ar gael. Arolwg Estyn – cadarnhawyd y bydd Adroddiad Estyn yn cael
ei chyhoeddi 20 Medi 2023 a bydd yn cael sylw yn y cyfarfod nesaf, fydd yn cael
ei raglennu tuag at ddiwedd y tymor. Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau. Dechreuodd
y cyfarfod am 3.35 y.h. a daeth i ben am 4.30 y.h.. |