Lleoliad: Hybrid Meeting - Cyngor Gwynedd Offices and Teams
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2024/25 Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol Mr Richard Derwyn Jones, Pennaeth Ysgol Chwilog
yn Gadeirydd y Fforwm am 2024/2025, gan mai dim ond un cyfarfod a gynhaliwyd yn
ystod y flwyddyn 2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25 Cofnod: Atgoffwyd yr Aelodau o’r
trefniant bod y Gadeiryddiaeth ac Is-gadeiryddiaeth yn cylchdroi rhwng y sector
gynradd ac uwchradd. Nodwyd fel mater o drefn ei fod yn angenrheidiol i ethol
unigolyn o’r sector uwchradd fel Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 gan fod y
Cadeirydd yn unigolyn o’r sector cynradd. PENDERFYNWYD
cynnal trafodaeth yng nghyfarfod Grŵp Strategol Penaethiaid Uwchradd er
mwyn ethol Is-gadeirydd, gan adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Fforwm hwn. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard
(Prif Weithredwr) a Dewi
Morgan (Pennaeth Cyllid), Diolchwyd i’r Cynghorydd Ioan Thomas, Iona
Jones (Ysgol Edmwnd Prys), Menna Pugh (Ysgol Penybryn), Dylan Minnice (Ysgol Botwnnog) a Bleddyn Jones (Llywodraethwr Ysgol Tregarth) am eu
gwaith a’u cyfraniad i’r Fforwm.
Cadarnhawyd bod yr unigolion hyn i
gyd wedi symud ymlaen o’u
swyddi ers cyfarfod blaenorol y Fforwm ac nid ydynt
yn Aelodau erbyn hyn. Croesawyd Pennaeth yr Adran Addysg yn ffurfiol i’w gyfarfod cyntaf o’r Fforwm yn ogystal â’r Aelod Cabinet Cyllid newydd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2023. (Copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2023
fel rhai cywir, gan dderbyn diweddariad fel y nodir isod. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddangos ar yr Agenda. Cofnod: Eitem 3 – Ymddiheuriadau –
addaswyd y cofnod i ddatgan bod Eleri Morgan Davies (Ysgol y Gorlan) wedi cyflwyno ymddiheuriadau o’r cyfarfod. |
|
AELODAETH Y FFORWM I dderbyn diweddariad llafar Cofnod: Adroddwyd ar aelodaeth y
Fforwm fesul grŵp cynrychiolaeth gan dynnu sylw at y pwyntiau isod: · Penaethiaid
Uwchradd - cadarnhawyd bod 4 sedd o fewn y grŵp aelodaeth.
Nodwyd bod un sedd wag angen ei lenwi ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw bydd hyn yn
debygol o newid yn y dyfodol agos wrth i sedd bresennol cynrychiolydd Ysgol
Botwnnog droi’n sedd wag. Pwysleisiwyd y bydd angen llenwi dwy sedd wag o fewn
y grŵp aelodaeth hwn. · Penaethiaid
Cynradd - cadarnhawyd bod 6 sedd o fewn y grŵp aelodaeth.
Nodwyd bod tair sedd wag angen eu llenwi ar hyn o bryd. · Undebau
Athrawon – cadarnhawyd bod Clive Thomas (Ysgol Syr Hugh Owen) yn
cynrychioli’r undebau o fewn y Fforwm ac nid oes unrhyw sedd wag o fewn y
grŵp aelodaeth. · Llywodraethwyr –
cadarnhawyd bod 6 sedd o fewn y grŵp aelodaeth – 2 aelod ar gyfer pob
rhanbarth o’r Sir. Eglurwyd bod cynrychiolaeth ar gyfer Meirionnydd a Dwyfor yn
gyflawn ond mae un sedd wag i’w lenwi gan gynrychiolydd o ardal Arfon. · Esgobaeth –
cadarnhawyd bod y sedd hon yn wag ar hyn o bryd. · Ysgolion
Eglwys ac Ysgolion Arbennig – Cadarnhawyd nad oes sedd wag yn y
grwpiau aelodaeth hyn. Eglurwyd bod aelodaeth y
Fforwm wedi cael ei drafod mewn cyfarfod o benaethiaid dalgylchol
yn Arfon yn ddiweddar a mynegwyd syndod am brinder aelodau. Gofynnwyd i
swyddogion sicrhau bod cyfleoedd i ymuno â’r Fforwm yn cael eu rhannu gyda
phenaethiaid er mwyn sicrhau bod seddi gwag yn cael eu llenwi’n amserol. PENDERFYNWYD
paratoi dogfennaeth er budd y grwpiau strategol yn cadarnhau gofynion aelodaeth
y Fforwm a gofyn am aelodau newydd i ymuno erbyn y cyfarfod nesaf ym mis Medi
2024. Caniatawyd cynrychiolaeth penaethiaid cynradd ac uwchradd presennol i
godi’r mater mewn cyfarfodydd penaethiaid dalgylchol
priodol. |
|
CYTUNDEB LEFEL GWASANAETH I dderbyn diweddariad llafar gan Debbie Anne Jones, Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad
llafar gan y Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol gan dynnu sylw at
y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd bod angen
cadarnhau cytundebau lefel gwasanaeth presennol ac ystyried unrhyw addasiadau
posib ar gyfer y dyfodol. Ystyriwyd bod 12 o
gytundebau lefel gwasanaeth mewn bodolaeth, gyda 10 ohonynt yn gyfredol.
Esboniwyd bod 8 o’r cytundebau lefel gwasanaeth wedi eu diweddaru ar gyfer
2023-26 a'u bod yn manylu ar drefniadau Adnoddau Dynol, Archifau, Amgueddfeydd,
Cyflogau a Chontractau, Cynnal Tiroedd, Cynnal a Chadw Eiddo a Llyfrgelloedd.
Cadarnhawyd bod cytundeb ar gyfer Canolfan Busnes Addysg (Cynradd) wedi cael ei
gadarnhau ar gyfer 2024-29. Sicrhawyd bod cytundeb
gwasanaeth Arlwyo wedi cael ei ddiweddaru am gyfnod o dair blynedd ar gyfer
ysgolion cynradd, ac am gyfnod o flwyddyn ar gyfer yr ysgolion uwchradd ar hyn
o bryd. Ymhelaethwyd bod yr un trefniadau mewn lle ar gyfer cytundebau glanhau
yn y sectorau cynradd ac uwchradd fel y cytundebau arlwyo uchod. Cydnabuwyd bod 2 cytundeb
lefel gwasanaeth wedi dyddio gan dynnu sylw at yr angen i ail edrych arnynt.
Manylwyd bod y cytundebau hyn yn ymwneud â’r maes Cyllid a Rheoliadau banc,
taliadau, incwm a derbyn arian. Gofynnwyd am ganiatâd y
Fforwm i ymestyn y cytundebau lefel gwasanaeth sydd wedi dyddio, er mwyn gallu
sicrhau bod trefniadau mewn lle erbyn mis Ebrill 2025 er mwyn galluogi
adolygu’r cytundebau’n drylwyr i’r cyfnod nesaf. Pwysleisiwyd bod gwasanaethau
yn parhau i gael eu darparu i bob ysgol PENDERFYNWYD
ymestyn cytundebau lefel gwasanaeth hyd at Ebrill 2025, er mwyn sicrhau
trefniadau ar gyfer llunio cytundebau mwy diweddar o Ebrill 2025 ar gyfer y
blynyddoedd nesaf. |
|
FFORMIWLA CYLLIDO YSGOLION UWCHRADD - ADOLYGU ARLWYAETH A GLANHAU I dderbyn diweddariad llafar gan Kathy Bell, Cyfrifydd Grŵp – Ysgolion Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
llafar gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion gan dynnu sylw at y prif bwyntiau
canlynol: Eglurwyd bod grŵp
penaethiaid uwchradd wedi cyfarfod er mwyn ystyried adolygu trefniadau
presennol arlwyaeth a glanhau ysgolion ac ystyried trefniadau i’r dyfodol.
Ymhelaethwyd mai Geraint Williams sydd yn arwain ar y gwaith, gan edrych ar
gostau’r gwasanaethau i’r holl ysgolion. Adroddwyd yn ogystal, bod fformiwla
cyllido mewn lle ar gyfer arlwyaeth a glanhau gan fanylu bod £1.2miliwn wedi ei
glustnodi ar gyfer arlwyo ac £1miliwn ar gyfer trefniadau glanhau. Esboniwyd mai’r trefniant
presennol ar gyfer addysg uwchradd yw bod y dyraniad ar gyfer y gwasanaethau yn
cyrraedd yr ysgolion yn unol â maint yr ysgol, ond cydnabuwyd nad yw hynny’n adlewyrchu’r gwasanaeth sydd yn cael
ei ddarparu. Nodwyd felly bod addasiadau yn debygol er mwyn sicrhau bod y
gwasanaethau yn cael eu hariannu’n gywir ar draws y sir. Nodwyd gall hyn arwain
at gynnydd neu ostyngiad ar gyfer dyraniad arlwyaeth a glanhau ar lefel
ysgolion unigol. Tynnwyd sylw nad ydi maint y gwariant ar lefel sirol yn cael
ei addasu. Nodwyd bod penaethiaid yn
awyddus i gael trafodaeth bellach ar y fformiwlâu hyn er mwyn sicrhau bod pawb
yn deall eu natur a’u cymhlethdod ac i ystyried os yw’r fformiwlâu yn parhau i
fod yn addas ar gyfer ysgolion. Cadarnhawyd bod yr Adran yn awyddus i gynnal y
drafodaeth hon. Ymrwymwyd i gynnal y trafodaethau hyn o fewn cyfarfodydd y
fforymau strategol cyn adrodd yn ôl ar safbwyntiau, sylwadau ac argymhellion y
penaethiaid, mewn cyfarfod o’r Fforwm hwn. PENDERFYNWYD :
Cynnal trafodaeth bellach ar fformiwlâu arlwyaeth a glanhau yn dilyn derbyn
sylwadau ac argymhellion y penaethiaid yn dilyn cyfarfod o’r fforymau
strategol. |
|
TRAFODAETHAU TORIADAU ARIANNOL Cychwyn Trafodaethau Toriadau – Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan
Bennaeth yr Adran gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr Aelodau o’r
angen i ddatblygu cynlluniau arbedion a thoriadau ar draws y Cyngor yn sgil y
sefyllfa ariannol bresennol. Esboniwyd bod y Cyngor wedi gwneud toriadau
cyfwerth â 3% dros y ddwy flynedd diwethaf ar draws ei wasanaethau ond pwysleisiwyd
yr angen am fwy o doriadau i’r dyfodol. Manylwyd bod y Cyngor yn
chwilio i wireddu toriadau gwerth 3% pellach dros y tair blynedd nesaf (oddeutu
£36miliwn). Pwysleisiwyd nad oes penderfyniadau pendant wedi cael eu gwneud hyd
yma a bod Pennaeth yr Adran yn cyflwyno cynlluniau’r Adran ar gyfer arbedion a
thoriadau i’r Aelodau Cabinet ac Arweinydd y Cyngor dros yr wythnosau sydd i
ddod gan amlygu cost gwasanaethau a rhestru gwasanaethau statudol. Ymhelaethwyd yr ystyrir
bod hyn yn doriad o £2.7miliwn i ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Pwysleisiwyd nad oes penderfyniad ar faint o effeithiau’r toriadau ar ysgolion,
a nodwyd y gobeithir bydd cyfran o’r toriadau yn gallu cael eu gwireddu’n
fewnol. Ystyriwyd bod y toriadau ar ysgolion yn cael eu rhannu fel a ganlyn: · £1.3
miliwn o doriadau yn y sector gynradd · £1.2
miliwn o doriadau yn y sector uwchradd · £178,000
o doriadau yn y sector arbennig. Gofynnwyd i’r Fforwm am eu
mewnbwn am y dulliau gorau o fynd ati i geisio gwireddu’r toriadau ac arbedion
hyn. Nodwyd y sylwadau isod gan aelodau’r Fforwm: · Cytunwyd
bod maint y toriadau i’r dyfodol yn frawychus. · Teimlwyd
ei fod yn bwysig bod ysgolion yn derbyn cadarnhad o isafswm lefel gwasanaeth
sy’n dderbyniol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan osod allan gofynion penodol yr
ysgolion yn glir i’r penaethiaid. · Cyfeiriwyd
ei fod yn bwysig nad yw unrhyw doriadau yn effeithio ar yr ysgolion hynny sydd
eisoes mewn gwarchodaeth. · Ystyriwyd
bod ysgolion o faint canolig yn aml yn dioddef yn ystod cyfnodau heriol o’r
math yma. Eglurwyd y bydd y toriadau yn debygol o arwain at golli profiadau
ymarferol oherwydd na fydd gan ysgolion niferoedd staff digonol i oruchwylio
gweithgareddau o’r fath. · Pwysleisiwyd
y pwysigrwydd o ddiweddaru’r Strategaeth Addysg. · Ystyriwyd
nad yw’r gyfundrefn addysg yn effeithlon yng Ngwynedd ar hyn o bryd oherwydd yr
angen i wasanaethu cynifer o ysgolion gyda niferoedd disgyblion yn mynd yn
llai. · Rhannwyd
ymdeimlad cyffredinol bod unigolion yn derbyn bod cau ysgolion lleiaf y sir yn
anorfod. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhawyd bod trefniadau mewn lle i ddiweddaru’r strategaeth addysg a
disgwylir y byddai’n amlygu disgwyliadau gwasanaeth a phwysau ysgolion i’r
dyfodol. Ymhelaethwyd ei fod yn
debygol i fwy o ysgolion cael eu categoreiddio o dan warchodaeth wrth i’r
cyfnod hwn barhau. Yn anffodus, cadarnhawyd ei fod yn debygol bydd cynnal
sgyrsiau am y posibilrwydd o gau drysau ysgolion yn anorfod oherwydd y wasgfa
ariannol. Eglurwyd os bydd ysgolion yn gorfod cau, bydd yr arbediad ariannol o
gynnal yr ysgolion hynny yn cael ei drosglwyddo i leihau’r arbediad ariannol a
ddisgwylir o ysgolion eraill y sir. Ystyriwyd bod oediad yr Adran i foderneiddio addysg hefyd yn cyfrannu at y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF I nodi unrhyw eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf Cofnod: Nodwyd byddai’r eitemau
isod yn cael eu trafod yn ystod y cyfarfod nesaf: · Toriadau
ariannol · Adrodd
yn ôl ar drafodaeth fformiwlâu cyllido ysgolion – arlwyaeth a glanhau. · Balansau ysgolion a phroffil balansau dros y blynyddoedd diwethaf. · Cefnogaeth
technoleg gwybodaeth – er mwyn cyllido i’r dyfodol. Croesawyd yr Aelodau i
yrru unrhyw argymhelliad ychwanegol am eitemau i’r Swyddog Gwasanaethau
Democratiaeth. |
|
UNRHYW FATER ARALL I godi unrhyw fater
perthnasol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DYDDIAD AR GYFER Y CYFARFOD NESAF I benderfynu ar ddyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf Cofnod: Bwriedir cynnal y cyfarfod
nesaf cyn hanner tymor yr Hydref. Cadarnhawyd bydd swyddogion yn gyrru cais
cyfarfod pan fydd dyddiad wedi cael ei gadarnhau. Cytunwyd i gychwyn y
cyfarfod am 3:45 er mwyn caniatáu amser digonol i’r Aelodau ymuno. Dechreuodd y cyfarfod am
3.30 y.h. a daeth i ben am 4:10 y.h.. |