Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan: · Dafydd
Gibbard (Prif Weithredwr) · Dewi
Morgan (Pennaeth Cyllid) · Donna
Roberts (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig) · Robert
Townsend (Cynrychiolydd yr Esgobaeth) · David
Healey (Cynghorydd Ysgolion Uwchradd) · Eifion
Roberts (Llywodraethwyr: Meirionnydd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Medi 2024. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2024 fel
rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION I drafod
unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddangos a Rhaglen. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
AELODAETH Y FFORWM I dderbyn
diweddariad llafar. Cofnod: Diweddarwyd yr Aelodau
ar benodiadau newydd i’r Fforwm. Croesawyd Mr Kyle Jones (Ysgol yr Hendre) i’w
gyfarfod cyntaf o’r Fforwm fel cynrychiolydd ysgolion cynradd. Nodwyd hefyd bod
Mr Robert Townsend wedi cadarnhau y byddai’n cynrychioli’r Esgobaeth ar y
Fforwm i’r dyfodol. |
|
BALANSAU YSGOLION: BLWYDDYN GYLLIDOL 2023/24 Kathy Bell
(Cyfrifydd Grwp Ysgolion) i gylwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Eglurwyd bod yr adroddiad
yn rhannu gwybodaeth am ganrannau balansau ysgolion unigol ar 31 Mawrth 2024,
ynghyd â gwerth y balansau fel canran o
ddyraniad terfynol y cyllidebau ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cadarnhawyd bod cyfanswm o
falensau o £8.5m gan yr ysgolion oedd yn cael eu defnyddio o 1 Ebrill 2024
ymlaen ar gyfer gosod cyllideb ar gyfer 2024/25. Nodwyd bod gwerth oddeutu
hanner cyfanswm y balansau wedi cael eu clustnodi ar gyfer gosod cyllidebau eleni.
Ystyriwyd y bydd cyfanswm y balansau yn dra gwahanol erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol hon oherwydd sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor. Materion yn codi o’r
drafodaeth: Diolchwyd am y wybodaeth
gan ofyn faint o’r balansau sydd wedi cael eu defnyddio er mwyn cydbwyso
cyllideb y flwyddyn ariannol ddilynol, er mwyn canfod faint o arian sydd yn
weddill er defnydd yr ysgolion. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y
Cyfrifydd Grŵp bod balansau ysgolion wedi bod yn uchel iawn yn dilyn y
pandemig oherwydd grantiau a ddaeth i law yn dilyn Covid-19. Eglurwyd bod yr
arian grant hwnnw yn cael ei ddefnyddio bellach a bod lefelau balansau yn
gostwng i fod yn gyffelyb i’r lefelau cyn y pandemig. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. |
|
CYLLIDEB ADDYSG A DYRANIADAU YSGOLION Kathy Bell
(Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) i gyflwyno’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Eglurwyd bod yr adroddiad
hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Fforwm er gwybodaeth. Nodwyd bod y gyllideb
Addysg ar gyfer 2024/25 oddeutu £118m gydag oddeutu £97m wedi cael ei ddyrannu
i’r ysgolion yng Ngwynedd. Cyflwynwyd data ar sut
mae’r gyllideb yn cael ei ddyrannu rhwng yr ysgolion cynradd, uwchradd ac
arbennig. Nodwyd mai niferoedd plant sydd mewn addysg yn y sectorau hynny yw’r
gyrrwr mwyaf am sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu. Manylwyd bodd oddeutu £6m
wedi ei ddyrannu i ysgolion arbennig, £45m i ysgolion cynradd a £42m i ysgolion
uwchradd (cyfnod allweddol 3 a 4). Eglurwyd bodd oddeutu £4m yn cael ei
ddyrannu i ysgolion uwchradd sydd â chweched dosbarth ar eu safleoedd (6 ysgol
uwchradd yn Arfon ac Ysgol Godre’r Berwyn, Meirionnydd). Materion yn codi o’r
drafodaeth: Cywirwyd yr adroddiad i
gadarnhau mai £117,900m yw gwir gyllideb yr Adran Addysg. Nodwyd bod dangosydd ‘IBA’
yn cadarnhau cyllideb Addysg Gwynedd i fod yn £119m a gofynnwyd i ble oedd yr
£1m ychwanegol hwn yn cael ei wario. Mewn ymateb i'r cwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod amcan
dangosydd yr IBA yn cael ei rannu cyn i benderfyniadau gwleidyddol cael eu
gwneud a bod dyraniad ariannol yr Adran Addysg wedi cael ei benderfynu gan y
Cyngor. Soniwyd bod £1.5m wedi
cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau ansawdd ysgolion, a gofynnwyd am fanylder am y gwasanaethau sydd yn derbyn
yr arian hwn. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod cyfran helaeth o’r arian yn
cael ei ddyrannu i GwE ar hyn o bryd wrth i’r gwasanaeth gael ei
ail-strwythuro. Ymhelaethwyd bod cyfran o’r arian yn cael ei wario ar reolaeth
yr Adran Addysg a grantiau datblygu proffesiynol a chwricwlaidd. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. ·
Cynnal trafodaeth bellach ar ddyraniad
Gwasanaethau Ansawdd Ysgolion yn y cyfarfod nesaf. |
|
DIWEDDARIAD: NEWIDIADAU DULL CYLLIDO ADY Ffion
Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthywol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynwysiad) i
gyflwyno’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad. Atgoffwyd aelodau’r
Fforwm o’r angen i ddyrannu cyllid ADY ar sail anghenion a fformiwla yn hytrach
na’r Panel Cymedroli, gan ddilyn arweiniad nifer o Awdurdodau Lleol eraill sydd
eisoes wedi cymryd y cam hwn. Esboniwyd y byddai hyn yn arwain at system fwy
teg oherwydd bod yr un fformiwla yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob ysgol.
Ymhelaethwyd ei fod yn seiliedig ar ddefnyddio data sydd ar gael yn barod.
Nodwyd y rhagwelir y bydd y newid hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion gan
arwain at greu swyddi sefydlog i gymorthyddion. Diweddarwyd aelodau’r
Fforwm ar y gwaith sydd ar y gweill hyd at ddiwedd Mawrth 2025. Eglurwyd bod cyfnod
trosglwyddo wedi cael ei adnabod ar gyfer gosod rhwyd ble nad oes cynnydd na
gostyngiad o fwy na 50% i’r gyllideb bresennol ar gyfer blwyddyn gyntaf y
system. Cadarnhawyd y bydd pob ysgol yn trosglwyddo i’r system yn llawn yn y
flwyddyn ganlynol. Cadarnhawyd bod gwaith
modelu pellach gan ddefnyddio data terfynol o fewn y CDU wedi cael ei gwblhau
cyn rhyddhau rhagolygon ysgolion yn ddiweddar. Ychwanegwyd bod rhai ysgolion
wedi dod i gyswllt gyda swyddogion er mwyn cadarnhau’r sgoriau sydd wedi cael
eu nodi yn y system. Nodwyd bydd y Pennaeth Cynorthwyol yn cynnal trafodaethau
gyda’r Cyfrifydd Grŵp er mwyn asesu’r angen i ddiweddaru’r ffigyrau a’u
dosbarthu gyda phob ysgol er mwyn sicrhau bod gan holl ysgolion y ffigyrau
cywir, neu os oes ysgolion yn dymuno addasu ffigyrau. Adroddwyd y gobeithir
cwblhau dogfennaeth gefnogol erbyn diwedd y tymor. Nodwyd bydd y rhain yn gallu
cael eu defnyddio fel llawlyfr i ysgolion o fis Mawrth 2025 ymlaen er mwyn eu
hymgyfarwyddo gyda’r system. Sicrhawyd bydd sesiynau yn
cael eu cynnig i ysgolion er mwyn iddynt gael trafodaethau ac arweiniad gan
swyddogion. Eglurwyd bydd y rhain yn cael eu cynnal hyd at ganol mis Chwefror
ac yn ymwneud â chyllid ADY a’i effaith. Materion yn codi o’r
drafodaeth: Mewn ymateb i ymholiad ar
gynnydd mewn cyllideb ADY, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oes
trefniadau i gynyddu’r gyllideb hyd yma. Eglurwyd bod hyn oherwydd heriau
ariannol ond gobeithir derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn
cynorthwyo’r ddarpariaeth. Cadarnhawyd bod y system newydd yn addasu sut mae’r
gyllideb yn cael ei ddyrannu yn hytrach na newid cyfanswm y gyllideb sydd ar
gael. Gofynnwyd sut bydd y trefniant cyllido ADY newydd yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i ysgolion a disgyblion Gwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod adolygu parhaus yn ofyniad statudol a bydd adroddiad adolygol yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn pan fydd y system yn weithredol. Ymhelaethwyd y bydd yr adroddiad adolygol cyntaf yn cael ei gyflwyno ymhen dwy flynedd er mwyn sicrhau bod y cyfnod trosiannol wedi mynd heibio cyn adolygu’r trefniadau ymhellach. Pwysleisiwyd bod mewnbwn ysgolion yn allweddol i’r adolygiadau er mwyn sicrhau bod yr holl adborth yn derbyn ystyriaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
RHAGOLYGON YSGOLION Kathy Bell
(Cyfrifodd Grŵp Ysgolion) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Adroddwyd y gellir gweld
lleihad o 182 mewn niferoedd o ddisgyblion ysgolion cynradd sydd cyfwerth â
£338,000. Eglurwyd bod lleihad mewn niferoedd yn arwain at lai o gyllideb ar
gyfer ysgolion cyn ystyried unrhyw doriadau ariannol anorfod posib. Cadarnhawyd
nad oes unrhyw benderfyniad ffurfiol am doriadau wedi cael eu gwneud hyd yma. Eglurwyd bod lleihad yn
niferoedd disgyblion yn cael mwy o effaith ar gyllidebau ysgolion nac unrhyw
doriadau ariannol. Cadarnhawyd bod lleihad i’w weld hefyd mewn niferoedd
disgyblion y sector uwchradd a’r chweched dosbarth. Cadarnhawyd nad oes newid
i’w weld yn yr ysgolion arbennig ar hyn o bryd gan fod niferoedd disgyblion yn
agos at gapasiti. Adroddwyd bod yr arian sy’n cael ei ddyrannu i’r ysgolion
arbennig wedi cynyddu yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn dilyn adolygu dwysedd
anghenion y plant sy’n mynychu’r ysgolion. Atgoffwyd aelodau’r Fforwm bod y
Cyngor wedi gwarchod ysgolion arbennig rhag toriadau yn y gorffennol, a nodwyd
y gallai hyn newid i’r dyfodol yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol dros y
blynyddoedd nesaf. Nodwyd y disgwylir lleihad
o oddeutu £1.2m wrth ystyried cyllidebau Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Nodwyd y gall hyn arwain at lai o aelodau staff o fewn yr ysgolion gan arwain
at ysgolion yn wynebu prosesau gormodedd i’r dyfodol. Materion yn codi o’r
drafodaeth: Cydnabuwyd bod y sector
gynradd wedi wynebu heriau ariannol yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd lleihad
mewn niferoedd disgyblion yn flynyddol. Nodwyd pryder bod y lleihad hwn yn mynd
i effeithio ar y sector uwchradd wrth i’r disgyblion hynny barhau gyda’u
haddysg. Ystyriwyd os bydd yr ysgolion uwchradd lleiaf yn llwyddo i allu cynnig
y trawstoriad llawn o’r cwricwlwm yn ogystal â’i ariannu. Cadarnhawyd bod
ymgysylltu cychwynnol ar y Strategaeth Addysg wedi cymryd lle eleni a bydd yr
Adran yn ymgysylltu ymhellach ym mis Ionawr 2025. Gobeithir y bydd y
Strategaeth Addysg newydd hon yn rhoi arweiniad am y 10 mlynedd nesaf er mwyn
gallu ymdopi â’r heriau ariannol. Pwysleisiodd y Pennaeth
Addysg nad problem wledig yw lleihad mewn niferoedd disgyblion, gan ei fod yn
effeithio pob ysgol o fewn y Sir. Nodwyd ei fod yn allweddol i sicrhau bod
arweiniad strategol gadarn yn cael ei roi gyda chefnogaeth yr Aelod Cabinet Addysg
newydd mor fuan â phosib er mwyn iddo fod yn weithredol cyn gynted a bod modd. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. |
|
UNRHYW FATER ARALL I godi
unrhyw fater perthnasol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I gadarnhau
dyddiad y cyfarfod nesaf. Cofnod: Cadarnhawyd bydd y
cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 17 Chwefror 2025 am 3:45yh. Nodwyd y bydd y
rhaglen yn cael ei chyhoeddi ar 7 Chwefror 2025. Eglurwyd bod y dyddiad hwn
wedi cael ei adnabod gan ei fod yn amserol wrth i’r Cyngor geisio gosod
cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26. Nodwyd y bydd adroddiadau wedi
cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (6 Chwefror 2025) a’r
Cabinet (11 Chwefror 2025) ar y gyllideb cyn cyflwyno gwybodaeth ariannol i’r
Fforwm hwn. |