Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Heol yr Eglwys, Tremadog
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cyng. Peredur Jenkins (Aelod Cabinet Adnoddau), Peter
Read (Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau), Bethan
Lawton (Is-gadeirydd Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau),
Gwynne Pierce (Cynrychiolydd Llywodraethwyr
Cynradd), Llinos Lloyd (Cynrychiolydd
Corff Cysgodol Dalgylch y Gader), Cyng. Michael Sol Owen (Cynrychiolydd
Llywodraethwyr Uwchradd),
Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol) |
|
Datgan Buddiant Personol I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015.. (Copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb
Ysgolion a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 26 Chwefror 2015 fel rhai cywir. |
|
Materion yn codi o'r cofnodion i) 7b) Cais Fforwm Undebau Athrawon am gynrychiolaeth ar y Gweithgor Cyllid Addysg ii) 7) Cynrychiolydd GYDCA ar y Fforwm Cylldieb Ysgolion a 12) Cynrychiolwyr Llywodraethwyr ar y Fforwm Cyllideb Ysgolion Cofnod: (a)
Eitem 6 – Hyfforddiant Cyllidol i Ysgolion Ymddiheurodd y Rheolwr Uned Cyllid nad oedd
yr hyfforddiant uchod wedi ei
drefnu ond byddir yn ei
drefnu yn fuan yn y Flwyddyn
Newydd ac a fydd o ddiddordeb i Benaethiaid Ysgolion yn ogystal
â Llywodraethwyr. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (b)
Eitem 7 – Cais gan Fforwm Undebau
Athrawon am gynrychiolaeth ar y Gweithgor Cyllid Addysg Penderfynwyd: Gwahodd
un cynrychiolydd i gynrychioli’r
Undebau Athrawon ar y Gweithgor Cyllid Addysg. (c)
Eitem 12 - Ymddiswyddiad Adroddwyd bod yr unigolion canlynol wedi eu
henwebu i wasanaethu ar y Fforwm Cyllideb
Ysgolion ac fe groesawyd y rhai oedd yn bresennol
ac yn mynychu eu cyfarfod cyntaf
o’r Fforwm: (i)
Mr Geraint Evans, Pennaeth Ysgol Edern, i olynu Mrs Sianelen Pleming, Pennaeth Ysgol Llanaelhaearn yn dilyn ei hymddeoliad (ii)
Mr Dafydd Meirion Roberts, Cynrychiolydd Llywodraethwyr Uwchradd Arfon, (iii)
Mr Gwilym Jones, Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cynradd ardal Dwyfor (iv)
Y Cyng.
Michael Sol Owen, Cynrychiolydd Llywodraethwyr
Uwchradd ardal Dwyfor (v) Mrs Llinos Lloyd, cynrychiolydd Corff Cysgodol Dalgylch y Gader |
|
Gweithgor Cyllid Addysg - materion o gyfarfod 17 Medi 2015 i) Trefniadaeth Ysgolion (adroddiad ar lafar) ii) Balansau ysgolion / rhwyd diogelu ysgolion (gweler eitem 6) iii) Effaith toriadau ar nifer swyddi(adroddiad ar lafar) iv) Ffordd Gwynedd v) £4.3m (gweler eitem 8) Cofnod: (i) Cyfeiriodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg at sylw a wnaed yng
nghyfarfod o’r Gweithgor uchod ynlyn a fyddai modd cynnwys
arbedion yn deillio o drefniadaeth ysgolion fel rhan
o’r targed arbediad o £4.3m. Adroddodd y Pennaeth Addysg y
byddir yn ceisio canfod arbedion
fel rhan o broses ymgynghoriad Her Gwynedd.
Yng nghyd-destun Her
Gwynedd, cynhaliwyd nifer o
sioeau teithiol gyda nifer wedi
mynychu a bod y cyfarfodydd
yn gymysg o ran ansawdd y drafodaeth. Nodwyd bod nifer o’r holiaduron
wedi eu cwblhau
ar ffurf llyfryn papur yn
ogystal ag ar lein. Bydd yr ymgynghoriad
yn dod i ben ddiwedd y mis gyda’r
bwriad wedyn o gynnal broses o raddio’r blaenoriaethau gydag adroddiad cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno
i’r Cabinet ym mis Ionawr a’r
Cyngor llawn ar 3 Mawrth 2016 am benderfyniad terfynol. Nodwyd ymhellach
bod yr amserlen yn un tynn ond
rhaid ceisio dod i farn ar
y targed arbediad o £4.3m yn fuan. Nododd y Pennaeth Cyllid nad fyddai’n
wybyddus o’r setliad i Gymru tan 10 Rhagfyr 2015. Mewn ymateb
i sylw wnaed bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn amddiffyn
addysg yn y gorffennol, nodwyd nad oedd datganiad
gan Lywodraeth Cymru ar hyn
o bryd. O safbwynt amddiffyn addysg, wrth ragdybio
a chynllunio ymrwymiadau newydd, pwysleiswyd y dylid parhau i ganfod y targed o £4.3m. Cydnabuwyd gan
yr ysgolion, bod y Cyngor yn dryloyw a’u
bod yn gwerthfawrogi hyn. Penderfynwyd: Nodi’r uchod. (ii) Adroddodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg ar y nifer o swyddi a gollwyd yn sgil
effaith y toriadau fel a ganlyn: Swyddi Athrawon 25.4 (llawn amser) Cymorthyddion 8.04 Staff Ategol 2.16 (ii) Mewn ymateb i’r
uchod, nododd Pennaeth bod oddeutu 50 o swyddi wedi eu colli
o’r sector uwchradd yn unig. Nodwyd ymhellach bod ffigyrau yn cuddio be yw
gwir effaith ar ysgolion boed
hyn yn swyddi
llawn a / neu rhan amser ac awgrymwyd
y dylid cyflwyno ffigyrau manylach. Penderfynwyd:
Gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth
Adnoddau Addysg gyflwyno ffigyrau manylach o’r nifer swyddi
a gollwyd fel rhan o’r broses toriadau. |
|
Polisi arfaethedig Dyraiad Gwarchodaeth Ychwanegol PDF 21 KB 6.1 Papurau’r ymgynghoriad 6.2 Crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Pennaeth Addysg ynghylch
polisi arfaethedig dyraniad gwarchodaeth ychwanegol i ysgolion. Tywyswyd y Fforwm
drwy’r adroddiad gan yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi y cynhaliwyd ymgynghoriad llawn gyda holl ysgolion
y Sir ar bolisi arfaethedig gwarchodaeth lleiafswm staffio ychwanegol i leihau’r dyraniad ychwanegol gwarchodaeth lleiafswm gyda swm cyfatebol
i’r elfen balansau dros 5% ar ddiwedd y flwyddyn
gyllidol ddiweddaraf gafodd ei gyhoeddi. Cyfeiriwyd at ganlyniadau’r
ymgynghoriad gan nodi y derbyniwyd ymateb gan 45 ysgol
allan o 109. Nodwyd ymhellach bod 36 (80%) o blaid y cynnig a 9 (20%) ysgol yn erbyn. O ganlyniad felly roedd arwydd clir
bod yr ysgolion a ymatebwyd yn cefnogi’r
polisi a phwysleiswyd bod modd i ysgolion drafod gyda’r awdurdod
unrhyw bryderon a amlygir ganddynt. Tynnwyd sylw
pe byddir yn derbyn y polisi,
gan fod rhan
o’r cynlluniau arbedion £4.3m yn disgyn tu allan
i’r cyfnod 3 mlynedd 2015/16 i 2017/18, defnyddir
yr arbedion unwaith ac am byth i gyfrannu at ariannu’r cyfnod pontio angenrheidiol.
Penderfynwyd:
Cymeradwyo’r addasiad
i’r polisi dyrannu gwarchodaeth ychwanegol i ysgolion i gynnwys cymal i leihau’r dyraniad gwarchodaeth yn gyfatebol i’r elfen
balansau sydd dros 5%, gan ddefnyddio’r
swm balansau ar ddiwedd y flwyddyn
gyllidol ddiweddaraf gafodd ei gyhoeddi. |
|
Diweddariad ar yr Adolygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Adroddiad ar lafar Cofnod: Penderfynwyd: Gohirio’r eitem uchod. |
|
Targed Arbedion Ysgolion - £4.3m PDF 19 KB 8.1 Crynodeb £4.3m 8.2 Gwariant cynharol addysg 2015-16 8.3 Crynodeb gwario PTR ac effaith ar warchodaeth 8.4 Modelu gwanioPTR cynradd 8.5 Modelu gwanio PTR ysgolion cynradd unigol 8.6 Modelu gwanio PTR mewn ysgolion uwchradd unigol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion o £3,348,000. (a) Mynegodd y Cadeirydd wrth y Fforwm, tra’n derbyn bod ysgolion yn colli arian drwy grantiau, effaith demograffi, a.y.b., ei bod yn ofynnol dod i benderfyniad pendant o ystyried bod Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor eisoes wedi cytuno ar eu targedau. (b) Bu i’r Pennaeth Addysg grynhoi y dadleuon a fu yn flaenorol a bod yr adroddiad gerbron yn cymryd i ystyriaeth cyd-detun Her Gwynedd, y drafodaeth a’r opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion rhwng y sector cynradd a’r uwchradd, adborth Estyn ac ystadegau cymharol cenedlaethol. Atgoffwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi gwarchod buddiannau addysg a bod yr awdurddod yn hynod o dryloyw ac yn hollol agored gyda chynnwys yr opsiynau o fewn yr adroddiad. Rhaid cofio bod yr adran yn cael ei herio yn gorfforaethol. (c) Diolchwyd i’r Gweithgor Cyllid Addysg am benderfynu ar gynlluniau cytunedig yn y swm o £1,028,000 gyda gweddill yr arbedion o £2,320,00 i’w ddarganfod. (d) Bod yr argymhelliad gerbron o ffafrio Opsiwn C yn seiliedig ar ddadleuon addysgol ac nad oedd opsiynau A a CH o dan ystyriaeth. (e) Mewn ymateb i sylw wnaed ynglyn a chynlluniau tymor hir trefniadaeth ysgolion, esboniwyd mai cyfarwyddyd y Cabinet ydoedd targed arbedion o £4.3m i ysgolion ac nad oedd i unrhyw arbediad yn seiliedig o drefniadaeth ysgolion i’w gynnwys o fewn y £4.3m. Pwysleiswyd nad oedd yr is-adeiladedd yn gynaliadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael. (f) Yn ystod y drafodaeth ynglyn â gwireddu gweddill y targed arbedion, amlygwyd y sylwadau isod:
|
|
Newid Cytundeb Lefel Gwasanaeth - Gwasanaeth Clercio Llywodraethol PDF 62 KB 9.1 Cytundeb Lefel Gwasanaeth – Gwasanaeth Clerigol i Gyrff Llywodraethol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd newidiadau
i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth Clercio Llywodraethol. Tywyswyd y Fforwm
drwy’r adroddiad gan yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi nad oedd
cydnabyddiaeth ddigonol i’r amser a gymerir
i wneud y gwaith clercio yn gyflawn
ac i safon. Ymgynghorwyd gyda Swyddogion Gweinyddol Ysgolion Uwchradd yr Awdurdod a chlercod
ysgolion er mwyn canfod cyfartaledd
oriau a gymeririr i gwblhau’r cyfrifoldebau ynghyd a’r angen
rhoi elfen o wasanaeth cynghori i gyrff Llywodraethol. Gofynnwyd i’r
Fforwm gymeradwyo’r newid yn y Cytundeb
Lefel Gwasanaeth a chytuno ar y pris
fel a ganlyn: £1500 Ysgolion Cynradd £2500 Ysgolion Uwchradd Derbyniwyd ymholiadau
/ sylwadau gan Aelodau’r Fforwm ac fe ymatebodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg iddynt fel a ganlyn:
Cynigwyd, eilwyd
a phleidleiswyd i gymeradwyo’r
newid yn y CLG. Penderfynwyd: Cymeradwyo i’r newid yn
y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chaniatáu’r pris fel a ganlyn: £1500 Ysgolion Cynradd £2500 Ysgolion Uwchradd |