Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016/17. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Selwyn
Griffiths yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016/17. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Annwen
Hughes, John Brynmor Hughes, Dewi Owen, Gethin Williams, Arglwydd Dafydd Elis Thomas (Aelod Cynulliad
Dwyfor/Meirionnydd), Alun Wyn Evans
(Cylch Meirionnydd Un Llais Cymru), Tudur Williams (Ysgol Ardudwy), Mansel
Williams a Trevor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd
Amwythig-Aberystwyth), Claire Britton (Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri), Rhydian Mason (Partneriaeth
Rheilffyrdd y Cambrian), Rob
Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn
teilyngu sylw brys ym marn
y Cadeirydd. Cofnod: Gosod
y cyfeiriad ar gyfer ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad Rheilffordd Cymru a'r
Gororau Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cynnal cyfarfod brys cydrhyngddo a’r Is-gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor
Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth i lunio ac i anfon ymateb i’r ymgynghoriad gan
Lywodraeth Cynulliad yn ddiweddar ynglyn a’r
masnachfraint. Tynnwyd sylw at rai o’r
prif faterion megis:
Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau
anfon copi o’r ymateb i Aelodau’r Pwyllgor Rheilffordd y Cambrian,
er gwybodaeth. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2015. Cofnod: Cyflwynwyd:
Cofnodion cyfarfod
y gynhadledd a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2015 yn ddarostyngedig i’r cywiriad isod: Eitem 6 (iv) –
Bryn Llestair (Picnic Island) – cywirio’r ffigwr i
12,000 o fyfyrwyr .... yn hytrach na 1,000.
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion uchod. 5.1 Materion yn Codi o’r Cofnodion: Bryn Llestair (Picnic
Island) Cymerwyd y cyfle gan Mr David Roberts i gyfleu ei ddiolch i Network Rail yn deillio o adborth
bositif mewn cyfarfod gyda Rebecca Collins ynglyn a’r
tir ym mherchnogaeth Network Rail. |
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad gan Mr Dylan Bowen, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus, a Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol
(Network Rail), i’r cyfarfod. (A)
Eglurodd Sam Hadley mai ef fydd yn mynychu
cyfarfodydd y pwyllgor hwn i’r dyfodol
ac fe anogwyd yr Aelodau i gysylltu ag ef yn uniongyrchol gydag unrhyw
faterion o bryder iddynt. Ymatebodd i’r
cwestiynau ffurfiol a gyflwynwyd gan nodi fel a ganlyn: (a)
Croesfan
Talwrn Bach, Llanbedr – beth yw’r diweddaraf ynglyn a gosod bariau ar y
groesfan o ystyried bod trafnidiaeth yn cynyddu dros y groesfan hon yn ddyddiol
a gyda’r Neuadd bentref yn cael ei ail-leoli (dros dro) i safle’r maes awyr,
bydd mwy o drafnidiaeth eto. Cefnogodd sawl aelod yr un pryderon a’r Cynghorydd Annwen
Hughes, aelod lleol dros Llanbedr, a’i fod yn fater sydd wedi ei godi yn y
pwyllgor hwn ers blynyddoedd lawer a bod gwir angen datrys y mater unwaith ac
am byth. Mewn ymateb, eglurwyd y bydd ymchwiliad o’r safle yn digwydd
diwedd y flwyddyn ac fe addawyd y byddir yn hysbysu’r Swyddog Cefnogi Aelodau
gan gyflwyno adroddiad cynhwysfawr ynghyd ag amserlen o’r datblygiad. (b)
Ysbwriel ar y rheilffordd yn ardal Cricieth yn
benodol ochr ddwyreiniol y dref o’r Graig Ddu at Morannedd. (c)
Nifer o goed a llwyni wedi gor-dyfu ar hyd y
rheilddord – beth yw cynlluniau Network Rail i dorri/rheoli’r tyfiant ac i gael
gwared o llysiau dial. Mewn ymateb, esboniwyd bod Network Rail yn cael gwared o
ysbwriel ond bod yn rhaid blaenoriaethu e.e. bod prosiect enfawr yn Sir Fflint
i glirio ar hyn o bryd yn wyneb y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
yno gyda’r awdurdod lleol wedi darparu sgip a staff i gynorthwyo. O safbwynt rhaglen llystyfiant, cadarnhawyd os oes unrhyw
dyfiant yn broblemus fe fyddir yn blaenoriaethu. O safbwynt llysiau dial bod gan Network Rail
gyfrifoldeb cyfreithiol i’w waredu os yn lledaenu ar dir trydydd parti.
Gofynnwyd i’r aelod lleol am gyfeiriadau penodol lle mae llysiau’r dial yn
broblemus ac fe fyddir yn dilyn hyn i fyny yn ddi-oed. (ch) Ysbwriel
rhwng Penychain a Phwllheli. Eto, cadarnhaodd y swyddog y byddir yn ymdrin a’r uchod a
bod Network Rail llawer iawn mwy ymatebol yng Ngogledd Cymru ac fe groesawir
unrhyw gydweithrediad gyda Chynghorau lleol. Penderfynwyd: (a) Diolch
i’r swyddog am yr ymateb a gofyn iddo ddilyn hwy i fyny yn ddi-oed. (b) Bod y Cynghorydd Eirwyn Williams yn rhoi cyfeiriadau
penodol lle mae’r llysiau dial yn lledaenu ar dir trydydd partion fel bo modd
i’r Cydlynydd Cynnal a Chadw Gweithredol fedru mynd i’r afael a’r broblem. (B)
Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf sleidiau gan
Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol
Network Rail, ar gefndir Traphont Abermaw, y gwaith hyd yma, sgop y
rhaglen waith ynghyd a’r risgiau a’r sialensau ynghlwm a’r gwaith atgyweirio i
draphont eiconig sydd yn rhestredig (Gradd II). Amlinellwyd y gwaith a gyflawnwyd hyd yma sef:
|
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru. Cofnod: Derbyniwyd adroddiad llafar gan Mr Ben Davies, Trenau
Arriva Cymru, gan nodi ·
bod
cynnydd yn nifer o deithwyr sy’n defnyddio’r trenau a’r broblem ydoedd nad oedd
ganddynt ddiogon o drenau ·
y
bydd darpariaeth Wi-fi yn cael ei roi ar drenau’r 150, 158 a’r 175 y Cambrian o
fis Medi ymlaen gan dynnu sylw y bydd rhai mannau nas gellir cael mynediad ond
sicrhawyd y byddai modd cael cysylltiad yn y Gorsafoedd ·
bod
y Gwyl Gomedi a gynhaliwyd ym Machynlleth dros Wyl Banc Calan Mai wedi bod yn
llwyddiant i’r gwasanaeth ac i’r gymuned ·
y
byddir yn parhau gyda’r gwaith caled o hyrwyddo a datblygu’r gwasanaeth am y
ddwy flynedd nesaf hyd nes y daw’r fasnachfraint i ben ·
bod
y Cynllun Waled Oren ar gyfer anghenion pobl gyda anawsterau dysgu yn
llwyddiannus dros ben a’i bod yn cael eu hyrwyddo ar ffurf ffilm o gwmpas y
wlad erbyn hyn ·
o
safbwynt cyhoeddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar rheilffordd y Cambrian,
sicrhawyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i Drenau Arriva Cymru ac fe fyddir yn
trefnu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer pob un o’r Gorsafoedd yng Nghymru. Nodwyd ymhellach nad oedd problem yn y
Gorsafoedd ond profir problemau ar y trenau oherwydd y pellter rhwng
gorsafoedd. Mewn ymateb i ymholiad gan y
Cadeirydd o amserlen i dderbyn darpariaeth dwyieithog ar reilffordd y Cambrian,
esboniodd Mr Ben Davies nad oedd modd rhoi dyddiad penodol ond y byddai yn
dilyn y mater i fyny gan sicrhau bod darpariaeth yr iaith yn cael ei gynnwys yn
y masnachfraint newydd. Nodwyd ymhellach
bod pob un o docynnwyr Trenau Arriva Cymru yn siarad yr iaith ·
y
bydd y lifft wedi eu gwblhau yng Ngorsaf Machynlleth erbyn 18 Mehefin 2016 ·
o
safbwynt y tren 8.00 y.h. o Fachynlleth i Pwllheli ddim yn stopio ymhob Gorsaf
ar y lein, eglurwyd mai’r brif broblem
ydoedd bod cyfyngiad ar yr amser i’r gyrrwyr y trenau fedru gyrru heb doriad (4
awr) ac os bydd yn rhaid stopio yn y gwahanol orsafoedd byddent yn mynd dros yr
amser caniatiedig i yrru. Awgrymwyd mai’r
ffordd orau ymlaen ydoedd trafod ymhellach gyda Mr Ken Skates, Aelod Cynulliad,
ac apeliwyd ar i Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, Aelod Cynulliad
Dwyfor/Meirionnydd ddilyn y mater i fyny hefyd. ·
Bod
trafodaethau yn parhau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a’r Ganolfan Dwristiaeth yn
Abermaw, oherwydd bod y Cyngor yn awyddus i’w gau ac ar hyn o bryd yn gwerthu
tocynnau i Trenau Arriva Cymru ar gyfer rheilffordd y Cambrian. ·
Bod
“app.trainline” newydd ar gael ar gyfer archebu tocynnau i ffonau symudol
priodol “Arriva Train Tickets” ·
O
safbwynt platfform isel, bod Trenau Arriva Cymru wedi ymgymryd a gwaith i
adnewyddu 27 ohonynt a bod mwy i’w wneud Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r adroddiad. (b)
Anfon llythyr o longyfarch i Ken Skates, Aelod Cynulliad – Ysgrifennydd
Economi ac Isadeiledd Cabinet Llywodraeth Cymru (Cabinet Secretary for Economy
and Infrastructure) ac i’w wahodd i
fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’r dyfodol. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD Y CAMBRIAN PDF 212 KB I dderbyn adroddiad gan Swyddog Rheilffordd
Partneriaeth y Cambrian. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn absenoldeb y Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y
Cambrian cyflwynwyd
ei adroddiad i’r Pwyllgor, er
gwybodaeth, a oedd yn amlinellu gweithgareddau / cyhoeddiadau a weithredwyd ganddo ers y cyfarfod diwethaf. Nododdd y Cadeirydd y bydd y Rheilffordd yn dathlu 150 o flynyddoedd yn 2017 a hyderir y bydd digwyddiadau yn cael eu trefnu
ar gyfer y dathliad. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r adroddiad. |
|
ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG PDF 102 KB I dderbyn adroddiad gan Mr Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. Cofnod: Yn absenoldeb
yr Heddwas Rob Newman cyflwynwyd ei adroddiad
I’r Pwyllgor, er gwybodaeth, a oedd yn nodi
gostyngiad ym mwyafrif o droseddau ar lein Arfordir
y Cambrian. Penderfynwyd: Derbyn, nodi
a diolch i’r Heddwas Rob Newman am yr adroddiad. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 136 KB I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd pedwar
gwestiwn ysgrifenedig ffurfiol gan Aelodau o’r Gynhadledd a Chyngor Cymuned ac
fe nodwyd bod y swyddogion perthnasol wedi ymdrin a rhain yn ystod eu
cyflwyniadau. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
GOHEBIAETH Cyfleu datganiad gan Gyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont nad ydynt
yn cefnogi ail agor y rheilffordd o Afonwen i Bangor oherwydd amcan o’r gost
o gwmpas £50 miliwn a fyddai yn gallu
cael ei wario
yn well ar wella’r ffyrdd yn ardal Meirionnydd. Cofnod: Cyflwynwyd
ddatganiad gan Gyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont
nad ydynt yn cefnogi ail-agor y rheilffordd o Afonwen i Bangor oherwydd amcan
o’r gost o gympas £50 miliwm a fyddai yn gallu cael
ei wario’n well ar wella’r ffyrdd yn ardal Meirionnydd. |