Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025/26 Cofnod: Cyniwyd
ac eiliwyd ethol y Cyng. Dewi Owen yn Gadeirydd PENDERFYNWYD
ail ethol y Cyng. Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2025/26 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2025/26 Cofnod: Cynigwyd
ac eiliwyd ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Is-gadeirydd PENDERFYNWYD
ail ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2025/26 |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Cyng. Craig ab Iago Cyngor Gwynedd - Aelod Cabinet Amgylchedd), Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor
Gwynedd), Cyng. Elfed Wyn ab Elwyn (Cyngor Gwynedd), Cyng. Richard Glyn Roberts
(Gwynedd), Cyng. Alwyn Evans (Cyngor Sir Powys), Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor
Rheilffordd Amwythig /
Aberystwyth), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Joyce
Watson (Aelod Seneddol Canolbarth a Gorllewin Cymru), Gwyn Rees (Network Rail) a Robert John Jones
(Cyngor Gwynedd - Rheolwr Cludiant
Addysg) Cydymdeimlwyd a’r Cyng. Anne Lloyd Jones oedd wedi colli ei chwaer yn ddiweddar |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: |
|
|
DERBYN DIWEDDARIADAU GAN WASANAETHAU I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr: ·
Network
Rail ·
Trafnidiaeth Cymru ·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Cofnod: Trafnidiaeth Cymru (TrC) Croesawyd James Nicholas i’r cyfarfod sydd yn gweithio i Trafnidiaeth
Cymru fel Partner Cefnogi Busnes Adroddwyd bod perfformiad y gwasanaeth wedi bod yn dda dros y cyfnod
diwethaf gyda nifer trenau wedi eu canslo yn 0.7% o’r holl wasanaeth ar hyd y
Cambrian. Ategodd bod hyn yn cael ei ystyried fel gwasanaeth solet ac yn
welliant ym mherfformiad trenau ar amser. Nododd bod y perfformiad yn cael ei
fesur drwy reol 3 munud o gyrraedd yr orsaf a mynegodd bod y canran o 75%
uwchlaw targed Cymru o 72% sydd yn dderbyniol o ystyried y nifer trenau sydd yn
rhedeg. Yng nghyd-destun amserlen Gaeaf Rheilffordd y Cambrian, mynegwyd bod
Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu parhau gwasanaeth y trên olaf a bod hyn yn
newyddion calonogol. Amlygodd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cadw llygad ar nifer
defnyddwyr ac anogwyd pawb i hyrwyddo defnydd. Mynegwyd bod profion diogelwch ar y fflyd o drenau newydd Dosbarth 197
wedi eu gweithredu gyda’r gobaith o gyflwyno’r trenau newydd i wasanaeth ym mis
Medi 2026, yn dilyn cwblhau gwelliannau ar y platfform mewn rhai gorsafoedd.
Ategodd y byddai teithiau prawf pellach yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2026 a
hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a thocynwyr (Conductors) yn y flwyddyn newydd. Cafwyd diweddariad bod Network Rail wedi caffael Uned Cyflenwi Cynnal a
Chadw newydd i ddisodli nifer o gyfleusterau anaddas yn y depo ym
Machynlleth. Bydd y safle yn weithle
modern, diogel ac effeithlon fydd yn gallu cefnogi gwasanaethau ar draws y rhanbarth yn llawn. Tynnwyd sylw at waith gwarchae fydd yn cael ei gwblhau yn ystod Mai 2026
fydd yn debygol o greu ychydig o aflonyddwch i wasanaethau: Y dyddiadau mewn
golwg yw 13-17 o Fai rhwng Machynlleth a Pwllheli a 17 – 23 o Fai rhwng
Cyffordd Dyfi ac Aberystwyth. Ategwyd mai gwaith paratoi oedd yn cael ei wneud
ar gyfer gosod tanciau gwaredu gwastraff toiledau (CET) oddi ar y trenau
newydd. Diolchwyd i James am y diweddariad Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
|
|
|
I ystyried ymatebion i gwestiynau a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned Criccieth, Cyngor Tref Pwllheli
a Chyngor Tref Porthmadog. Nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru y byddai’n ymateb yn uniongyrchol i'r
Cynghorau Lleol, ond ymatebwyd yn fras i’r materion canlynol:
Cwestiynau eraill a godwyd yn y cyfarfod: Croesffordd Dyfi:
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Mawrth 2026 Holiadur am amser / dyddiad i’w gylchredeg
gydag Aelodau / Swyddogion |