Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026/27 Penderfyniad: Cofnod: Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Gadeirydd PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2026/27 Penderfyniad: Cofnod: Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Anne Lloyd Jones yn
Is-gadeirydd PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Anne Lloyd Jones yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2026/27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor
Rheilffordd Amwythig /
Aberystwyth), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS
Dwyfor Meirionnydd), Gwyn Rees (Network Rail), Lorraine Simkiss, (Rheilffordd Tal-y-llyn), Llio Hughes (Swyddfa Plaid Cymru – Dwyfor Meirionnydd), Chris Wilson ( Rheolwyr Gwasanaeth - Teithio Diogel a Chynaliadwy -
Ceredigion), Gerwyn Jones (Pennaeth Cynorthwyol Adran
Amgylchedd (Trafnidiaeth)) a Deb Justice (Swyddog Datblygu - Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian) AELODAETH: Seddau Aelodau Etholedig: Nodwyd bod dwy sedd
wag ar gyfer Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor. Yn unol â chyfansoddiad y Pwyllgor, y gofyn yw, ymhlith
yr Aelodau Etholedig, bod cyfanswm
o 10 aelod, pum aelod o ardal Dwyfor a pum aelod o ardal
Meirionnydd. Gyda phum Aelod eisoes
ar y Pwyllgor o
Feirionnydd, bydd angen i’r ddwy sedd
wag gael eu llenwi gan Aelodau o Ddwyfor. Nododd y Cadeirydd y byddai’n trafod y seddi gwag gyda’r Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cyng. Craig ab Iago Sedd wag Cyngor Ceredigion: Nid oedd
enwebiad wedi ei dderbyn gan
y Cyngor ers tro bellach. Gwnaed cais i anfon
neges at y Cyngor yn ail ofyn am enwebiad Sedd Cyngor Powys: Ers ei enwebiad
ym mis Mawrth 2025, nodwyd nad oedd y Cyng. Alwyn Evans wedi bod yn bresennol
yn y cyfarfodydd. Gwnaed cais i
ail gysylltu gyda Chyngor Powys; Da fyddai cael presenoldeb Cynghorydd
Machynlleth yn y cyfarfod gan fod nifer o faterion / elfennau yn ymwneud a’r
rheilffordd yn digwydd yn y Compownd ym Machynlleth.
|
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Dachwedd 2025 fel rhai cywir |
|
|
I DDERBYN DIWEDDARIAD GAN GYNRYCHIOLWYR I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr: · Network Rail · Trafnidiaeth Cymru · Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig · Arall Cofnod: Trafnidiaeth Cymru (TrC) Croesawyd James Nicholas (Partner Cefnogi
Busnes, Trafnidiaeth Cymru) i’r cyfarfod. Fflyd Trenau newydd Dosbarth 197 ·
Bydd y trenau newydd yn cael eu
cyflwyno i wasanaeth ym mis Medi 2026.
Nododd y byddai trenau Dosbarth 197 yn fwy dibynadwy ac yn perfformio yn well –
wedi eu cynllunio i fod yn fwy hygyrch na'r trenau Dosbarth 158 hŷn; bod
drysau canolog ar y trenau yn cynorthwyo teithwyr i fynd ar ac oddi ar y trên
yn haws, yn ogystal â symud rhwng cerbydau. Er y gallu i deithio ar gyflymder o
100mya, ni fydd addasiadau i’r amserlen, ond y gobaith yw y bydd y trenau yn
cyrraedd a gadael ar amser ·
Bod bwriad gyrru un o’r trenau
newydd i Aberystwyth yn ystod yr haf gan wahodd rhanddeiliaid i weld y trên a
chwrdd â rhai aelodau o’r Tîm Gweithrediadau sydd wedi bod yn gweithio ar y
prosiect. ·
Hyfforddiant gyrwyr yn parhau, a
hyfforddiant rheolwyr trên yn dechrau ym mis Mehefin ·
Bod gosod CET (tanciau gwaredu gwastraff toiledau), wedi'i
gymeradwyo ar gyfer Pwllheli gyda gobaith i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis
Awst. ·
Twmpathau Harrington yn cael eu
gosod mewn 6 gorsaf ar yr arfordir ·
Platfform yn cael ei addasu yng
ngorsafoedd Abermaw, Harlech a Phorthmadog Yng nghyd-destun perfformiad, adroddwyd bod
482 o wasanaethau wedi eu rhedeg rhwng Ebrill a Mai, oedd yn fwy nag unrhyw
gyfnod arall yn y flwyddyn. Ategwyd bod perfformiad ‘cyrraedd ar amser’ wedi
gostwng ychydig, ond yn parhau i fod yn uwch na lefelau targed Cymru. O ran
teithiau sydd wedi eu canslo, bod y rhain islaw 2%, ac eto yn well na
chyfartaledd Cymru. Ar gyfer tymor yr Haf, bydd bwriad rhedeg
trenau 4 cerbyd ar hyd yr arfordir, yn amodol ar effaith hyfforddiant criwiau
trên ar gyfer y trenau newydd. Bod bwriad rhedeg y trên cysgu
moethus Britannic
Explorer ar y Cambrian, gyda chynllun wedi ei
ddatblygu fel nad yw'n cael effaith ar ganslo unrhyw wasanaethau teithwyr. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu addasiadau
i amserlen yr arfordir gydag ymadawiadau ychydig yn hwyrach, felly anogwyd pawb
i wirio amseroedd cyn teithio Diolchwyd i James am y diweddariad Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth
ddilynol: ·
Yn llongyfarch Trafnidiaeth Cymru
ar welliant mewn perfformiad, er hynny nifer oriau gwasanaeth yn llawer llai o
gymharu gyda gweddill Cymru (trenau'n rhedeg oddeutu pob 2 awr (dydd Llun -
dydd Sadwrn) ac yn llai aml ar ddydd Sul). ·
Yn croesawu’r bwriad o gyflwyno
trenau 4 cerbyd dros yr Haf ·
Trenau ar amser, cynnydd yn y
defnydd, nifer digwyddiadau mewn trefi lleol yn cael eu cefnogi gan ddefnydd y
trên – y gobaith yw y gall hyn arwain at drenau yn rhedeg pob awr. Bydd cynnydd
mewn defnydd hefyd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth. ·
Cais i gadw’r trenau hwyr ar
amserlen gaeaf 2026/27 · Pryder yn y nifer achosion lle nad yw teithwyr yn talu, neu'r tocynnwr ddim yn cyrraedd at deithwyr, ac felly nid ydynt yn gynwysedig yn nata nifer defnyddwyr. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
CWESTIYNAU FFURFIOL I ystyried ymatebion i gwestiynau a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned
Criccieth a Chyngor Cymuned Llanbedr Nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru y byddai’n
ymateb yn uniongyrchol i'r Cynghorau Lleol, ond ymatebwyd yn fras i’r materion
canlynol: ·
Bod gwasanaeth y trenau newydd i ddechrau
ym mis Medi 2026 ·
Mewn ymateb i gais i’r amserlen
ddangos y trenau drwodd i ac o Birmingham gan nad yw pob trên yn dod i fyny'r
arfordir, nodwyd mai’r neges gyffredinol yw gwirio cyn teithio, a bod
swyddogion ar gael yn y gorsafoedd i rannu gwybodaeth a chynorthwyo gyda chysylltiadau ·
Gall platfform Llanbedr wneud gyda
rhywfaint o ofal - yn ddelfrydol estyniad platfform,
ac angen
llwybr mynediad addas i’r orsaf; byddai’n ymateb yn uniongyrchol i Gyngor
Cymuned Llanbedr Cwestiynau eraill a godwyd yn y cyfarfod: Gwaith Dŵr Cymru, Dyffryn Ardudwy Yr Aelod Lleol wedi codi pryderon ynghylch
defnydd y groesfan reilffordd gan lorïau 30 tunnell gyda threlars yn cario
llwythi trwm dros gyfnod y gwaith. Nid yw eisiau i'r gwaith gael unrhyw effaith
ar wasanaeth y rheilffordd, y rheiliau na'r trawstiau. Roedd hefyd yn gofyn a
oedd swyddogion Network Rail
wedi cynnal ymweliad safle i asesu'r sefyllfa. A yw'r Cambrian yn
cael ei adael ar ôl oherwydd bod y system ERTMS sydd ar y rheilffordd wedi
dyddio? Nodwyd bod System Rheoli Traffig Rheilffyrdd
Ewrop (ERTMS) yn system unedig, awtomatig o safon sydd yn cael ei ddefnyddio i
reoli traffig rheilffyrdd. Newidiwyd y signalau ar gyfer y Cambrian
i ERTMS yn 2011 fel rhan o dreialu’r Cynllun Defnyddio Cynnar oedd yn cael ei
gyflwyno i'r DU. Ystyriwyd bod ERTMS yn cynnig manteision perfformiad,
diogelwch ac yn lleihau costau yn yr hirdymor. Ategwyd bod cyflwyno i weddill y
DU wedi bod yn llawer arafach nag a ddisgwyliwyd, ond y bwriad yw parhau gan
adennill momentwm gyda gwaith i ddechrau ar Brif Linell Arfordir y Dwyrain. Nid
yw'r Cambrian yn cael ei adael ar ôl gydag
uwchraddiadau'n cael eu gwneud yn 2020. Eglurwyd bod cyflwyno ERTMS yn golygu na allai
Trenau Stêm, sy’n atyniad poblogaidd iawn, redeg ar y Cambrian
mwyach a bod ymgyrchu dros fersiwn gludadwy ar gyfer y trenau stêm heb wneud
llawer o gynnydd. Nododd Bill Redfern, yn ei farn ef, fod
fersiwn gludadwy yn rhwystr oherwydd y lefel uchel o integreiddio sydd ei angen
rhwng yr offer ERTMS a'r trên stêm. Byddai'r gost yn debygol o fod yn llawer
mwy na bwrw ymlaen â rhedeg trên stêm addas ar gyfer y Cambrian.
Ategwyd, yn ddiweddar bod trên stêm y Tornado wedi cael ei osod gyda ERTMS ac
fe'i profwyd ar y Cambrian rhwng Amwythig a'r
Drenewydd, ond ei fod yn rhy drwm i ddod ymhellach. Cyfarfod nesaf i’w
gynnal 27ain o Dachwedd 2026 |