Lleoliad: Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog, Gwynedd
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Nodyn: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd Owain Williams, Mr
Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Mr Alun Wyn Evans (Cynrychiolydd
Meirionnydd Unllais Cymru), Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Y Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth),
Mr Neil Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru), Tracy Parkinson (Rheilffordd Talyllyn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn
teilyngu sylw brys ym marn
y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd:
Cofnodion cyfarfod
y gynhadledd a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016.
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion |
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL PDF 572 KB I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley a Mr Mark Peters, Network Rail. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru a Mr Mark Peters, Peiriannydd
Asedau i'r cyfarfod. Roedd Mr Mark Peters wedi paratoi cyflwyniad
ar Draphont Abermaw ar ffurf
sleidiau ond yn anffodus nid
oedd yr offer angenrheidiol ar gael ac felly addawodd y byddai'n anfon y cyflwyniad i'r Swyddog Cefnogi Aelodau iddi hithau ei
anfon ymlaen i aelodau'r Pwyllgor. Aeth yn
ei flaen i ddatgan fod y trenau
yn rhedeg ers y tân diweddar
ar Draphont Abermaw a hyderai mai dim ond ychydig
o waith adfer oedd ar ôl
i'w orffen ac y bydd hyn yn
cael ei wneud
cyn gynted â phosib. Dywedodd Swyddog
Partneriaeth Rheilffyrdd y
Cambrian y byddai'r draphont
yn dathlu 150 mlynedd y flwyddyn nesaf ac roedd yn awyddus i wybod
am raglen y gwaith datblygu ar y draphont
a'r amserlen i gael gwybod am faint o amser na fyddai
modd ei defnyddio. Gofynnodd hefyd i Network Rail i fod yn ystyriol gan
leihau unrhyw darfu cymaint ag oedd yn bosib
yn ystod y tymor gwyliau prysur,
gan fod yr
ardal yn dibynnu yn llawer
iawn ar dwristiaeth. Fel rhan
o'r dathliadau pen-blwydd, awgrymwyd y dylid dangos ffilm
enwog a chyffrous 'Ghost
Train' ac awgrymodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, hefyd y gellid defnyddio hanner un o'r trenau fel
sinema i ddangos y ffilm. I ateb yr uchod, dywedodd
Mr Sam Hadley fod Siân
Lewis, oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf, bellach ddim yn
swyddog noddi i'r Cynllun Noddi
Masnachol (Network Rail) ac y bydd
yna noddwr newydd. Ychwanegodd hefyd y bydd Network Rail eisiau cymryd rhan yn
y dathliadau a bydd yn cyfrannu ato. Addawodd Mr Hadley
cyn gynted ag y byddai gwybodaeth ar gael, byddai
yn rhoi gwybod
i'r Swyddog Cefnogi Aelodau fel ei bod hithau
yn rhoi gwybod
i aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd aelod
ei fod yn
ymwybodol y byddai'r dathliad 150 mlynedd yn digwydd ym
mis Hydref er mwyn peidio â gwrthdaro
gyda Ras y Tri Chopa a gynhelir yn flynyddol ym
mis Mehefin. I ateb y pryderon a godwyd, sicrhaodd Mr Hadley Aelodau'r Pwyllgor: ·
nad oedd gan Network Rail unrhyw fwriad i gau'r lein, er bod pobl
leol yn bryderus
y byddai'n cau ac roedd yn sylweddoli
pa mor werthfawr ydoedd i'r gymuned
·
na fyddai dim yn tarfu ar
y dathliad 150 mlynedd o
ran gwaith amddiffyn rhag y môr ·
na fyddai'r gwaith ychwanegol i wyneb y graig yn
Llanaber yn effeithio ar lein
y rheilffordd o gwbl a chafwyd sicrwydd y byddai'r peiriannau angenrheidiol yn mynd at y man gwaith o'r traeth. I ateb cais Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd am ragor o wybodaeth am geisiadau cynllunio, dylunio ac ati ar Draphont Abermaw, dywedodd Mr Hadley nad oedd unrhyw eglurder ar y mater yma ond fe fyddai yn ysgrifennu i ddiweddaru'r AS ac aelodau'r Pwyllgor hwn cyn gynted ag y byddai wedi derbyn yr wybodaeth. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru. (Copi i’w ddosbarthu
yn y cyfarfod) Cofnod: Rhoddodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad
ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma. Roedd yr aelodau
wedi derbyn newyddlen yr Hydref drwy e-bost. Dywedodd Mr Davies
nad oedd hi wedi bod yn haf arbennig o dda i Drenau Arriva Cymru o ran
problemau gweithredu ar y lein ac roedd hyn oherwydd: ·
Y tân ar draphont Abermaw ·
Diffyg gyrwyr trenau - pan roedd gyrwyr yn ymddeol
yn gynnar gallai gymryd hyd at 12 mis i hyfforddi darpar yrwyr trên ac felly
nid oedd ganddynt unrhyw yrwyr ychwanegol
·
Cyflenwad annigonol o drenau ar y lein - dim ond 24
o'r fflyd o 158 oedd yn gymhathol gyda ERTMS Er hynny, roedd yn
obeithiol y byddai'r sefyllfa yn gwella.
Llongyfarchwyd
Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian a diolchwyd iddo am ei waith yn
hyrwyddo'r lein. Nodwyd ymhellach fod
Ysgol Ardudwy wedi bod yn ardderchog ac wedi cydweithio gyda hwy o safbwynt y
problemau a gafwyd gyda thraphont Abermaw. I ateb y sylwadau
wnaed gan yr aelodau, dywedodd Mr Davies yr isod: ·
Roedd yn derbyn fod angen cerbydau ychwanegol gan
fod mwy o deithwyr yn teithio ar y trên y dyddiau hyn ·
Dyma oedd yr amser gorau i ganfasio am ragor o
drenau i Gymru cyn bod y darpar gwmnïau yn cyflwyno tendrau ar gyfer y
fasnachfraint nesaf yn 2018. ·
Byddai yn bosib rhedeg trenau ychwanegol ar y lein
yma ar yr amod fod yr offer angenrheidiol wedi ei osod arnynt iddynt fod yn
gymhathol gyda ERTMS ·
Bydd y system cyflwyno tocynnau newydd ar y trên yn
gymhathol gyda threnau tanddaearol Llundain
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd gan Aelodau unigol: (a)
Bod yna is-bwyllgor o bedwar aelod sef: Cyng. Trevor
Roberts Cyng. J. Michael
Williams Mr Robert Robinson Mr Rhydian Mason oedd mewn
cysylltiad gyda Mr Ken Skates, Ysgrifennydd Economi a Seilwaith Cabined
Llywodraeth Cymru ac os oedd unrhyw faterion o bryder yna dylid dod a'r rhain i
sylw'r cydgyfarfod gyda Phwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth a gynhelir
ar 25 Tachwedd 2016. (b)
O ran y broblem gyda nifer annigonol o yrwyr trên,
awgrymwyd y dylid recriwtio gyrwyr rhan-amser Penderfynwyd - Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Ben Davies amdano. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD PARTNERIAETH Y CAMBRIAN PDF 156 KB I dderbyn adroddiad gan Swyddog Rheilffordd
Partneriaeth y Cambrian. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd - Adroddiad ysgrifenedig gan Mr Rhydian
Mason, Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian oedd yn amlinellu'r gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol oedd yn cynnwys; ·
Shopmobility yn Aberystwyth ·
Arddangosfa Flodau yng Ngorsaf
Aberystwyth ·
Help Llaw - prosiect ffilm a gwaith dilynol ·
Menter Llyfrgell ·
Digwyddiad Cymdeithas Arriva UK plc a Chymunedau ·
Arwydd cymunedol Caersws / Canolfan Gelf y Canolbarth ·
Gwobrau
ACORP ·
Ffilm
'hyrwyddo' newydd ·
Ymgyrch Croesfannau Diogel ·
Cyhoeddiadau ·
Ffair Glasfyfyrwyr Prifysgol
Aberystwyth ·
Rheilffyrdd Cymunedol Cymru ·
Ceisiadau Grant
Cronfa Gyfalaf Rheilffyrdd Cymunedol Llywodraeth Cymru Cyfeiriodd Mr Mason at farwolaeth ddiweddar y Cyng. Mansel Williams ym mis Gorffennaf ac y byddai plac coffa
yn cael ei
osod ar blatfform
3 yng Ngorsaf Reilffordd Amwythig er cof am y diweddar
Gyng. Williams.
Roedd Mr Mason wedi trefnu i gwpled yn y Gymraeg i gael ei harysgrifio
ar y plac. Roedd angen canmol
Pennaeth Ysgol Ardudwy a'r disgyblion am eu gwaith fel mabwysiadwyr
gorsaf. Cynhelir digwyddiad ar 16 Rhagfyr 2016 i ddathlu'r gwaith a wnaed a bydd band Ysgol Ardudwy yn chwarae.
Hyderir y bydd Mr Mason yn gallu gwahodd
Mr Ken Skates a'r Arglwydd
Dafydd Elis-Thomas i ymweld â rhai
o'r gweithgareddau gaiff eu cynnal.
O
safbwynt y cardiau oren Help Llaw, hyderwyd y gellid trefnu cyfarfod arbennig gydag Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd ac Aelod Cynlluniad Dwyfor/Meirionnydd yn San Steffan cyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd ymhellach y gallai unrhyw unigolyn ddefnyddio'r cerdyn oren os oeddent
angen cymorth ar y trên. Mewn ymateb i wahoddiad i fynychu Grŵp Mynediad
Meirionnydd i hyrwyddo'r cardiau
oren, cytunodd Mr Mason i gyd-gysylltu gyda'r Cynghorydd Delwyn Evans er mwyn trefnu dyddiad
addas. O
ran ceisiadau i Gronfa Gyfalaf Rheilffyrdd Cymunedol Llywodraeth Cymru roedd cais
wedi ei gyflwyno
ar gyfer llochesi yn y Trallwng,
Cyffordd Dyfi a Llanaber ac fe hyderwyd y byddai un o'r ceisiadau hyn
yn llwyddo. Wrth ateb yr
uchod, fe wnaed y pwyntiau isod gan yr
aelodau: ·
Y dylid cyflwyno cais i uwchraddio'r maes parcio yn Fairbourne
·
Pe byddai cais Llanaber
yn llwyddiannus dylid sicrhau nad
oedd y seddau yn wynebu tua'r
môr ·
Beth oedd y sefyllfa o ran cael trenau stêm
ar Lein Arfordir
y Cambrian? ·
A oedd modd
i'r cardiau oren fod ar
gael ar gyfer
holl gludiant cyhoeddus h.y. bysiau, tacsi? ·
Os gellid tacluso Gorsaf Pwllheli (a)
Atebodd
Mr Sam Hadley gan ddweud ei fod wedi
ysgrifennu ateb manwl i Aelod Seneddol
Dwyfor/Meirionnydd o ran y trenau
stêm ac fe ellid trosglwyddo'r wybodaeth yma i'r
aelodau drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau. (b)
Cytunodd
Mr Rhydian Mason i lunio llythyr
ar ran y Pwyllgor at Mr Ken
Skates i holi a fedrai'r waledi oren fod
yn orfodol ar bob math o gludiant cyhoeddus Penderfynwyd - Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y
Cambrian amdano. |
|
ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG PDF 101 KB I dderbyn adroddiad gan Mr Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Yn absenoldeb yr Heddwas Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, cyflwynwyd ei adroddiad ysgrifenedig
i'r Pwyllgor er gwybodaeth a gofynnwyd i'r aelodau
a oedd yna unrhyw faterion oedd yn achosi
pryder. (a)
Roedd y
Cynghorydd Annwen Hughes yn bryderus
am droseddau ar groesfan reilffordd Talwrn Bach yn Llanbedr ac oherwydd y ffaith na fyddai'r gwaith
o osod y rhwystrau yn dechrau tan 2018, roedd yn poeni
y gallai damwain ddigwydd yma. (b) Wrth ateb, nododd
Mr Sam Hadley y sylw a wnaed
a byddai'n trefnu i'w gydweithwyr i fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i ddiweddaru'r aelodau am y rhaglen adnewyddu croesfannau rheilffordd yn ogystal â'r agwedd
Diogelwch Cymunedol. Penderfynwyd: (i) Derbyn a nodi'r
adroddiad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain. (ii) Gofyn
i Mr Sam Hadley i wahodd ei
gydweithwyr i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i ddiweddaru'r aelodau fel yr amlinellwyd
yn (b) uchod. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 235 KB I dderbyn ymateb I’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. (a) Atodiad A – Cwestiwn
gan Mr Roger Goodhew (b) Atodiad B – Cwestiwn
gan Gyngor Tref Porthmadog (c) Atodiad C – Llythyr
gan Gyngor Cymuned Llannor ynglyn a phryder am ysbwriel ar y lein
rhwng Pwllheli a Penychain. (Copiau yn amgaeedig)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Roedd cwestiynau
ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor a chafwyd yr
atebion isod: (i)
Roedd
mater darpariaeth stoc cerbydau digonol i gwrdd â'r galw gan deithwyr yn ystod
cyfnod y fasnachfraint newydd wedi ei drafod yn eitem 5 uchod ac ychwanegodd Mr
Ben Davies y byddai'n anfon rhagor o wybodaeth i aelodau'r Pwyllgor drwy'r
Swyddog Cefnogi Aelodau. (ii)
Yr
angen am gyhoeddiadau yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog ymhob gorsaf ar hyd lein
y rheilffordd. Atebodd Mr Ben Davies
gan ddatgan ei fod yn cwrdd â swyddogion y Comisiynydd Iaith yn fuan i sicrhau
fod yr holl gyhoeddiadau yn ddwyieithog drwy Gymru a byddai yn diweddaru'r
aelodau ar ôl y cyfarfod hwnnw. Ychwanegwyd hefyd gan aelod
y dylai'r cyhoeddiadau yn y lifftiau yng Ngorsaf Machynlleth hefyd fod yn
ddwyieithog. (iii) Pryderon
aelodau o Gyngor Cymuned Llannor nad oedd yr holl sbwriel yn deillio o Ganolfan Ailgylchu
Pwllheli gan ei fod ar hyd yr holl ffordd o Bwllheli i Benychain. Roedd
Sam Hadley wedi ateb pryderon Cyngor Cymuned Llannor
drwy ddweud ei fod wedi codi'r mater gydag aelod o dîm cynnal a chadw Network Rail oedd yn gwybod am
y broblem, ac roedd efy n credu ei bod
yn deillio o drafferthion cadw sbwriel ar safle'r awdurdod lleol ac roedd wedi bod yn cyd-gysylltu gyda hwy i
geisio datrys y mater. Fodd bynnag, ymddiheurodd Mr Hadley nad oedd y mater
wedi ei ddatrys ac addawodd i godi'r
mater eto gyda'r tîm cynnal a chadw.
Holodd yr aelodau / mudiadau oedd
yn rhan o'r Pwyllgor os oeddent yn gwybod am unrhyw fannau gwael ar hyd ochr y lein oedd angen eu clirio
ac os oeddent dylent roi gwybod iddynt ar unwaith
drwy ffonio'r tîm cymunedau ar 03457 114141 neu ar e-bost i crwales@networkrail.co.uk (iv) Derbyniwyd gohebiaeth hwyr
drwy law'r Cynghorydd Gethin Williams, a anfonwyd i Gyngor Tref Abermaw, am
adeiladu ffens newydd ar hyd terfyn cledrau'r rheilffordd a therfyn prif faes
parcio Cyngor Gwynedd. Er eu bod yn
gwerthfawrogi fod diogelwch o'r pwysigrwydd pennaf y farn ydoedd nad oedd maint
a natur y ffens yn cyd-fynd â'r hyn oedd oddi amgylch ac roedd yn
or-ddatblygiad ar gyfer ei ddiben.
Addawodd Mr Sam Hadley i ymchwilio i'r mater ymhellach ac i gysylltu â'r
Cynghorydd Gethin Williams yn uniongyrchol.
Dywedodd hefyd ei fod yn ymwybodol fod un o'i gydweithwyr yn bwriadu
ymweld ag Abermaw i siarad gyda Chyngor y Dref.
Penderfynwyd: Diolch am y cwestiynau ac am yr
atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion. |
|
AELODAETH I drafod cais a dderbyniwyd
gan Swyddog Rhanbarthol Trafnidiaeth
Strategol sy’n cynrychioli
Ceredigion, Gwynedd a Powys, i fynychu cyfarfodydd o Bwyllgor Rheilffordd Arfordir y
Cambrian. Cofnod: Cyflwynwyd - Cais gan y Swyddog Rhanbarthol ar gyfer Cludiant
Strategol, yn cynrychioli Cynghorau Ceredigion, Gwynedd a Phowys,
i fynychu Pwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Penderfynwyd: Cymeradwyo'r cais. |