Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWD ethol y Cynghorydd Gwynfor Owen yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Cyng. Elfed Wyn ap Elwyn (Cyngor Gwynedd) a Clare Williams (Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian) 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 151 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 31 Mawrth 2023 fel rhai cywir

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 31 Mawrth 2023 fel rhai cywir

 

 

 

7.

DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr

 

·         Network Rail

 

·         Trafnidiaeth Cymru

 

·         Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Tomos Roberts a Charlotte Harries (Rheolwyr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Adroddwyd bod gwaith uwchraddio’r bont a gwaith atgyweirio ychwanegol ar y rheilffordd wedi ei gwblhau ac y byddai’r rheilffordd rhwng Pwllheli a Machynlleth a'r llwybr cerdded ar hyd y draphont, yn ail agor 2/12/2023. Ategwyd bod digwyddiad swyddogol i ddathlu’r agoriad wedi ei drefnu yn Theatr y Ddraig ar yr 8fed o Ragfyr 2023. Cadarnhawyd bod y gwaith wedi ei gwblhau ar amser a diolchwyd i'r pwyllgor ac i’r cymunedau lleol am fod yn amyneddgar yn ystod y gwaith.

 

Diweddariad ar draphont Aberdyfi

 

Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod traphont Aberdyfi hefyd wedi ail agor ddiwedd Hydref a bod y gwaith hwnnw o adnewyddu’r strwythur yn llawn wedi ei gwblhau yn llwyddiannus.

 

Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol.

 

Diweddariad ar Fentrau Lleol

 

Adroddwyd bod Tîm Lleol ar gyfer y Cambrian wedi ei greu o dan arweiniad Gwyn Rees (Cyfarwyddwr Perfformiad a Thrawsnewid Network Rail ar gyfer Cymru a Chyfarwyddwr Partneriaeth Rheilffordd Leol y Cambrian). Amlygwyd bod y tîm yn sicrhau cydweithio rhwng Network Rail a Trafnidiaeth Cymru a bod ymateb i waith y tîm hyd yma wedi bod yn gadarnhaol.  Gyda chydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ail gyflwynwyd trenau pedwar cerbyd ar y rheilffordd dros yr Haf. Gyda golygfeydd godidog ar hyd y Cambrian, roedd yr ymgyrch pedwar cerbyd wedi galluogi mwy o bobl i fanteisio’n llawn ar y daith boblogaidd gan gynyddu refeniw a rhoi hwb i’r economi leol. Cyfeiriwyd hefyd at waith golchi ffenestri’r cerbydau yn y gorsafoedd oedd yn amlygu un agwedd flaengar y tim at wella profiad y teithiwr.

 

Diolchwyd am y diweddariad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Amlygu balchder bod y bont yn agored a bod y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli yn agor 2/12/23

·         Bod cymeradwyaeth i’r gwaith - wedi ei gwblhau o dan amgylchiadau heriol iawn

·         Er cwynion am y gwasanaeth bws oedd yn rhedeg tra bod y rheilffordd wedi cau, un cwyn swyddogol a gafwyd a hynny oherwydd llifogydd

·         Bod y cyfnod wedi ymddangos yn hir yn enwedig i blant ysgol

·         Diolch i Grŵp Cymuned Abermaw and ddiweddariadau cyson o’r gwaith

·         Croesawu trenau pedwar cerbyd. Er hynny, un siwrne dychwelyd (return journey) y diwrnod oedd yn rhedeg gyda pedwar cerbyd yn ystod gwyliau’r Haf.

·         Bod glanhau ffenestri'r trên yn ddatrysiad syml - gwerthfawrogi hyn

·         Bod teithio am ddim yn cael ei gynnig i deithwyr dros 60 oed yn ystod y gaeaf yn unig – cais i ystyried ymestyn hyn drwy’r flwyddyn

·         Diolch i Network Rail am ymweld â llwybr croesi’r cledrau ym Mhorthmadog ac am wrando ar sylwadau’r Cyngor Tref a thrigolion lleol. Croesawu penderfyniad i ddiogelu’r groesfan yn hytrach na'i chau.

·         Diolch i Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) am gydweithio gyda Swyddfa Liz Saville Roberts i gydlynu trefniadau Gŵyl Gwrw Harlech. Yn anffodus, heb ymyrraeth yr AS, roedd ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru yn araf iawn, ond cafwyd datrysiad yn dilyn nifer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 50 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd

 

 

Cofnod:

Cyngor Tref Criccieth

 

Cwestiwn: A oes modd paentio stesion Criccieth?  Mae ‘Criccieth yn ei Blodauyn gweithio’n galed ar welliannau a chynnal y tiroedd yno a byddai’n hwb mawr cael cot o baent i’r stesion er mwyn gwella golwg a chroesawu defnyddwyr yno.

 

Ateb: Yn anffodus,  nid oedd Gail Jones Trafnidiaeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod  - TC sydd yn gyfrifol am faterion paentio gorsafoedd. Nodwyd y byddai modd holi am ymateb ysgrifenedig gan TC.

 

Cwestiwn: Mae graffiti wedi ymddangos ar rhai o’r pontydd rhwng Criccieth a’r Graig Ddu – a oes modd i chi eu gwaredu?

 

Ateb NR: Gwnaed cais am fwy o fanylion am y graffiti - ei leoliad ac unrhyw luniau y gellid eu rhannu. Ategwyd y byddai modd cael y tim cymunedol allan i’w drin.

 

Diolchwyd am y cwestiwn

 

Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

Cwestiwn: Angen diweddariad o ganlyniadau arolwg diweddar (a gynhaliwyd yn ystod yr Haf) o farn teithwyr Rheilffordd y Cambrian.

 

Ateb: Nododd y Cyng Trevor Roberts y byddai’n cyflwyno adroddiad yn y cyfarfod nesaf ond bod rhai o’r sywladau yn mynegi pryder y byddai’r trenau newydd yn cynnig llai o seddi a thoiledau yn y cerbydauhyn yn arwain at drenau llawn, aniogel.

 

Diolchwyd i Network Rail a Heddlu Trafnidaieth Prydeinig am eu cefnogaeth ac am ymateb i’r materion a godwyd yn y Pwyllgor.  Fe’i hanogwyd i sicrhau cyfathrebu clir gyda’r cyhoedd o unrhyw ddigwyddiadau / diweddariadau.

 

Cyfarfod nesaf i’w gynnal Gwanwyn 2024 – LHE i drefnu