Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Chris Wilson (Cyng Sir Caerfyrddin), Trefor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd Amwythig/Aberystwyth), Cyng. Richard Glyn Roberts (Gwynedd), Ann Elias (Cyngor Sir Caerfyrddin), Cyng. Elfed Wyn ap Elwyn (Gwynedd) a Clare Britton (Rheilffordd Ffestiniog) 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 136 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fawrth 2024 fel rhai cywir

              

5.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG TRAFNIDIAETH CYMRU I AMSERLENNI RHEILFFORDD ARFORDIR Y CAMBRIAN 2024

Trafod newidiadau arfaethedig i amserlenni Rheilffordd  Arfordir y Cambrian 2024

 

Cofnod:

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru eu bod yn bwriadu lleihau nifer teithiau ynghyd ag addasu rhai amseroedd teithiau ar reilffordd y Cambrian, gwaned cais gan rai o’r Aelodau i gynnal cyfarfod arbennig fel bod modd cynnal sgwrs gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru i gael mwy o wybodaeth gefndirol ar sut wnaed y penderfyniadau ynghyd ag eglurhad o’r cyfiawnhad dros y newidiadau.

 

Adroddwyd bod cyfarfod Grŵp Cyswllt Trafnidiaeth wedi ei gynnal yn yr Amwythig 11eg Ebrill 2024 i drafod y newidiadau. Mynegodd y Cyng. Gwynfor Owen siom bod pob penderfyniad eisoes wedi ei wneud ac nad oedd unrhyw resymeg dros ffigyrau y defnyddwyr a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad gan fod y rhain yn creu argraff gamarweiniol o ddefnydd y rheilffordd. (pandemig COVID-19, gwaith sylweddol ar yr isadeiledd, sgil effaith tywydd garw, anawsterau dibynadwyaeth a pherfformiad wedi cael effaith sylweddol ar lefel y gwasanaeth ac o ganlyniad ar ddefnydd y rheilffordd).

 

Cyfeiriwyd at rybudd o gynnig a gafwyd yng nghyfarfod o’r Cyngor Llawn (Mai 2024) lle cynigodd y Cyng. Gwynfor Owen i Cyngor Gwynedd ddatgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru (perchnogion Trafnidiaeth Cymru), nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn. Derbyniwyd y cynnig yn unfrydol gan Aelodau’r Cyngor.

 

Amlygwyd bod Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth), wedi cytuno gyda’r angen am doriadau o £700k er bod trenau newydd yn cael eu hychwanegu mewn rhai llefydd. Cyfeiriodd y Cyng. Eryl Jones Williams at lythyr roedd Cyngor Tref Abermaw wedi ei anfon at Ken Skates yn amlygu siom yn y newidiadau arfaethedig i wasanaeth rheilffordd ar Reilffordd y Cambrian. Roedd y llythyr yn nodi bod y cyfnod ymgynghori wedi bod yn rhy fyr (nad oedd 32 diwrnod yn ddigon o amser i gasglu ymatebion) a bod yn rhaid i ymatebwyr gofrestru i gyflwyno eu barn yn debygol o atal pobl rhag cymryd rhan.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) mai Adolygiad Amserlen Ar-lein oedd wedi ei gynnal i gasglu barn a gwybodaeth ar yr addasiadau, ac nid ymgynghoriad.

 

Sylwadau cyffredinol yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Siom bod y penderfyniad wedi ei wneud cyn rhannu gwybodaeth gyda defnyddwyr. Siomedig na chafwyd unrhyw wybodaeth am y bwriad i newid yr amseroedd / teithiau yng nghyfarfod mis Mawrth 2024

·         Bod cyfnod yr ymgynghoriad yn rhy fyr o lawer - pobl heb dechnoleg yn cael eu cau allan. Anodd deall nad ymgynghoriad ydoedd

·         Dylai Trafnidiaeth Cymru ymgynghori cyn gwneud unrhyw newidiadau - hyn yn sarhad ar bobl yr ardal. Hynod siomedig nad oedd ymgynghoriad llawn – beth yw’r rheswm dros hyn?

·         Y neges sydd yn cael ei rhannu gan Lywodraeth Cymru, yw ‘nad oes buddsoddi mewn ffyrdd newydd felly defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus’. Erbyn hyn maent yn gwneud toriadau i wasanaethau rheilffordd!

·         Sut mae’r addasiadau yn cyd-fynd â’r Polisi Gwyrdd o leihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd?

·         Nifer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.