Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Eirwyn Williams, (Cyngor Gwynedd),
Cyng. Angela Russell (Cyngor Gwynedd), Cyng. Gareth Griffith (Aelod Cabinet
Amgylchedd - Cyngor Gwynedd), Liz Saville
Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd),
Cyng. Annwen Hughes, (Cynrychiolydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian),
Cyng. Michael Williams (Cyngor Powys), Ann Elias (Cyngor Sir Ceredigion) a
Joyce Watson (AC Rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru) Amlygodd y Cadeirydd bod y Cynghorodd Selwyn Griffiths yn ymddeol fel
Cynghorydd Sir ym mis Mai 2022. Diolchodd i’r Cynghorydd am ei waith a’i gefnogaeth
i’r Cambrian dros y blynyddoedd. Mewn ymateb, nododd
y Cynghorydd Griffiths ei fod wedi mwynhau bod yn rhan o’r grŵp a’i fod yn
pwysleisio'r angen i’r grŵp barhau i sicrhau bod y Cambrian
yn allweddol i economi Gwynedd. Diolchodd
i’r swyddogion am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithio ac ymateb i
bryderon. Ar ran Network Rail,
mynegodd Sam Hadley ei ddiolch i’r Cynghorydd am ei waith a hefyd am y croeso
cynnes wrth ymweld â Porthmadog. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Derbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 1af o Hydref 2021 Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 1af o Hydref 2021 fel rhai cywir Materion yn codi o’r cofnodion: ·
Sicrhau bod posteri yng ngorsaf
Llandanwg yn amlygu gwasanaeth tacsi. GJ i wirio hyn ynghyd a sicrau bod gwybodaeth gyfredol yn atgoffa defnyddwyr o’r
gwasanaethau bws fydd ar gael o ganlyniad i Draphont Abermaw yn cau ·
Strategaeth Llwybrau Diogel at
Wasanaethau - sut mae rhoi mewnbwn i’r strategaeth? GJ i rannu manylion gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen ·
Gosod rhwystrau damweiniau a
thrwsio wal derfyn ar yr A493 rhwng Llwyngwril a Friog. Cyfarfod nesaf gyda’r
Cyngor Cymuned wedi ei drefnu ar gyfer 9/3/22. Pryder gan yr Aelod Lleol (Cyng.
Louise Hughes Llangelynnin) bod cyflwr y wal yn gwaethygu ac amserlen ar gyfer
cwblhau’r gwaith yn llithro. SH yn amlygu bod rheolwr prosiect a chyllideb wedi
ei gosod ar gyfer y gwaith sydd yn parhau yn faes blaenoriaeth. ·
Gorsaf Llanbedr - adroddwyd bod
cyfarfod i drafod gwelliannau / addasiadau posib i’r orsaf wedi ei gynnal
gyda’r Cyngor Cymuned ym mis Hydref, bod David Crunkhorn (Gorsaf Feistr) wedi
ymweld â’r orsaf a bod ail gyfarfod wedi ei drefnu gyda’r Cyngor Cymuned. Cais
am ddiweddariad pan fydd mwy o wybodaeth ar gael GJ ·
Cais am gyllid i gynnal astudiaeth
fer ar wasanaeth trên posib rhwng Bangor ac Afonwen wedi bod yn aflwyddiannus
oherwydd bod angen mwy o dystiolaeth am y buddion posib. BG yn adrodd bod
gwaith yn cael ei wneud i ailgyflwyno cais i’r dyfodol. |
|
DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU ·
Network
Rail ·
Trafnidiaeth Cymru ·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Cofnod: NETWORK RAIL Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru i’r
cyfarfod Diweddariad ar uwchraddio
traphont Abermaw Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y
draphont rhwng Medi 2021 a Rhagfyr 2021. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol
ac yn ffisegol anodd i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r
tywydd. Mewn ymateb i gwestiwn os oedd rhywfaint o’r bont wreiddiol yn weddill,
nodwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i gadw cymaint â phosib o’r nodweddion
gwreiddiol a bod unrhyw ailosodiad yn un ‘tebyg at ei debyg’. Ategwyd bod y
bont wedi ei chofrestru (Gradd 2) a bod pob ymgais yn cael ei wneud i sicrhau
bod y nodweddion yn cael eu diogelu. ETCS (European
Train Control System) Adroddwyd bod y System ETCS sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli signalau
a chyflymder trenau yn cael ei uwchraddio ar gyfer fflyd Dosbarth CAF 197 Civity fydd yn cael eu defnyddio ar y Cambrian
i’r dyfodol agos. Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r llinell Cambrian
yn cau dros gyfnod uwchraddio’r system
ETCS, nodwyd y byddai’r gwaith yn debygol o gael ei wneud dros y penwythnos ac
/ neu yn ystod cyfnod cau arall sydd wedi ei gynllunio i osgoi aflonyddwch. Prosiect Glandulas (Black Bridge) ger
Machynlleth Bod codi'r bont sy'n rhedeg dros yr Afon Dulas wedi profi yn
llwyddiannus iawn. Codwyd y bont un metr
yn uwch er mwyn lleihau effaith llifogydd ( lefel yr afon yn codi yn ystod glaw trwm a llinell y Cambrian
yn gorfod cau). O ystyried bod y buddsoddiad yn un eithaf bychan, yr effaith yn
sylweddol - yn ystod y tywydd garw diweddar, nodwyd nad oedd llifogydd arferol wedi atal gwasanaethau’r Cambrian Rhaglen Mynediad i Bawb
(Access for All) Amlygwyd bod y rhaglen yn gwella mynediad i orsafoedd a bod gorsafoedd
ar draws y wlad yn cael eu hysytired ar gyfer
gwelliannau. Am y tro cyntaf eleni, amlygwyd bod dwy o orsafoedd y Cambrian wedi eu cynnwys ar y rhestr waith posib - hyn yn rhywbeth nas
gwelwyd o’r blaen ac yn newyddion gobeithiol. TRAFNIDIAETH CYMRU Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno
diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru. Cyflwynwyd gwybodaeth am y trenau newydd Dosbarth CAF 197 Civity Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweld model o’r cerbydau newydd
nodwyd bod gwahoddiad i ymweld â’r
trenau newydd wedi ei drefnu Ebrill 2022 a thaith brawf yn cael ei threfnu i Gyffordd
Llandudno. Mewn ymateb, amlygwyd bod dyddiadau ymweld mis Ebrill yng nghanol
cyfnod cyn etholiad ac felly’n debygol o fod angen eu hail drefnu. Cyfeiriwyd at SGWRS sef cymuned ymchwil ar-lein Trafnidiaeth Cymru i
rannu barn ar drafnidiaeth yng Nghymru
gyda chyfle i gymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein, a fforymau
trafod i wella’r gwasanaeth. Amlygwyd pryder bod y cerbydau newydd gyda llai o seddau ac un toiled fesul 2 gerbyd. Ategwyd bod y Cambrian yn un o linellau mwyaf prysur Cymru a’r defnydd yn cynyddu o flwyddyn i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYFODOL CYNHADLEDD ARFORDIR Y CAMBRIAN PDF 420 KB Trafod awgrym a wnaed gan Bwyllgor Cyswllt
Rheilffordd yr Amwythig ac Aberystwyth (SARLC) i
gyfuno Pwyllgorau SARLC a Chynhadledd yr Arfordir. Cofnod: Cynigiwyd gohirio'r drafodaeth ar y mater tan ar ôl cyfnod yr etholiad.
Ategwyd bod cynnal y drafodaeth yn hanfodol ac mai dyhead yr aelodau oedd
parhau fel grŵp ar wahân. Angen sicrhau bod swyddogion Cyngor Gwynedd yn
ymwybodol o hyn. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 324 KB I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd Cofnod: Derbyniwyd
cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol gan Gyngor Tref Criccieth ‘Mae Cyngor Tref Criccieth
yn pryderu nad yw Network Rail
yn cyfathrebu yn ddigonol gyda’r cyhoedd i nodi pryd oedd y trenau wedi
ail-ddechrau’n ddiweddar – a bod angen gwella hyn ar gyfer y dyfodol gan ei fod
yn fater iechyd a diogelwch. A oes modd sicrhau gwell cyfathrebu am newidiadau
i’r gwasanaeth i’r dyfodol? Mae Cyngor Tref Criccieth hefyd a chonsyrn am
daclusrwydd/edrychiad y tir o gwmpas y stesion ar y dde. A oes modd gwneud
rhywbeth amdano’ Derbyniodd SH y feirniadaeth ac amlygodd bod pob ymgais wedi ei wneud i sicrhau cyn lleied
â phosib o aflonyddwch a chymhlethdod yn ystod y cyfnod heriol o gau ac ail
agor y rheilffordd. Ategodd, yn y dyfodol, bydd mwy o ystyriaethau i faterion
diogelwch croesfannau ac y bydd gwelliant yn y dulliau cyfathrebu wrth
weithio tuag at Cyfnod 3. Yng nghyd-destun taclusrwydd yr orsaf nodwyd mai TFC sydd yn gyfrifol am
daclusrwydd yr orsaf a bod Network Rail, fel perchennog y tir, yn gyfrifol am y rheilffordd a
thir bob ochr i’r rheilffordd ac yn llesu'r orsaf i TFC i reoli materion dydd i
ddydd. Nododd y byddai yn codi cais gwasanaeth ar ran Cyngor Tref Criccieth ac
y byddai asesiad yn cael ei wneud o’r gwaith angenrheidiol. Ategodd GJ y byddai
yn cysylltu gyda Rheolwr yr Orsaf. Diolchwyd
i bawb am eu cyfraniad |