Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd),
Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Chris Wilson (Cyng Sir
Caerfyrddin), Trefor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd Amwythig/Aberystwyth), Cyng.
Richard Glyn Roberts (Gwynedd), Ann Elias (Cyngor Sir Caerfyrddin), Cyng. Elfed
Wyn ap Elwyn (Gwynedd) a Clare Britton (Rheilffordd Ffestiniog) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 22ain o Fawrth 2024 fel rhai cywir |
|
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG TRAFNIDIAETH CYMRU I AMSERLENNI RHEILFFORDD ARFORDIR Y CAMBRIAN 2024 Trafod newidiadau arfaethedig i amserlenni Rheilffordd Arfordir y Cambrian
2024 Cofnod: Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru eu bod yn bwriadu
lleihau nifer teithiau ynghyd ag addasu rhai amseroedd teithiau ar reilffordd y
Cambrian, gwaned cais gan rai o’r Aelodau i gynnal
cyfarfod arbennig fel bod modd cynnal sgwrs gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru
i gael mwy o wybodaeth gefndirol ar sut wnaed y penderfyniadau ynghyd ag
eglurhad o’r cyfiawnhad dros y newidiadau. Adroddwyd bod cyfarfod Grŵp Cyswllt Trafnidiaeth wedi ei gynnal yn
yr Amwythig 11eg Ebrill 2024 i drafod y newidiadau. Mynegodd y Cyng. Gwynfor
Owen siom bod pob penderfyniad eisoes wedi ei wneud ac nad oedd unrhyw resymeg
dros ffigyrau y defnyddwyr a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad gan fod y rhain
yn creu argraff gamarweiniol o ddefnydd y rheilffordd. (pandemig COVID-19,
gwaith sylweddol ar yr isadeiledd, sgil effaith tywydd garw, anawsterau
dibynadwyaeth a pherfformiad wedi cael effaith sylweddol ar lefel y gwasanaeth
ac o ganlyniad ar ddefnydd y rheilffordd). Cyfeiriwyd at rybudd o gynnig a gafwyd yng nghyfarfod o’r Cyngor Llawn
(Mai 2024) lle cynigodd y Cyng. Gwynfor Owen i Cyngor Gwynedd ddatgan yn glir i
Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru (perchnogion Trafnidiaeth Cymru), nad
yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian
yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau
trwy’r flwyddyn. Derbyniwyd y cynnig yn unfrydol gan Aelodau’r Cyngor. Amlygwyd bod Ken Skates (Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth), wedi cytuno gyda’r angen am
doriadau o £700k er bod trenau newydd yn cael eu hychwanegu mewn rhai llefydd.
Cyfeiriodd y Cyng. Eryl Jones Williams at lythyr roedd Cyngor Tref Abermaw wedi
ei anfon at Ken Skates yn amlygu siom yn y newidiadau
arfaethedig i wasanaeth rheilffordd ar Reilffordd y Cambrian.
Roedd y llythyr yn nodi bod y cyfnod ymgynghori wedi bod yn rhy fyr (nad oedd
32 diwrnod yn ddigon o amser i gasglu ymatebion) a bod yn rhaid i ymatebwyr
gofrestru i gyflwyno eu barn yn debygol o atal pobl rhag cymryd rhan. Mewn ymateb i’r sylw, nododd Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) mai
Adolygiad Amserlen Ar-lein oedd wedi ei gynnal i gasglu barn a gwybodaeth ar yr
addasiadau, ac nid ymgynghoriad. Sylwadau cyffredinol yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Siom bod y penderfyniad wedi ei
wneud cyn rhannu gwybodaeth gyda defnyddwyr. Siomedig na chafwyd unrhyw
wybodaeth am y bwriad i newid yr amseroedd / teithiau yng nghyfarfod mis Mawrth
2024 ·
Bod cyfnod yr ymgynghoriad yn rhy
fyr o lawer - pobl heb dechnoleg yn cael eu cau allan. Anodd deall nad
ymgynghoriad ydoedd ·
Dylai Trafnidiaeth Cymru ymgynghori cyn gwneud
unrhyw newidiadau - hyn yn sarhad ar bobl yr ardal. Hynod siomedig nad oedd
ymgynghoriad llawn – beth yw’r rheswm dros hyn? ·
Y neges sydd yn cael ei rhannu gan
Lywodraeth Cymru, yw ‘nad oes buddsoddi mewn ffyrdd newydd felly defnyddiwch
drafnidiaeth gyhoeddus’. Erbyn hyn maent yn gwneud toriadau i wasanaethau
rheilffordd! ·
Sut mae’r addasiadau yn cyd-fynd
â’r Polisi Gwyrdd o leihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd? · Nifer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |