Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Cyng. Richard Glyn Roberts (Gwynedd), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Llio Hughes (Swyddfa Plaid Cymru), Delyth Griffiths (Swyddfa Plaid Cymru, Dolgellau), Joyce Watson (Aelod Seneddol Canolbarth a Gorllewin Cymru), Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) a Clare Britton (Rheilffordd Ffestiniog)

 

Cydymdeimlwyd gyda theulu’r diweddar Cyng. J M Williams (Cyngor Sir Powys) oedd wedi bod yn aelod ffyddlon o’r Pwyllgor ers blynyddoedd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 85 KB

Cofnod:

5.

DIWEDDARIAD GAN WASANAETHAU

I dderbyn diweddariad gan

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

·         

Cofnod:

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

 

Mynegwyd siom nad oedd cynrychiolydd o Trafnidiaeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod o ystyried bod nifer o faterion angen ymateb iddynt.

 

  • Bod ymateb Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth) i rybudd o gynnig a gafwyd yng nghyfarfod o’r Cyngor Llawn Mai 2024 wedi ei dderbyn ym mis Hydref - cywilydd bod hyd at 5 mis wedi pasio cyn derbyn ymateb a’r ymateb hwnnw yn cynnwys yr un esgusodion ac atebion gwael
  • Amser y trên olaf tua’r gogledd (19:00) yn annerbyniol gan nad oes bysiau nos rhwng Machynlleth a Thywyn nac Abermaw a Porthmadog. Bydd cwestiwn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn mis Rhagfyr yn galw ar Cyngor Gwynedd i gyflwyno sylwadau cryf i TrC a Llywodraeth Cymru ynghylch colli'r trên hwyraf ar reilffordd Arfordir y Cambrian. Bydd lleihad mewn gwasanaeth yn cael effaith ar economi'r ardal wrth i bobl fethu teithio adref ar y trên o’u gwaith a digwyddiadau cymdeithasol – hyn yn eithrio pobl / gosod cyrffyw.
  • Annhegwch llwyr gyda’r nifer trenau sy’n rhedeg ar reilffyrdd de Cymru
  • Niferoedd teithwyr TrC erioed wedi bod yn gywir gyda honiadau o drenau gwag pan, mewn gwirionedd y trenau yn llawn a thaliadau teithwyr ddim yn cael eu casglu - y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yn gamarweiniol ac yn nonsens llwyr. Beth yw’r arbedion ariannol sydd yn deillio o hyn?
  • Bod amseroedd ymweld â threfi megis yr Amwythig, wedi ei lleihau o 8 awr i 3 awr
  • Nad oedd Adolygiad Amserlen Ar-lein TrC wedi ystyried effaith cydraddoldeb. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn - rhaid ymgynghori a chwblhau asesiadau cyn gweithredu newidiadau yn unol â’r cytundeb. BR i rannu’r wybodaeth gyda LHE
  • Beth yw strwythur TrC? Llywodraeth Cymru yw perchnogion TrC ac felly gan bwy mae’r atebolrwydd?
  • Bod nifer defnyddwyr platfform Llanbedr bron yn cyfateb gyda ffigyrau cyn covid – tystiolaeth bod y rheilffordd yn cael ei defnyddio! Sut felly mae TrC yn casglu data?
  • Bod toriadau i wasanaeth digonol yn gwneud y sefyllfa yn un annigonol i’r defnyddiwr
  • Angen pwyso ar Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionnydd i leisio barn
  • Pryd fydd y trenau newydd yn cael eu cyflwyno?

 

Mewn ymateb i sylw am yr angen i bwyso ar Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionnydd i leisio barn, amlygwyd bod Mabon ap Gwynfor wedi sefydlu deiseb yn galw ar TrC a Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau Reilffordd Arfordir y Cambrian. Nodwyd bod y ddeiseb yn amlygu bod y rheilffordd yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol i drigolion lleol ac economi ymwelwyr Gwynedd gyda chymunedau yn ddibynnol ar y gwasanaeth am resymau addysg, cyflogaeth, twristiaeth, siopa ac iechyd. Ategwyd yn hytrach na thorri gwasanaethau pellach, dylai TrC a Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth leol ledled gogledd orllewin Cymru, gan sicrhau bod pobl leol ac ymwelwyr yn cael gwasanaethau trên cadarn, dibynadwy a hygyrch.

 

Deiseb Diogelu Rheilffordd Arfordir y Cambrian

 

Network Rail

 

Croesawyd Tomos Roberts a Heledd Walters i’r cyfarfod.

 

Yn dilyn damwain trychinebus diweddar yn Nhalerddig, cydymdeimlwyd gyda theuluoedd a theithwyr oedd wedi dioddef, a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd:

 

·        Cyngor Cymuned Llanbedr

·        Cyngor Tref Criccieth

·        Cyngor Tref Porthmadog

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned Llanbedr, Cyngor Tref Criccieth a Chyngor Tref Porthmadog.

 

Nodwyd y byddai’r Gwasanaethau yn ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorau Cymuned / Tref

 

Cyfarfod nesaf i’w gynnal Mawrth 2025 – LHE i drefnu