Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025/26

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26

Cofnod:

Cyniwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Dewi Owen yn Gadeirydd

 

PENDERFYNWYD ail ethol y Cyng. Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2025/26

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26

Cofnod:

Cynigwyd ac eiliwyd ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Is-gadeirydd

 

PENDERFYNWYD ail ethol y Cyng. Gwynfor Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2025/26

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Craig ab Iago Cyngor Gwynedd - Aelod Cabinet  Amgylchedd), Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd), Cyng. Elfed Wyn ab Elwyn (Cyngor Gwynedd), Cyng. Richard Glyn Roberts (Gwynedd), Cyng. Alwyn Evans (Cyngor Sir Powys), Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd Amwythig / Aberystwyth), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Joyce Watson (Aelod Seneddol Canolbarth a Gorllewin Cymru), Gwyn Rees (Network Rail) a Robert John Jones (Cyngor Gwynedd - Rheolwr Cludiant Addysg)

 

Cydymdeimlwyd a’r Cyng. Anne Lloyd Jones oedd wedi colli ei chwaer yn ddiweddar

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 147 KB

Cofnod:

7.

DERBYN DIWEDDARIADAU GAN WASANAETHAU

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr:

 

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Cofnod:

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

 

Croesawyd James Nicholas i’r cyfarfod sydd yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru fel Partner Cefnogi Busnes

 

Adroddwyd bod perfformiad y gwasanaeth wedi bod yn dda dros y cyfnod diwethaf gyda nifer trenau wedi eu canslo yn 0.7% o’r holl wasanaeth ar hyd y Cambrian. Ategodd bod hyn yn cael ei ystyried fel gwasanaeth solet ac yn welliant ym mherfformiad trenau ar amser. Nododd bod y perfformiad yn cael ei fesur drwy reol 3 munud o gyrraedd yr orsaf a mynegodd bod y canran o 75% uwchlaw targed Cymru o 72% sydd yn dderbyniol o ystyried y nifer trenau sydd yn rhedeg.

 

Yng nghyd-destun amserlen Gaeaf Rheilffordd y Cambrian, mynegwyd bod Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu parhau gwasanaeth y trên olaf a bod hyn yn newyddion calonogol. Amlygodd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cadw llygad ar nifer defnyddwyr ac anogwyd pawb i hyrwyddo defnydd.

 

Mynegwyd bod profion diogelwch ar y fflyd o drenau newydd Dosbarth 197 wedi eu gweithredu gyda’r gobaith o gyflwyno’r trenau newydd i wasanaeth ym mis Medi 2026, yn dilyn cwblhau gwelliannau ar y platfform mewn rhai gorsafoedd. Ategodd y byddai teithiau prawf pellach yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2026 a hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a thocynwyr (Conductors) yn y flwyddyn newydd.

 

Cafwyd diweddariad bod Network Rail wedi caffael Uned Cyflenwi Cynnal a Chadw newydd i ddisodli nifer o gyfleusterau anaddas yn y depo ym Machynlleth.  Bydd y safle yn weithle modern, diogel ac effeithlon fydd yn gallu cefnogi gwasanaethau ar  draws y rhanbarth yn llawn.

 

Tynnwyd sylw at waith gwarchae fydd yn cael ei gwblhau yn ystod Mai 2026 fydd yn debygol o greu ychydig o aflonyddwch i wasanaethau: Y dyddiadau mewn golwg yw 13-17 o Fai rhwng Machynlleth a Pwllheli a 17 – 23 o Fai rhwng Cyffordd Dyfi ac Aberystwyth. Ategwyd mai gwaith paratoi oedd yn cael ei wneud ar gyfer gosod tanciau gwaredu gwastraff toiledau (CET) oddi ar y trenau newydd.

Diolchwyd i James am y diweddariad

 

Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

  • Croesawu bod gwasanaeth y trên olaf yn cael ei gadw – hyn yn hwb mawr i’r economi leol. Diolchwyd  i bawb am yr ymgyrch gadarnhaol.
  • Bod pryder ynglŷn â  chyhoeddusrwydd Rheilffordd y Cambrian - angen gweithredu ymgyrchoedd marchnata rheolaidd i annog defnydd. Bod angen rhannu negeseuon clir bod gwasanaeth gyda’r nos yn parhau.
  • Cais i drefnu cyfarfod arbennig i drafod goblygiadau damwain Tal Erddig 21 Hydref 2024. Er bod adroddiad interim wedi ei gyhoeddi Ebrill 2025, bod disgwyl adroddiad terfynol fydd yn cadarnhau casgliadau ac argymhellion.
  • Pryder bod rhan fregus o’r rheilffordd ger Croesffordd Dyfi yn agored i lifogydd all gael eu hatal petai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu. A’i cynllun tymor hir yw aberthu’r rheilffordd? Angen mwy o wybodaeth
  • Bod diffyg agor ffosydd gerllaw'r rheilffordd, yn creu llifogydd
  • Cais am wybodaeth ynglŷn â niferoedd defnyddwyr. A yw’r gwasanaeth wedi dychwelyd i ffigyrau cyn covid?
  • Bod defnydd da o’r trên a bod cyflwyniad trenau pedwar cerbyd yn yr Haf i’w barhau. Ni ddylai sefyll  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 68 KB

I ystyried ymatebion i gwestiynau a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cwestiynau gan Cyngor Cymuned Criccieth, Cyngor Tref Pwllheli a Chyngor Tref Porthmadog.

 

Nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru y byddai’n ymateb yn uniongyrchol i'r Cynghorau Lleol, ond ymatebwyd yn fras i’r materion canlynol:

  • Lleoli Tram Hanesyddol yng Ngorsaf Pwllheli – bod gwaith adeiladu wedi ei wneud ar y safle blaenorol ac ar hyn o bryd nid oes safle addas wedi ei adnabod.
  • Paentio Gorsaf Criccieth - bod peintio'r orsaf yn gyfrifoldeb perchnogion yr adeilad. Bydd angen cysylltu gyda hwy yn gyntaf i weld yr hyn sydd yn bosib.
  • Cyhoeddiadau Cymraeg rhwng Porthmadog ac Amwythig - bod cyhoeddiadau dwyieithog ar y trenau, er efallai bod problem dechnegol ar y diwrnod mewn golwg. Yn sicr yn cytuno bod angen cysondeb

 

Cwestiynau eraill a godwyd yn y cyfarfod:

Croesffordd Dyfi:

  • Nid yw’r hysbysfwrdd yn weladwy  / amlwg o un platfform i’r llall
  • Bod angen edrych ar y gysgodfan a lled y platfform
  • Bod ffordd Derwen las i lawr at yr orsaf mewn cyflwr gwael

 

Cyfarfod nesaf i’w gynnal Mawrth 2026

 

Holiadur am amser / dyddiad i’w gylchredeg gydag Aelodau / Swyddogion