Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd
Dewi Owen yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: COFNODION: PENDERFYNWD ethol y Cynghorydd
Gwynfor Owen yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd),
Cyng. Elfed Wyn ap Elwyn (Cyngor Gwynedd) a Clare Williams (Partneriaeth
Rheilffordd y Cambrian) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 31 Mawrth 2023 fel rhai cywir COFNODION: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 31 Mawrth 2023 fel rhai cywir |
|
DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr · Network Rail · Trafnidiaeth Cymru · Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig COFNODION: NETWORK RAIL Croesawyd Tomos Roberts a Charlotte Harries
(Rheolwyr Cyfathrebu Network Rail)
i’r cyfarfod Diweddariad ar uwchraddio
traphont Abermaw Adroddwyd bod gwaith uwchraddio’r bont a gwaith atgyweirio ychwanegol ar
y rheilffordd wedi ei gwblhau ac y byddai’r rheilffordd rhwng Pwllheli a
Machynlleth a'r llwybr cerdded ar hyd y draphont, yn ail agor 2/12/2023.
Ategwyd bod digwyddiad swyddogol i ddathlu’r agoriad wedi ei drefnu yn Theatr y
Ddraig ar yr 8fed o Ragfyr 2023. Cadarnhawyd bod y gwaith wedi ei gwblhau ar
amser a diolchwyd i'r pwyllgor ac i’r cymunedau lleol am fod yn amyneddgar yn
ystod y gwaith. Diweddariad ar draphont
Aberdyfi Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod traphont Aberdyfi hefyd wedi ail
agor ddiwedd Hydref a bod y gwaith hwnnw o adnewyddu’r strwythur yn llawn wedi
ei gwblhau yn llwyddiannus. Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol. Diweddariad ar Fentrau Lleol Adroddwyd bod Tîm Lleol ar gyfer y Cambrian
wedi ei greu o dan arweiniad Gwyn Rees (Cyfarwyddwr Perfformiad a Thrawsnewid Network Rail ar gyfer Cymru a
Chyfarwyddwr Partneriaeth Rheilffordd Leol y Cambrian).
Amlygwyd bod y tîm yn sicrhau cydweithio rhwng Network
Rail a Trafnidiaeth Cymru a bod ymateb i waith y tîm
hyd yma wedi bod yn gadarnhaol. Gyda
chydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ail gyflwynwyd trenau pedwar cerbyd ar y rheilffordd
dros yr Haf. Gyda golygfeydd godidog ar hyd y Cambrian,
roedd yr ymgyrch pedwar cerbyd wedi galluogi mwy o bobl i fanteisio’n llawn ar
y daith boblogaidd gan gynyddu refeniw a rhoi hwb i’r economi leol. Cyfeiriwyd
hefyd at waith golchi ffenestri’r cerbydau yn y gorsafoedd oedd yn amlygu un
agwedd flaengar y tim at wella profiad y teithiwr. Diolchwyd am y diweddariad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Amlygu balchder bod y bont yn
agored a bod y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli yn agor 2/12/23 ·
Bod cymeradwyaeth i’r gwaith -
wedi ei gwblhau o dan amgylchiadau heriol iawn ·
Er cwynion am y gwasanaeth bws
oedd yn rhedeg tra bod y rheilffordd wedi cau, un cwyn swyddogol a gafwyd a
hynny oherwydd llifogydd ·
Bod y cyfnod wedi ymddangos yn hir
yn enwedig i blant ysgol ·
Diolch i Grŵp Cymuned Abermaw
and ddiweddariadau cyson o’r gwaith ·
Croesawu trenau pedwar cerbyd. Er
hynny, un siwrne dychwelyd (return journey) y diwrnod oedd yn rhedeg gyda pedwar cerbyd yn
ystod gwyliau’r Haf. ·
Bod glanhau ffenestri'r trên yn ddatrysiad
syml - gwerthfawrogi hyn ·
Bod teithio am ddim yn cael ei
gynnig i deithwyr dros 60 oed yn ystod y gaeaf yn unig – cais i ystyried
ymestyn hyn drwy’r flwyddyn ·
Diolch i Network
Rail am ymweld â llwybr croesi’r cledrau ym
Mhorthmadog ac am wrando ar sylwadau’r Cyngor Tref a thrigolion lleol. Croesawu
penderfyniad i ddiogelu’r groesfan yn hytrach na'i chau. · Diolch i Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) am gydweithio gyda Swyddfa Liz Saville Roberts i gydlynu trefniadau Gŵyl Gwrw Harlech. Yn anffodus, heb ymyrraeth yr AS, roedd ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru yn araf iawn, ond cafwyd datrysiad yn dilyn nifer ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd COFNODION: Cyngor Tref Criccieth Cwestiwn: A oes modd paentio
stesion Criccieth?
Mae ‘Criccieth yn ei
Blodau’ yn gweithio’n galed ar welliannau a chynnal y tiroedd yno a byddai’n hwb mawr cael
cot o baent i’r stesion er mwyn gwella golwg a chroesawu defnyddwyr yno. Ateb: Yn anffodus, nid oedd Gail Jones Trafnidiaeth
Cymru yn bresennol yn y cyfarfod - TC sydd yn gyfrifol am faterion paentio gorsafoedd. Nodwyd y byddai modd holi
am ymateb ysgrifenedig gan TC. Cwestiwn: Mae graffiti wedi ymddangos
ar rhai o’r
pontydd rhwng Criccieth a’r Graig Ddu
– a oes modd i chi eu gwaredu?
Ateb NR: Gwnaed cais am fwy
o fanylion am y graffiti - ei leoliad ac unrhyw luniau y gellid eu rhannu.
Ategwyd y byddai modd cael y tim cymunedol allan i’w drin. Diolchwyd am y cwestiwn Cynghorydd Eryl Jones-Williams Cwestiwn: Angen diweddariad o ganlyniadau arolwg diweddar (a gynhaliwyd yn ystod
yr Haf) o farn teithwyr Rheilffordd y Cambrian. Ateb: Nododd y Cyng Trevor
Roberts y byddai’n cyflwyno
adroddiad yn y cyfarfod nesaf ond bod rhai o’r
sywladau yn mynegi pryder y byddai’r trenau newydd yn cynnig
llai o seddi a thoiledau yn y cerbydau – hyn yn arwain at drenau
llawn, aniogel. Diolchwyd i Network Rail
a Heddlu Trafnidaieth Prydeinig am eu cefnogaeth ac
am ymateb i’r materion a godwyd yn y Pwyllgor.
Fe’i hanogwyd i sicrhau cyfathrebu clir gyda’r cyhoedd o unrhyw
ddigwyddiadau / diweddariadau. Cyfarfod nesaf i’w gynnal Gwanwyn 2024 – LHE i drefnu |