Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Jonathan Webb (gwrthwynebydd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod:
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod:
|
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 104 KB Y Maes Café, Llandanwg, Harlech, LL46 2SD Ystyried y cais uchod Cofnod: Y Maes Café,
Llandanwg, Harlech Ar ran yr eiddo: Mr
Graham Perch (ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Cynghorydd
Annwen Hughes (Aelod Lleol) Mr
Arwel Thomas, Mr Edward Thomas, Mrs Jean Thomas, Mr Richard Poole a Mrs Sandra
Poole – ymgynghorai lleol Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu bod y Cadeirydd wedi awgrymu ymweliad safle
gan nad oedd yn gyfarwydd â’r ardal. I
hwyluso’r drefn gwnaed cais i rannu
lluniau o’r caffi (o Google Street Scene) er budd yr Is Bwyllgor. Cytunodd yr ymgeisydd i’r lluniau gael eu
rhannu ond mynegodd bod y safle wedi
newid gryn dipyn ers cyfnod y llun. Cyflwynwyd cyfieithiadau cywir o
sylwadau'r Aelod Lleol, y Clerc Cymuned ac un
o’r gwrthwynebwyr. Roedd y sylwadau hyn wedi eu cyflwyno yn wreiddiol yn y Gymraeg, ond cyfieithiad gwallus o’r
sylwadau hynny oedd wedi ei gynnwys
yn y rhaglen. Rhoddwyd cyfle i’r
ymgeisydd ddarllen y cyfieithiadau. a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer cyflenwi alcohol i gwsmeriaid ar eiddo oedd eisoes yn gweithredu
fel caffi 7 diwrnod yr wythnos yn ystod yr Haf ac ar benwythnosau yn unig yn
ystod y gaeaf. Amlygwyd y bwriad i gynnig gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr
eiddo ynghyd a chwarae cerddoriaeth radio gefndirol yn ystod oriau agor (tu
mewn a thu allan). Nodwyd bod y caffi ar agor hyd at 5pm ar hyn o bryd, ond
bwriedir agor hyd at 10pm ar nos Wener a Sadwrn gyda gwerthiant alcohol tan
9:30pm. Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd yn ystyried dangos digwyddiadau
chwaraeon yn achlysurol Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau
arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf
Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 24 o e-byst / llythyrau wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais
ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at ymateb yr ymgeisydd i bryderon y
gwrthwynebwyr ac at yr amodau, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, fyddai’n cael
eu hymgorffori yn y drwydded. Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i
ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai b)
Mewn ateb i gwestiwn gan yr Is Bwyllgor am
ddarpariaeth toiledau cwsmeriaid, nododd y Rheolwr Trwyddedu, mewn ymateb i sawl
pryder, bod amod i’w gosod ar y drwydded, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, i
ddeilydd y drwydded ddarparu trefniant digonol o doiledau i gwsmeriaid tra bod
yr eiddo yn agored i’r cyhoedd. c) Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |