Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Jonathan Evans (ymgynghorai
lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 272 KB Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch, LL53 7DY I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu
y cais Cofnod: Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch Ar ran yr eiddo: Gavin
Hancock (Ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Moira
Duell-Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyng
Dewi Roberts (Aelod Lleol) Patricia
Meyrick, Einir Wyn, Mary Marsden, Terry Evans, Paul Evans, Donna Jones a Cherry
Steele (Ymgynghorai Lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar
gyfer Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas ag ymestyn oriau agor, gwerthu alcohol ar yr eiddo a darparu
cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo. Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Amlygwyd, bod yr ymgeisydd, yn dilyn derbyn sylwadau ac amodau gan Adran
Gwarchod y Cyhoedd a sawl gwrthwynebiad i’r cais, wedi cyfaddawdu i beidio â
defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod
wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion
Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw
at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Ei fod
wedi cytuno i gyfaddawd yn dilyn trafodaethau ·
Ei fod
wedi cytuno i beidio defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yh ·
Ei fod yn ymwybodol y bydd yr amodau yn cael eu
cynnwys ar y drwydded petai yn cael ei chaniatáu ·
Ei fod
angen yr addasiadau er mwyn cystadlu gyda busnesau tebyg ar Stryd Fawr Abersoch Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr is-bwyllgor, nododd bod y wal derfyn rhyw 10 - 15m o’r eiddo
cyfagos ac nad oedd wedi derbyn cwynion am sbwriel a
sŵn yn y gorffennol. ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i
ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a
gyflwynwyd trwy lythyr. Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, · Bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau, wedi cytuno i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |