Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 235 KB Bangor
Grill Limited, 212 High Street, Bangor, LL57 1NY I ystyried
y cais Penderfyniad: Yn unol a’r
Deddf Drwyddedu 2003, argymhellir fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais
yn ddarostyngedig i, ·
Gydymffurfio
gyda gofynion yr Heddlu ·
Cytundeb gan yr ymgeisydd i gydymffurfio gyda mesurau
rheoli niwsans a argymhellir gan Gwarchod y Cyhoedd ·
Ymgorffori'r
materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau
ar y drwydded. ·
Derbyn
caniatâd Cynllunio am newid defnydd a chaniatâd i weithredu o dan unrhyw amodau
cynllunio parthed amseroedd agor. Cofnod: Bangor Grill, 212 Stryd Fawr, Bangor Eraill a wahoddwyd: Gilly
Harradence – Cynrychiolydd yr ymgeisydd M Muharam - Ymgeisydd Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru) Ffion
Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Bangor Grill Limited, 212 Stryd Fawr,
Bangor yn gofyn am ganiatáu gwerthiant lluniaeth hwyr y nos fyddai’n cynnwys
bwyd poeth fel Kebabs, byrgyrs
a pizzas, i’w fwyta oddi ar yr eiddo ar ôl 23:00 yr
hwyr, tan 3:30 y bore ar Nos Wener a Nos Sadwrn, tan 3:00 y bore nos Lun a
Mercher a tan 2:30 nos Fawrth, Iau a Sul. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi
eu derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am bendantrwydd yn yr atodlen
weithredol i sicrhau presenoldeb goruchwyliwr drysau o 23:00 ymlaen ar nos
Wener a Nos Sadwrn. Derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cais gan Gwarchod y Cyhoedd
ar sail y ffaith nad oedd mesurau digonol yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd i
sicrhau cydymffurfiad gyda’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus Tynnwyd sylw fod
ymholiadau wedi eu gwneud gyda’r Gwasanaeth Cynllunio parthed statws
Cynllunio’r eiddo ac fe dderbyniwyd cadarnhad yn ddiweddarach yn amlygu nad oedd cais newid defnydd wedi ei
gyflwyno ar gyfer yr eiddo a bod y gwasanaeth Cynllunio yn ystyried camau
gorfodaeth. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn ddarostyngedig i a) Gydymffurfio gyda gofynion
yr Heddlu b) cytundeb
gan yr ymgeisydd i gydymffurfio gyda mesurau rheoli niwsans a argymhellwyd gan
Gwarchod y Cyhoedd c) Derbyn
caniatâd Cynllunio am newid defnydd a chaniatâd i weithredu o dan unrhyw amodau
cynllunio parthed amseroedd agor. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd: ·
Bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i Swyddog
yr Amgylchedd yn nodi parodrwydd i gydymffurfio gyda mesurau rheoli niwsans ·
Nad oedd trigolion yn byw yn ddigon agos i
weld/clywed effaith y system echdynnu aer ·
Y byddai yn sicrhau na fyddai sŵn yn achosi
niwsans ·
Y byddai yn sicrhau na fydd arogleuon bwyd yn
achosi niwsans ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar angen i agor tan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |