Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Elizabeth Williams
(Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru) Heather Jones
(Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) Ffion Muscroft
(Swyddog Iechyd yr Amgylchedd) Cynghorydd Rheinallt Puw (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 242 KB Cwrw Tŷ Mo,
Cwrw Ogwen, 5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr,
Bethesda, Bangor I ystyried
y cais Penderfyniad: Cofnod: Cwrw Ty Mo, Cwrw
Ogwen, 5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda, Bangor Eraill a wahoddwyd: Mr Morgan Vallely (Ymgeisydd) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo newydd gan
Cwrw Tŷ Mo, Cwrw Ogwen, 5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda lle mae bwriad
i weithredu'r eiddo fel bragdy a bar. Eglurwyd bod trwydded eiddo eisoes yn
bodoli ar gyfer yr eiddo, ond bod hwn yn gais am drwydded newydd fyddai’n
caniatáu gwerthiant alcohol ar ac oddi ar yr eiddo tan hanner nos 7 diwrnod yr
wythnos, a hawl i gynnal adloniant tu mewn a thu allan tan 11 yr hwyr yn
ddyddiol. Er nad oedd cynnydd cyffredinol
yn yr oriau gweithgareddau trwyddedig, roedd yr ymgeisydd yn ceisio'r hawl i
gynnal gweithgareddau trwyddedig yn hwyrach na’r drwydded gyfredol, ond peidio
agor tan amser cinio. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan
Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd
sylwadau i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail y ffaith fod angen
mesurau digonol i sicrhau cydymffurfiad gyda’r amcan trwyddedu o atal niwsans
cyhoeddus. Mynegwyd pryder am yr oriau hwyr ychwanegol ar gyfer gweithgareddau
trwyddedig o ystyried bod fflat uwch ben a naill ochr i’r bragdy a thafarn, ac
effeithiolrwydd strwythur yr adeilad o ran ynysu’r anheddau hynny rhag sŵn
cerddoriaeth. Argymhellodd y swyddog amodau sŵn penodol i’w cynnwys ar
atodlen weithredol yr eiddo (yn ychwanegol i’r amodau a gynigwyd
gan yr ymgeisydd yn rhan M o’r cais). Cafwyd cadarnhad
ysgrifenedig gan yr ymgeisydd ei fod yn derbyn yr amodau a gynigwyd
a mynegwyd nad oedd bwriad cynnal nosweithiau adloniant / cerddoriaeth byw mwy
nag unwaith y mis, fydd yn gorffen am oddeutu 22:00. Roedd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Rheinallt Puw yn gefnogol i’r cais, yn nodi mewn e-bost,
“... yn cefnogi’r cais yma 100%. Braf iawn gweld menter newydd yn adfywio’r
Stryd Fawr.” O ganlyniad, roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn ddarostyngedig i gynnwys
amodau ychwanegol rheoli sŵn a argymhellwyd gan Gwarchod y Cyhoedd ac yn
unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r ymgeisydd. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c) Wrth ymhelaethu ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |