Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO New Bangor Grill Ltd, Uned 25 Canolfan Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 1NW I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno Oriau Agor Dydd Sul
11:00 – 02:00 Dydd Llun
11:00 – 02:00 Dydd Mawrth
11:00 – 02:00 Dydd Mercher
11:00 – 02:00 Dydd Iau
11:00 – 02:00 Dydd Gwener
11:00 – 02:00 Dydd Sadwrn
11:00 – 02:00 Gweithgareddau
Trwyddedadwy: Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn
Dydd Sul
23:00 – 02:00 Dydd Llun
23:00 – 02:00 Dydd Mawrth
23:00 – 02:00 Dydd Mercher
23:00 – 02:00 Dydd Iau
23:00 – 02:00 Dydd Gwener
23:00 – 02:00 Dydd Sadwrn
23:00 – 02:00 Y mesurau ychwanegol, fel y
nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau. Nodyn: Annog yr ymgeisydd i greu a chadw
‘Asesiad Risg Safle Penodol’ a ‘chofnodion digwyddiad’ a fyddai yn rhoi
ystyriaeth i ddefnydd swyddogion diogelwch ar y drws os yn berthnasol. Cofnod: ·
Paul Tough Franchise Options
(Ymgeisydd) ·
Aaron Haggas Swyddog Trwyddedu Yr Heddlu,
Heddlu Gogledd Cymru Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Roedd yr argymhelliad yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor
ystyried sylwadau Heddlu Gogledd Cymru gan ystyried cynnwys amod ar y drwydded
o safbwynt darpariaeth swyddogion diogelwch ar y drws os caiff y cais ei
gymeradwyo, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion · Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd · Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd · Rhoi gwahoddiad i
bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig · Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod y cwmni masnachol Franchise Options bellach yn
gwmni cenedlaethol ·
Nad oedd gan eu masnachwyr hanes o unrhyw drwbl
gyda’r nos ·
Ei fod yn deall pryderon yr Heddlu ·
Bod noson agoriadol y busnes ym Mangor wedi bod yn
llwyddiannus - dim trwbl. ·
Bod yr eiddo wedi ei drefnu yn ofalus ac i’r safon
uchaf ·
Bod TCC wedi ei osod - chwe camera rhai tu mewn a
rhai tu allan - hyn felly yn fodd o adnabod unrhyw drwbl a’r staff yn gallu
edrych ar y camerâu mewn gwir amser ·
Ni fydd alcohol yn cael ei werthu ar yr eiddo ·
Ei fod yn edrych ymlaen at lwyddiant yr eiddo ym
Mangor. Masnachwr Bangor yn ddyn busnes lleol gyda busnesau eraill yn y Ddinas · Y cwmni yn dymuno bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |