Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Moira Duell Parri (Swyddog Iechyd Amgylchedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 150 KB

St Tudwals Inn, Abersoch

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Trwydded Arfaethedig

 

Dydd Sul/Sunday: 09:00 - 01:00

Dydd Llun/Monday: 09:00 – 01:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 09:00 – 01:00

Dydd Mercher/Wednesday: 09:00 – 01:00

Dydd Iau/Thursday: 09:00 – 01:00

Dydd Gwener/Friday: 09:00 – 01:30

Dydd Sadwrn/Saturday: 09:00 – 01:30

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy

 

Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo :

 

Dydd Sul/Sunday: 10:00 - 00:00

Dydd Llun/Monday: 10:00 – 00:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 10:00 – 00:00

Dydd Mercher/Wednesday: 10:00 – 00:00

Dydd Iau/Thursday: 10:00 – 00:00

Dydd Gwener/Friday: 10:00 – 01:00

Dydd Sadwrn/Saturday: 10:00 – 01:00

 

Amseriadau ansafonol:

Caniatáu gwerthu i breswylwyr 24 awr y dydd

I ganiatáu gwerthu o 10:00 o'r gloch ar 31 Rhagfyr tan 00:00 ar y 1af o Ionawr

 

Cerddoriaeth wedi ei Recordio Tu Fewn :

 

Dydd Sul/Sunday: 11:00 – 00:00

Dydd Llun/Monday: 11:00 – 00:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00

Dydd Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00

Dydd Iau/Thursday: 11:00 – 00:00

Dydd Gwener/Friday: 11:00 – 00:00

Dydd Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00

Lluniaeth yn Hwyr y Nos: Dan do :

 

Dydd Sul/Sunday: 23:00 - 00:00

Dydd Llun/Monday: 23:00 - 00:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 23:00 - 00:00

Dydd Mercher/Wednesday: 23:00 - 00:00

Dydd Iau/Thursday: 23:00 - 00:00

Dydd Gwener/Friday: 23:00 - 00:00

Dydd Sadwrn/Saturday: 23:00 - 00:00

 

Cerddoriaeth Byw: Tu Fewn :

 

Dydd Sul/Sunday: 11:00 – 00:00

Dydd Llun/Monday: 11:00 – 00:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00

Dydd Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00

Dydd Iau/Thursday: 11:00 – 00:00

Dydd Gwener/Friday: 11:00 – 00:00

Dydd Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00

 

Ffilmiau: Tu Fewn :

 

Dydd Sul/Sunday: 11:00 – 00:00

Dydd Llun/Monday: 11:00 – 00:00

Dydd Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00

Dydd Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00

Dydd Iau/Thursday: 11:00 – 00:00

Dydd Gwener/Friday: 11:00 – 00:00

Dydd Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00

 

Cynllun Rheoli Sŵn i’w ddarparu i Adran Iechyd yr Amgylchedd

 

Asesu lleoliad CCTV dan do a tu allan o ystyried newid yng nghynllun y safle.

 

Dim mynediad i blant o dan 16 oed i'r safle ar ôl 22:00 ar Noswyl Nadolig a Nos Galan (os nad ydynt yn bwyta neu aros yn y gwesty).

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau.

 

Cofnod:

 

St Tudwals Inn, Abersoch

 

Michelle Hazelwood   Ar ran yr ymgeisydd               

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)     Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adan Amgylchedd yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo St Tudwals, Abersoch. Cyflwynwyd y cais am amrywiad oherwydd gwaith adnewyddu mewnol ac allanol i’r eiddo ac i gymryd mantais o’r cyfle i adolygu cynnwys y drwydded bresennol. Ategwyd, ar wahân i’r newidiadau mewnol ac allanol, bod cais ar gyfer ychwanegu gweithgaredd trwyddedig o ddangos ffilmiau hefyd wedi ei gynnwys.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at ymateb a dderbyniwyd gan Gwasanaeth Llygredd, Gwarchod y Cyhoedd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r amrywiad, roedd sylwadau wedi eu cyflwyno ynglŷn â statws cynllunio'r maes parcio / gardd gwrw, defnydd yr ardal yma a’r potensial o gynnydd mewn sŵn gyda’r nos.

 

Cyflwynwyd sylwadau gan yr Heddlu yn nodi eu dymuniad i gynnwys amod ar y drwydded fyddai yn nodi na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod mewn i’r safle / aros yno ar ôl 22:00 oni bai eu bod yn aros neu yn bwyta yn y gwesty ar Noswyl Nadolig a Nos Galan - hyn yn gyson a nosweithiau eraill y flwyddyn. Nodwyd hefyd bod yr Heddlu yn dymuno i’r ymgeisydd asesu lleoliad TCC o ystyried newid yng nghynllun y safle.

 

Roedd y swyddogion yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan argymell bod yr Is-bwyllgor yn caniatáu'r amrywiad cyn belled a bod yr ymgeisydd yn cytuno i gyfaddawd a awgrymwyd gan Swyddog Adran Gwarchod y Cyhoedd a sylwadau’r Heddlu.

 

b)     Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

 

c)     Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod cynllun y gwesty yn un agored, gyda ffocws ar gyfer teuluoedd

·        Mewn ymateb i nifer o gynlluniau gwahanol i gefn yr adeilad a diffyg eglurhad o’r statws cynllunio, cyflwynwyd cynllun newydd oedd yn cyfateb i amodau a gofynion y drwydded bresennol

·        Yn cytuno gydag amod yr Heddlu na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod i mewn nac aros yn yr eiddo ar ôl 22:00 o'r gloch ac eithrio pan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.