Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

To receive any apologies for absence.

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 137 KB

Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RF.

 

I ystyried y cais.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 16:00 – 00:00

Dydd Llun 16:00 – 00:00

Dydd Mawrth 16:00 – 00:00

Dydd Mercher 16:00 – 00:00

Dydd Iau 16:00 – 00:00

Dydd Gwener 16:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 16:00 – 01:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos – Oddi ar yr eiddo 

 

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 01:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

 

  • Camerâu TCC mewnol ac allanol yn weledol iawn
  • Hyfforddi staff ar sut i ymdrin â chwsmeriaid annifyr / meddw ac afreolus
  • 2 llifolau mawr ar flaen yr adeilad
  • Staff i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn ymgynnull o flaen y siop
  • Staff i lanhau'r stryd ar ôl oriau agor

 

 

 

 

Nodyn:

 

Dylid cadw'r amodau cynllunio sy'n ymwneud â'r uned echdynnu neu'r offer cysylltiedig, a chadarnhau bod hyn wedi'i gytuno a'i dderbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd. Roedd y cwmni yn gwneud cais am drwydded eiddo ar gyfer darparu Lluniaeth Hwyr yn y Nos oddi ar yr eiddo dydd Llun - dydd Iau 23:00-00:00, dydd Gwener - dydd Sadwrn 23:00-02:00, a dydd Sul 23:00-00:00. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ymwneud ag agosatrwydd yr eiddo at adeiladu preswyl ynghyd a phryder am effaith gronnus lleoliadau trwyddedig eraill ar y stryd fyddai’n tanseilio'r amcan i atal niwsans cyhoeddus. Roedd Aelod o’r cyhoedd hefyd yn gwrthwynebu ar sail aflonyddwch a chynnydd posib mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal yma. Ategwyd y gall y datblygiad gael effaith negyddol ar leoliad hanesyddol a gwaethygu’r broblem o sbwriel. Gwnaed awgrym y dylid cael swyddogion diogelwch ar y drws.

 

Cyfeiriwyd at gadarnhad gan yr Adran Cynllunio bod cais Cynllunio i ddiwygio’r oriau wedi ei ddilysu ac yn cael ei ystyried, er yn tynnu sylw mai estyniad hyd at 1:00 yn unig oedd ar y cais.

 

Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais a Chyngor Tref Caernarfon yn unfrydol yn cefnogi’r cais gan gydnabod nad yw'r eiddo yn gwerthu alcohol nac yn chwarae cerddoriaeth, ac yn weithredol yn annog pobl i beidio â pharcio ar y stryd

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, yn enwedig y pryderon am y posibilrwydd y gallai ymestyn oriau agor y busnes bwyd i'w gario allan waethygu'r ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol yn y stryd drwy ddenu grwpiau o bobl ifanc a'u cadw yno'n hwyrach.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

c)        Mewn ymateb i gwestiwn am y nifer lleoliadau tebyg yn y dref sydd gydag oriau cyffelyb ac yn gwerthu bwyd tecawe, nodwyd bod chwe lleoliad yn y dref, ond dim un gyda swyddogion diogelwch ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 168 KB

Soch, Stryd Fawr, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7DS

 

I ystyried y cais.

Penderfyniad:

YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL

 

Cofnod:

YMGEISYDD WEDI TYNNU Y CAIS YN ÔL