Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 94 KB Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen, Caernarfon, LL55 2PF I ystyried y cais Cofnod: 1.
Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen,
Caernarfon Ar ran yr eiddo: Mr
Stephen Greig (Rheolwr Gorsaf Caernarfon) Eraill a wahoddwyd: Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gorsaf
Rheilffordd Caernarfon, Ffestiniog
a Rheilffordd Ucheldir Cymru, Ffordd Santes
Helen, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn
perthynas ag adeilad aml-ddefnydd sydd yn cynnwys
siop, swyddfa docynnau ar gyfer
y rheilffordd a chaffi. Y bwriad yw gwerthu
alcohol ar ac oddi ar yr eiddo,
dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw ac wedi ei
recordio, perfformiadau
dawns ac adloniant tebyg. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded. Nodwyd
bod sylw wedi ei dderbyn gan
Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu
cynnwys amod i’r ymgeisydd osod
system Teledu Cylch Cyfyng ar yr
eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu
a’r Awdurdod Lleol’ yn adrannau
A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir
at ‘amseroedd ansafonol’. Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r
cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng ·
Mai ar
gyfer digwyddiadau arbennig (ee teithiau trenau Y Nadolig, swper gwirfoddolwyr)
fyddai amseroedd ansafonol ·
Ei fod
yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu c) Yn manteisio ar ei
hawl i siarad,
amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu
wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu
cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud
a gosod teledu cylch cyfyng ar
yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r
Awdurdod Lleol’ yn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr
amodau hyn ar y drwydded d) Ymneilltuodd yr
ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais dd) Wrth gyrraedd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 91 KB Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon, LL55 2NF I ystyried y cais Cofnod: Sustainable Weigh, 13 Y Maes,
Caernarfon Ar ran yr eiddo: Mr Daniel John Hunt (ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas
â gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo.
Ni fydd alcohol yn cael ei yfed
ar yr eiddo. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded Nodwyd bod sylw wedi ei
dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu
i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar
yr eiddo a chyflwyno Cynllun Her 25 ynghyd a sylw gan y Gwasanaeth Tân yn nodi nad
oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ar y sail y bod y perchennog yn sicrhau golau
argyfwng allanfa yn gweithio, bod y system larwm tân yn
weithredol ac wedi ei wasanaethau, a bod y diffoddyddion tân wedi ei gwasanaethu
ac yn gyfredol. Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r
cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng ·
Bod 3
camera wedi ei gosod ar y safle ·
Cadarnhaodd
nad oedd alcohol i’w yfed ar y safle c)
Yn manteisio ar ei hawl
i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu
wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu
cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y
partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu,
yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a
chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau
yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr
amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal
trosedd ac anhrefn ii. Atal niwsans cyhoeddus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 106 KB The Sandbar Restaurant, The Warren, Lôn Port Morgan, Abersoch LL53 7AA I ystyried y cais Cofnod: 1.
The Sandbar Restaurant, The Warren, Abersoch Roedd y Cynghorwyr
Elfed Williams a Jason W Parry wedi ymweld â’r safle o dan drefniant a
goruchwyliaeth Heilyn Williams, Swyddog Trwyddedu 04.11.19 Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau
uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr eiddo: Julian King,
Haulfryn Group Ltd Bobby
McGee, Haulfryn
Group Ltd David
John, Haulfryn
Group Ltd Matt
Pressman, Haulfryn Group Ltd Simon Conway,
Haulfryn
Group Ltd Eraill a wahoddwyd: Mr Ian Williams, Heddlu
Gogledd Cymru Ymgynghorai lleol – Mr Nigel Jackson a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth
wedi ei recordio tu mewn a thu allan a darpariaeth lluniaeth hwyr y nos, saith
diwrnod yr wythnos. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau
trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys
ar y drwydded. Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd
Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo.
Derbyniwyd 7 e-bost gan drigolion unedau preswyl gwyliau’r safle yn
gwrthwynebu’r cais ar sail y pedwar amcan trwyddedu - atal trosedd ac anhrefn, atal
niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed. Adroddwyd nad oedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi eu hargyhoeddi bod y
cais yn cynnig digon o fanylion o ran y mesurau a fwriedi’r eu gweithredu i
dawelu pryderon yr ymatebwyr o sicrhau nad yw’r amcanion trwyddedu yn cael eu
tanseilio. Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i
ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded. b)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r
hyn oedd wedi ei gyflwyno. Dosbarthwyd lluniau o’r parc i’r Is-bwyllgor ar
ymgynghorai i gynorthwyo gyda’r elfennau dan sylw. Ategodd y sylwadau
canlynol: ·
Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol ·
Nad oedd Cyngor Cymuned Abersoch yn gwrthwynebu’r
cais ·
Eu bod yn derbyn amodau’r Heddlu o osod system
Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo ·
Bod amodau
a rheolau bwyty yn wahanol i reolau a safonau’r parc ·
Bod mynediad i’r safle yn cael ei reoli 24 awr gan
ddau swyddog diogelwch sydd yn gymwysedig gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch. ·
Bod man droseddau ac anrhefn yn cael eu hymdrin â
hwy yn briodol ·
Bod y
maes parcio yn ddigonol · Bod mwy o oleuadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |