Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 95 KB Ty Beechwood, Stryd y Bont, Dolgellau I ystyried y cais Cofnod: TŶ BEECHWOOD, BRIDGE STREET, DOLGELLAU Ar ran yr eiddo: Dean
Hawkins (Ymgeisydd) Llinos Rowlands (Cynllun
Gwarchod Tafarndai / Perchennog Dylanwad Da) Eraill a wahoddwyd: Ian Williams (Heddlu Gogledd
Cymru) Lis
Williams (Heddlu Gogledd Cymru) Mark
Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawyd
Lis Williams i’r cyfarfod fel cynrychiolydd newydd Heddlu Gogledd Cymru gan y
byddai Mr Ian Williams yn ymddeol o’r Heddlu. Diolchwyd i Mr Williams am ei
wasanaeth a'i gefnogaeth a dymunwyd ymddeoliad iach a hapus iddo. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ
Beechwood, Bridge Street, Dolgellau. Gwnaed y cais mewn perthynas ag eiddo ar gyfer siop drwyddedig a bar, drwy drawsnewid y
llawr gwaelod. Y bwriad yw gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo. Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi cytuno i oriau
cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un
diwygiedig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw
at un gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori oedd yn mynegi pryder ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn,
cwsmeriaid yn ysmygu tu allan ynghyd a materion glanweithdra y tu ôl i’r eiddo. Nid oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân
wrthwynebiadau i’r cais ond roedd yr Heddlu wedi nodi sylwadau mewn perthynas â
Theledu Cylch Cyfyng. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i amodau Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor. b)
Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r
hyn oedd wedi ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau
canlynol: ·
Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig e.e., Sesiwn
Fawr fyddai’r amseroedd ansafonol ·
Ei fod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Adran
Gwarchod y Cyhoedd a’i fod yn barod i
gwtogi'r oriau agor ·
Bod bwriad i greu bar o safon fel rhywle i ymlacio
ac nid creu awyrgylch tŷ tafarn. Creu rhywbeth gwahanol yn y dref fel bod
modd cadw pobl yn lleol a chyfrannu at yr economi leol. Ategwyd y sylwadau canlynol gan Llinos Rowlands ·
Bod cynlluniau’r fenter yn
fanwl ·
Bod y fenter yn ychwanegiad da
i’r dref · Byddai’r fenter yn cyflogi pobl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |