Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 290 KB Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu y cais COFNODION: Ar ran yr eiddo: Christopher
James Wright (Ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Ffion Muscroft
– Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Joan Underwood, Nicolette Whiting ac Ann
Pennell (Ymgynghorai Lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan
bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer
Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn. Gwnaed y cais mewn perthynas
â gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr
eiddo, dangos ffilmiau, cerddoriaeth byw a wedi recordio,
perfformiadau dawns a darparu lluniaeth hwyr y nos. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad.
Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi
cytuno i oriau cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un diwygiedig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad
oedd gan yr Heddlu na’r
Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau. Roedd yr ymgeisydd hefyd
wedi cytuno i amodau Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor. b)
Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno. Ategodd y sylwadau
canlynol: ·
Ei fwriad
oedd cydweithio gyda’r gymuned ·
Nid bar oedd dan sylw ond
Bistro gydag alcohol yn cael ei weini
gyda bwyd yn unig. Y Bistro yn cynnwys ardal
ar gyfer eistedd hyd at 35 o bobl ·
Bydd
digwyddiadau arbennig ar gyfer marchnata / hybu bwydydd a chynnyrch lleol yn
cael eu cynnal yn y Ganolfan Groeso – bydd rhain yn ddigwyddiadau drwy
wahoddiad yn unig ·
Bydd y
Ganolfan Groeso yn lwyfan i arddangos cynnyrch lleol ·
Bod
rheolau llym a canllawiau gweithredu yn eu lle i reoli niferoedd yn yr ardal
cynhyrchu ·
Bod
defnydd o rybudd digwyddiad dros dro yn addas ar gyfer digwyddiadau arbennig ·
Nid
canolfan ar gyfer adloniant yw’r bwriad ond canolfan bwyd a diod ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i
ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a
gyflwynwyd trwy lythyr. Joan Underwood ·
Ei bod
yn byw llai na 100 llath o’r Ddistyllfa · Y fenter yn debygol o amharu ... view the full COFNODION text for item 4. |