Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM ADOLYGIAD TRWYDDED EIDDO PDF 246 KB THE WAVERLEY HOTEL, 10, HEOL YR ORSAF, BANGOR I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno COFNODION: Ar
ran Heddlu Gogledd Cymru: Arolygydd 2600 Chris Hargrave PCSO Lis Williams Ar
ran yr eiddo: Ms Hayley Meek
Deilydd trwydded Waverley
Hotel, Bangor Michael Strain Cyfreithiwr Eraill
a wahoddwyd: Moira Duell Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Robert Taylor – Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais gan yr Arolygydd Chris Hargrave
ar ran Heddlu Gogledd Cymru am adolygiad trwydded eiddo ar gyfer Y Waverley
Hotel, Bangor. Gwnaed y cais oherwydd · methiant
cydymffurfio gydag amodau’r drwydded eiddo mewn perthynas ag amodau TCC ·
methiant gofyn am brawf oedran i unigolion sy’n
ymddangos i fod o dan 18 · methiant deilydd y
drwydded i gadw rheolaeth yng nghyd-destun yr argyfwng Covid -19. Amlygwyd bod yr
Heddlu yn nodi pryderon gan y Cyhoedd am yr eiddo a’r diffygion rheolaeth.
Ategwyd bod deiseb ar lein yn gofyn am i’r eiddo gael
ei gau i lawr gyda ‘channoedd’ wedi arwyddo’r ddeiseb. Adroddwyd bod yr
Heddlu wedi ystyried cynnig i ddeilydd y drwydded gyflwyno cais am Fân Amrywiad
o’r drwydded eiddo. Oherwydd yr amgylchiadau, a methiannau niferus deilydd y
drwydded i reoli’r sefyllfa, roedd yr Heddlu yn awyddus i gyflwyno’r cais i’r
Is- Bwyllgor er mwyn sicrhau adolygiad llawn gan argymell addasiadau i’r
drwydded. Tynnwyd sylw at y
materion roedd yr Heddlu wedi eu hargymell i ddeilydd y drwydded. Adroddwyd bod
gohebiaeth wedi bod rhwng deilydd y drwydded, swyddog trwyddedu’r Heddlu, a’r
Cyngor oherwydd methiant i weithredu’r argymhellion - cafodd argymhelliad i
sicrhau fod goruchwylwyr drysau ar yr eiddo bob nos Wener a Nos Sadwrn ei
anwybyddu ar y cyfan. Dadleuwyd bod angen i hyn gael
ei gynnwys fel amod ar y drwydded er mwyn galluogi monitro cydymffurfiaeth. Cyfeiriwyd at y
problemau a ganfuwyd yr Heddlu ynghyd a’r amodau trwyddedu a
argymhellwyd ganddynt ar gyfer eu cynnwys ar y drwydded eiddo Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Uned Gwarchod y
Cyhoedd, Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cyflwyno
sylwadau a chefnogaeth i’r adolygiad Roedd yr Uned
Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu cefnogaeth i’r adolygiad ar sail yr amcan
trwyddedu o ddiogelu’r cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd pryderon gan y
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu am anwybyddu rheolau pellter cymdeithasol o dan
gyfyngiadau covid hefyd yn sail i gefnogi’r adolygiad. Roedd y Gwasanaeth Tân
wedi amlygu materion diogelwch tân oedd angen sylw deilydd y drwydded. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Argymhellwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried a chaniatáu adolygiad o drwydded yr eiddo gan yr Heddlu Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu · Gwahodd deilydd ... view the full COFNODION text for item 4. |