Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Carol Turner (preswylydd
cyfagos) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 346 KB Black Sheep, Lon Pont Forgan, Abersoch I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu’r cais COFNODION: Ar
ran yr eiddo: Ms Heidi
McKinnell (ymgeisydd) Mr Dylan Evans
(cynrychiolydd yr ymgeisydd) Eraill
a wahoddwyd: Preswylwyr Cyfagos: Margot Jones Martin Turtle Mike Parry ar ran
Grahame a Les Oddy Robert Kennedy Einir Wyn – Clerc Cyngor
Cymuned Wyn Williams Mark McClure Aelod Lleol: Cynghorydd Dewi Roberts Adran Gwarchod y Cyhoedd: Moira Duell Parry (Swyddog Iechyd yr
Amgylchedd) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Black Sheep, 1 Lon Pont Morgan, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas â
gwerthu alcohol, darparu lluniaeth hwyr a cherddoriaeth wedi ei recordio gyda'r
cyfan wedi ei ddarparu ar ac oddi ar yr eiddo Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a phryderon wedi eu
cyflwyno gan Cyngor Cymuned Llanengan a’r Aelod Lleol. Roedd y
gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion
trwyddedu. Awgrymwyd y byddai materion trosedd ac anrhefn yn deillio o
ymddygiad gwrthgymdeithasol; cynnydd mewn ysbwriel a
sŵn o ganlyniad i’r oriau arfaethedig; yr eiddo ger lôn brysur, diffyg
palmant a diffyg parcio yn diystyru diogelwch y cyhoedd. Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd gyda’r ymgeisydd ac Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu i gwtogi oriau defnydd allanol yr eiddo o
ran chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio a darpariaeth alcohol, yn unol a
mannau eraill yn y pentref. Amlygwd bod yr ymgeisydd wedi diwygio’r cais i
gyfarch pryderon o ran defnydd tu allan i’r eiddo ar
gyfer cwsmeriaid, gydag alcohol a cherddoriaeth hyd at 21:00 yn hytrach na
23:00. Er hynny, roedd yr Adran yn parhau i wrthwynebu’r cais ar sail bod yr
ardal yn un preswyl a bod busnesau tebyg gyda
llecynnau allanol wedi cyfyngu eu horiau mewn mannau eraill yn y pentref. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn gwrthod y cais yn unol â’r hyn a amlygwyd
gyda’r ymgynghoriad, ac yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r
ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd: · Bod yr adeilad, yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio fel lle bwyta - y cais yn un ... view the full COFNODION text for item 4. |