Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Moira
Duell-Parry (Swyddog Iechyd
yr Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 256 KB Y Griffin, Griffin Terrace, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LW. I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu’r cais COFNODION: Ar ran yr eiddo:
Nia Jones (ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Thomas Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar
gais am drwydded eiddo ar gyfer
Y Griffin, Griffin Terrace, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. Gwnaed
y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio
ar ac oddi ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr
ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi gwrthwynebiad gan Adran Gwarchod
y Cyhoedd ac amodau arfaethedig gan Heddlu Gogledd Cymru. Roedd gwrthwynebiad Adran Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu pryderon
sŵn o ganlyniad i adloniant tu
allan yn
hwyr yn y nos ar yr
eiddo fyddai’n arwain at greu niwsans cyhoeddus i breswylwyr tai cyfagos. Yn dilyn
cyfres o e-byst, derbyniwyd gohebiaeth gan yr ymgeisydd
yn cadarnhau bod bwriad adeiladu darpariaeth bwrpasol ar gyfer adloniant
byw tu allan, ond nad oedd y gwaith
wedi ei gwblhau.
Mynegodd yr ymgeisydd ei dymuniad
i dynnu’r elfen adloniant tu allan
o’r cais hyd nes y bydd
mewn sefyllfa i roi mesurau
priodol mewn lle. O ganlyniad, roedd Adran Gwarchod
y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiad
i’r cais yn ôl, yn
ddarostyngedig bod yr ymgeisydd yn cadarnhau
yn y gwrandawiad nad oedd
bwriad cynnal adloniant tu allan
am y tro. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi
cytuno i gynnwys amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng (TCC), hyrwyddo Menter Her 25 a chynnal asesiad risg pan fydd angen
goruchwylwyr drysau, ar gais yr
Heddlu. Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais
pe byddai’r ymgeisydd yn cadarnhau
diddymu'r bwriad i gynnal adloniant
tu allan oddi ar y cais:
ac yn unol ag argymhellion yr Heddlu â gofynion Deddf
Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Ei bod
yn hapus gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y Rheolwr Trwyddedu ·
Ei bod
yn tynnu’r elfen adloniant tu allan
o’r cais am y tro – y ddarpariaeth heb ei gwblhau ·
Popeth
mewn trefn i agor Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysleisio’r angen i sicrhau bod recordiadau TCC yn cael eu cadw am 30 diwrnod, nododd y Swyddog Trwyddedu bod ... view the full COFNODION text for item 4. |