Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan yr ymgeisydd Mr Rui Brasil a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan
(Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 253 KB The Old
Wives' Tale, 21 Heol Tegid, Y Bala, LL23 7EH I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD Bod y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, yn unol â’r Ddeddf Drwyddedu a’r amodau rheoli
sŵn a gytunodd yr ymgeisydd i ychwanegu at atodlen weithredol y drwydded COFNODION: THE OLD WIVES' TALE, 21 TEGID STREET, BALA LL23 7EH Ymatebwyr: Mr Mark Mortimer
(Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd) Mr Adrian Angel
(Gwasanaeth Tan Gogledd Cymru) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar
gais am drwydded eiddo ar gyfer
bwyty gyda hawl i werthu
alcohol gyda phrydau i’w gweini gyda
bwyd ar yr eiddo yn unig
rhwng 12 o’r gloch hyd at 11yh, saith diwrnod yr wythnos. Gwnaed cais am hawl i chwarae
cerddoriaeth wedi ei recordio a chynnal
adloniant byw o 7 y bore tan
11 yr hwyr, saith diwrnod
yr wythnos. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais ond bod Adran
Gwarchod y Cyhoedd wedi argymell amodau
rheoli sŵn. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn
yr amodau hyn ac yn barod i’w
hychwanegu ar y drwydded. Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais yn unol
â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn
ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgynghorai Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i
gyflwyno ei gais ar lafar Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol
ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr. Mark Mortimer ·
Trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd – y
cais wedi ei dacluso ers ei gyflwyno ·
Yr ymgeisydd wedi cytuno i dderbyn amodau rheoli
sŵn ar yr eiddo yn ogystal â chwtogi oriau adloniant rheoledig ·
Bod yr ymgeisydd wedi cytuno cyfyngu ar yr oriau
cerddoriaeth byw ac y byddai yn gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro petai
angen unrhyw ymestyniad achlysurol Adrian Angel ·
Dim pryderon diogelwch y cyhoedd, ond cais i’r
ymgeisydd gwblhau asesiad risg, ail wneud cynllun llawr ar ôl gosod larymau tân
a chlirio’r safle - ni fyddai hyn yn amharu ar benderfyniad yr is-bwyllgor Cyng. Dilwyn Morgan (Aelod Lleol) - sylwadau
wedi eu cyflwyno drwy e-bost ·
Ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol ·
Nodi ei gefnogaeth lwyr i’r drwydded yn Old Wives’ Tale. ·
Nad oedd unrhyw broblem sŵn yn aflonyddu ar y
trigolion gerllaw o gwbl. Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is- ... view the full COFNODION text for item 4. |