Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
John Brynmor Hughes, Wendy Lloyd Jones a John Gwilym Jones (preswylwyr lleol)
ar gyfer eitem 4, a’r Cynghorydd Gwynfor Owen (Aelod Lleol) ar gyfer eitem 5 |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 286 KB Land and
Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal Garage, Abersoch, LL53 7AH I ystyried
y cais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: COFNODION: 1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO –
Land and Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal
Garage, Abersoch Ar
ran yr eiddo: Mr Stephen Cliff (Ymgeisydd), Diane
Robertson ( Gweithiwr Land and
Sea a Phreswylydd Lleol) Ymatebwyr: Elizabeth Williams (Heddlu
Gogledd Cymru) Swyddogion Cyngor Gwynedd: Keira Sweeney (Rheolwr Cynllunio), Alun Evans (Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd (Lles, Iechyd a Diogelwch) a Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd) Einir Wyn (Clerc Cyngor Cymuned Llanengan) Preswylwyr Lleol: Mr Wyn Williams, Mr Robert
Kennedy, Mrs Margot Jones a Mr Martin Turtle Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
bwyty gyda hawl i werthu alcohol a gweini bwyd o fan arlwyo ar lecyn tu allan i
adeilad busnes gwerthu a thrwsio cychod rhwng 11:00 hyd at 21:20, saith diwrnod
yr wythnos ynghyd a hanner awr yn ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i gwsmeriaid
orffen a gadael. Adroddwyd na wnaed cais am yr hawl i gynnal adloniant, ond
petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu bydda’r ymgeisydd yn gallu manteisio ar
eithriadau Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012 i chwarae cerddoriaeth chwyddedig tan
22:00 Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod amryw o
wrthwynebiadau wedi eu derbyn i’r cais mewn perthynas â'r pedwar amcan
trwyddedu - Atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch
cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed. Argymhellwyd i’r
Pwyllgor wrthod y cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau
isod yn benodol: ·
Bod y safle agored mewn lleoliad peryglus ar bwys
priffordd a chyffordd brysur, ac ar gwrtil busnes cychod prysur ·
Na fyddai’n bosib i’r ymgeisydd atal y peryglon i
gwsmeriaid ac eraill oherwydd trafnidiaeth ceir a thractorau hefo trelars a
chychod drwy fesurau rheoli oherwydd nad yw'r safle yn ddiogel nac yn addas fel
eiddo trwyddedig. ·
Na fyddai’n bosib rheoli
sŵn o’r lleoliad agored hwn; er gwaethaf y mesurau sydd yn cael eu cynnig
gan yr ymgeisydd. Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. · Rhoi cyfle i'r
Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded · Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig · Gwahodd y Rheolwr
Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd: · Bod blaen yr adeilad yn wag ac yn lleoliad addas ar gyfer cynnig ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 251 KB Caffi Llew Glas, 3,
Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech, LL46
2YA. I ystyried
y cais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Bod y
Pwyllgor yn caniatau cais yn unol â'r amodau a osodwyd gan gais cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri NP5/61/T2E COFNODION:
Ar ran yr eiddo: Ms Harriet Brown (ymgeisydd) Ymatebwyr: Mr Dafydd Thomas (Swyddog
Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer caffi / bar lluniaeth ysgafn gyda lle i fwyta tu mewn a thu
allan i’r eiddo. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais oherwydd ei fod yn groes i hawliau
cynllunio cais rhif NP5-61-T2E-DN ond petai’r ymgeisydd yn addasu oriau i
gydymffurfio gydag amodau’r cais byddai’n dderbyniol Argymhellwyd i’r
Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a
gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau isod yn benodol: Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. · Rhoi cyfle i'r
Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded · Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig · Gwahodd y Rheolwr
Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos Nodwyd siom nad oedd barn wedi ei dderbyn gan
Cyngor Cymuned Harlech ac y byddai cynnwys lluniau o’r eiddo a / neu luniau o’r
sgwâr / stryd wedi bod yn fanteisiol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argymhelliad
yr Uned Trwyddedu, cadarnhawyd mai yn unol â sylwadau Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yr oeddynt yn argymell caniatáu y cais ac nid yn unol â
sylwadau Gwarchod y Cyhoedd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Mai menter fechan, ysgafn oedd ganddi dan sylw ·
Nad oedd am fentro gyda rhywbeth mwy oherwydd anodd
recriwtio staff ·
Yn hapus i addasu’r oriau agor i gyd-fynd a’r cais
cynllunio Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut roedd yr ymgeisydd yn bwriadu tawelu pryderon
sŵn i’r dyfodol, nododd nad oedd bwriad ganddi gynnal adloniant na
nosweithiau hwyr. Ategodd bod ei thad yn byw yn y fflat uwchben ac yn
feirniadol o unrhyw sŵn! Nododd
hefyd bod y staff wedi eu hyfforddi i ddelio gyda chwsmeriaid annymunol. Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr. Mr Dafydd Thomas
(Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri) ·
Bod y cais wedi ei wrthod oherwydd yn groes i
amodau cais cynllunio · Yn derbyn bod yr ymgeisydd wedi ... view the full COFNODION text for item 5. |