Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Nia Chilton (Preswylydd Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO MICKEY’S BEACH CAFE, THE BOATYARD AND SHIPWAY, BWLCHTOCYN, ABERSOCH I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais Oriau Agor: Dydd Sul 10:00 - 18:00 Dydd Llun 10:00 -18:00 Dydd Mawrth 10:00 -18:00 Dydd Mercher 10:00 -18:00 Dydd Iau 10:00 - 18:00 Dydd Gwener 10:00
-18:00 Dydd Sadwrn 10:00 -18:00 Gweithgareddau Trwyddedadwy Cyflenwi Alcohol ar
ac oddi ar yr Eiddo Dydd Sul 10:00 - 17:00 Dydd Llun 10:00 17:00 Dydd Mawrth 10:00 - 17:00 Dydd Mercher 10:00 - 17:00 Dydd Iau 10:00 - 17:00 Dydd Gwener 10:00 - 17:00 Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00 Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w
cynnwys fel amodau ar y drwydded:
Mesurau ychwanegol a gytunwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru ·
Daw'r cyflenwadau alcohol gan gyflenwyr bwyd
presennol - ni ragwelir cyflenwadau ychwanegol fydd yn arwain at gynnydd mewn
traffig ·
Mae sbwriel yn rhan o gasgliad cytundeb
masnachol ar ddydd Mawrth a dydd Gwener, ac ni fydd yn digwydd y tu allan i'r
oriau 17:00 – 08:00 fel sy'n arferol Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion
Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr
oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y
byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Adroddwyd nad oedd yr Awdurdodau Cyfrifol wedi
cyflwyno sylwadau ac er i Heddlu Gogledd Cymru amlygu pryderon cychwynnol, bod yr ymgeisydd
bellach wedi cytuno i’r mesurau i ymateb i’r pryderon hynny ac felly'r Heddlu
wedi eu tynnu yn ôl. Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd gan
Aelodau o’r Cyhoedd a Chyngor Cymuned Llanengan. Roedd y cyhoedd, yn pryderu
nad oedd toiledau ar y safle, ac er bod cwsmeriaid yn defnyddio toiledau
cyhoeddus gerllaw, nid oedd gan y caffi reolaeth dros y toiledau hyn ac y
gallent gau ar unrhyw adeg. Ystyriwyd y gall hyn arwain at y posibilrwydd o
achosi trafferthion gwastraff dynol yn yr ardal. Amlygwyd pryder hefyd, ·
bod yr ardal wedi gweld
cynnydd mewn gwastraff yn cael ei wasgaru wrth y caffi ac y bydd potensial i
hyn waethygu os daw mwy o bobl i yfed yno ·
pryder o gynnydd mewn gwydr
wedi malu a phlastig ar y traeth ger y caffi ·
gyda’r traeth o flaen y
caffi yn un poblogaidd iawn hefo teuluoedd, ystyriwyd y gall gwerthu alcohol
gynyddu’r potensial i bobl yfed a gweithredu cychod pŵer yn yr ardal sydd
yn beryglus i unrhyw un sydd yn nofio yn y môr. Roedd sylwadau Cyngor Cymuned Llanengan yn
pryderu am ·
yfed ar y traeth gan nodi
nad yw peiriannau
(e.e. cychod cyflym/badau dwr personol) ac alcohol yn cyd-fynd ·
pryder am ddiffyg toiledau ar y safle - mater a gododd y Cyngor
sawl gwaith ers pan sefydlwyd caffi ar y safle ·
gall gwerthu alcohol gynyddu poblogrwydd Traeth
Marchros fydd o ganlyniad yn creu traffig ychwanegol ar ffordd gul, droellog
sydd heb le digonol i ddau gar basio’i gilydd.
Roedd y swyddogion yn nodi, yn unol â Deddf
Drwyddedu 2003, argymhellir fod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau'r ymatebwyr, ac
ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon - ac yn caniatáu’r cais. Adroddwyd bod alcohol wedi ei werthu ar y
safle ar nifer o achlysuron yr haf diwethaf drwy ddefnyddio Hysbysiadau
Digwyddiadau Dros Dro. Ni dderbyniwyd cwynion gan yr Awdurdod Trwyddedu nac
Uned Gwarchod y Cyhoedd yn dilyn sawl digwyddiad a ganiateir yn defnyddio
Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r ymgeisydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |