Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 256 KB Y
LLANGOLLEN, STRYD FAWR, BETHESDA, GWYNEDD, LL57 3AN I ystyried y cais uchod Cofnod: Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb
oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno
sylwadau uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr eiddo: Mr
Joseph Barrett (ymgeisydd) Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams (Ogwen) a) Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo o’r newydd ar
gyfer Y Llangollen, Bethesda mewn perthynas â chyflenwi alcohol a chwarae
cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo. Amlygwyd bod gan
yr eiddo drwydded yn y gorffennol, ac fe ildiwyd y drwydded gan Punch Taverns (y perchnogion ar y
pryd) yn mis Tachwedd 2015. Yn flaenorol, roedd y gweithgareddau trwyddedig yn
cynnwys cerddoriaeth fyw yn ogystal â cherddoriaeth wedi ei recordio. Tynnwyd sylw at
fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad ynghyd a chymhariaeth y
gweithgareddau trwyddedig i’r drwydded flaenorol. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod yr
Aelod Lleol a Chyngor Tref Bethesda yn
gefnogol i’r cais, ond bod deunaw llythyr wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais
ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac
anrhefn. Amlygwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn cyfeirio sail eu pryderon at
ymddygiad gwrthgymdeithasol cwsmeriaid a materion niwsans cyhoeddus megis
sŵn a sbwriel, gan nodi bod llawer o broblemau wedi codi yn y gorffennol
pan roedd yr eiddo o dan berchnogaeth a rheolaeth eraill. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol: ·
Bod problemau hanesyddol gyda’r sefydliad dros y 5
mlynedd diwethaf ·
Ei fod wedi buddsoddi a chanolbwyntio ar newid
rhagolygon y sefydliad drwy adnewyddu ac ailddodrefnu’r dafarn a symud y
byrddau pwl, y bwrdd dartiau a’r jiwc bocs oddi ar yr
eiddo er mwyn creu bwyty. ·
Bydd 10 aelod o staff yn cael eu cyflogi (lleol) ·
Bod yr oriau cau yn caniatáu i’r eiddo reoli
ymadawiad trefnus o bobl fel nad oes criw yn cronni ar y stryd ar ddiwedd noson ·
Bod bwriad creu 8 ystafell wely gydag ystafell
ymolchi yr un uwchben yr eiddo fel gwesty -
hyn yn creu 4 swydd rhan amser ychwanegol ch) Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi cytuno i argymhellion yr Heddlu a bod camerâu cylch cyfyng ynghyd ac offer recordio priodol wedi ei osod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |