Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Mr Jim
Hughes (Gwasaneth Tan) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO CAIS I
AMRYWIO TRWYDDED EIDDO - BELLE VUE,
BANGOR, LL57 2EU Ystyried
y cais uchod Cofnod: CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED
EIDDO – BELLE VUE, FFORDD CAERGYBI, BANGOR Ar ran yr
eiddo: Mr
Christopher Jere, Bethany Shooman Aelod Lleol: Cyng. June Marshall Eraill a fynychwyd: Mr Ian
Williams ( Heddlu Gogledd Cymru), Mrs Arfona Davies (Cymdeithas Bangor Uchaf /
Preswylydd Lleol) Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Christopher Jere am
drwydded eiddo ar gyfer Belle Vue,
Ffordd Caergybi, Bangor. Yn unol â’r ffurflen gais,
natur yr amrywiad arfaethedig oedd ymestyn ardal trwyddedadwy
yr eiddo i gynnwys yr adeiladau allanol yn yr ardd gwrw
i weithredu fel bar a bod yr oriau
cyflenwi alcohol yn yr ardd gwrw yr un fath a’r
tŷ tafarn. Yn ychwanegol bwriedid
gostwng oriau agor y sefydliad o 08:00 - 01:30 dydd Llun i ddydd Sul i 09:00 -
01:30 dydd Llun i ddydd Sul.
Cyfeiriwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar
amcan trwyddedu fel rhan o’i gais. Yn dilyn cyfnod ymgynghori,
nodwyd bod sylwadau oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn nodi nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ond yn
dymuno bod y teledu cylch cyfyng (TCC) sydd wedi ei osod ar yr eiddo yn destun
i amodau penodol TCC. Derbyniwyd un
gwrthwynebiad i’r cais oddi wrth breswylydd lleol lle awgrymwyd nad oedd yr
ymgeisydd wedi hysbysebu y cais mewn man amlwg ar yr eiddo ac yn seiliedig ar
yr amcanion trwyddedu o Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus. Ategwyd bod Swyddog Gorfodaeth yr Uned
Trwyddedu wedi ymweld â’r eiddo ar 7 Gorffennaf 2015
i wirio bod yr hysbyseb wedi ei arddangos yn unol â’r
rheoliadau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu
yn fodlon bod yr hysbysebion yn cwrdd â’r
rheoliadau. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai. c)
Mewn ymateb i’r adroddiad gofynnwyd i’r Rheolwr
Trwyddedu beth oedd diffiniad ‘gardd gwrw’? Nodwyd bod
yr ardd gwrw yn rhan o’r eiddo ac o fewn y ffin ac
wedi ei gynnwys yn y drwydded gyfredol, ond bod y cais yn ymwneud â defnyddio’r
adeilad yn yr ardd i werthu cwrw. O ran defnydd o ardal ysmygu nodwyd bod
deddfwriaeth arall ar gyfer hyn. Yn ychwanegol, cadarnhawyd bod yr ymgeisydd
wedi dangos hysbyseb ar yr eiddo am y cyfnod priodol o 28 diwrnod. ch) Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a chadarnhaodd bod TCC o fewn yr adeilad wedi ei osod yn unol â gofynion yr Heddlu ac yn weithredol. Nodwyd mai cais ydoedd i ffurfioli'r defnydd o’r adeilad tu allan er mwyn gwerthu alcohol, yn hytrach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |