Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Sharon Dysart (Ymgynghorai
Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 233 KB Red Lion, Porthmadog I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu y cais i wyro’r drwydded yn ddarostyngedig i gynnwys amodau’r
Atodlen Weithredol Cofnod: CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Y Llew Coch,
Porthmadog Ar ran yr eiddo: Darren Kelly
(Ymgeisydd – Admiral Taverns Ltd) Peter Ashcroft (Cyfreithiwr ar ran Admiral Taverns Ltd) Eraill a wahoddwyd: Ffion Muscroft - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyng. Nia
Jeffreys - Aelod Lleol Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar
gyfer Y Llew Coch, Porthmadog. Gwnaed y cais mewn perthynas ag
addasiadau i gynlluniau mewnol y tŷ tafarn ac i gynnwys ardal allanol fel
man trwyddedig. Adroddwyd, er bod yr ardd gwrw wedi ei thrwyddedu yn barod,
gwnaed cais i ymestyn ardal drwyddedig yr eiddo i gynnwys strwythurau ar steil
cytiau glan y môr gydag alcohol yn cael ei archebu a’i weini drwy’r ffenest yng
nghefn yr eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Amlygwyd bod cais cynllunio diweddar (C20/0076/44/LL) i ddarparu 5 cwt glan y
môr a drws ar ffurf 'hatch' i'r prif adeilad wedi ei ganiatáu yn unol ag amodau
oedd yn cynnwys: ·
Ni chaiff y cytiau pren a ganiateir drwy hyn (ac
eithrio'r gysgodfa ysmygu a ddangosir ar y cynlluniau safle presennol) fod yn
agored i gwsmeriaid tu allan i amseroedd a ganlyn 9:00
y bore hyd at 21:00 yr hwyr mewn unrhyw un diwrnod. ·
Rhaid cau'r agoriad gweini newydd tu allan i
amseroedd a ganlyn 9:00 y bore hyd 21:00 yr hwyr mewn unrhyw un diwrnod Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan aelod o’r cyhoedd yn mynegi
pryder ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus,
materion glanweithiol a throsedd ac anrhefn. Cefnogwyd y gwrthwynebiad gyda
thystiolaeth gyfoes berthnasol a oedd yn cynnwys clipiau fideo byr yn ogystal â
lluniau yn nodi’r amser a’r dyddiadau. Roedd yr Aelod Lleol yn amlygu pryder
sŵn a niwsans cyhoeddus ar ran preswylwyr cyfagos a’r Gwasanaeth Iechyd yr
Amgylchedd yn nodi’r angen i werthiant alcohol tu allan
a defnydd o’r cytiau traeth ddod i ben am 21:00. Nid oedd gan y Cyngor Tref, Yr
Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn ystyried yr angen i osod unrhyw ragofalon ychwanegol ar amodau’r
drwydded os byddent yn penderfynu caniatáu’r cais yn unol â sylwadau Gwarchod y
Cyhoedd a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau · Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |