Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr ymgeisydd Mr J Rowley |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 277 KB VENU, PWLLHELI I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu’r cais Cofnod:
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The
Venu, Pwllheli, Gwynedd. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol,
cerddoriaeth byw ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei recordio ar ac oddi ar yr
eiddo, dangos chwaraeon byw a lluniaeth hwyr yn nos. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd
at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nid oedd gan Cyngor Tref
Pwllheli wrthwynebiad i’r cais. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys
amodau ychwanegol mewn perthynas a Theledu Cylch Cyfyng (TCC) ar gais yr
Heddlu. Ni dderbyniwyd sylwadau na gwrthwynebiadau
pellach. Ategwyd bod y cais yn adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei ganiatáu ar y
drwydded eiddo oedd yn bodoli yn flaenorol. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu a
gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysleisio’r
angen i sicrhau bod recordiadau TCC yn cael eu cadw am 30 diwrnod, nododd y
Swyddog Trwyddedu bod hyn yn rhan o argymhellion yr Heddlu - yr ymgeisydd a
staff yr eiddo i dderbyn hyfforddiant ar sut i weithredu TCC sut i recordio a
llawr lwytho yn effeithiol. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio yn
llawn a’r gofynion hyn. Nid oedd yr
ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar y cais. Nid oedd Heddlu
Gogledd Cymru yn bresennol i ymhelaethu
ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt. d) Ymneilltuodd y Rheolwr Trwyddedu o’r
cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a
gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn
yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed PENDERFYNWYD caniatáu’r cais Rhoddir trwydded fel a
ganlyn: 1.
Oriau agor: Sul-Sadwrn 08:00-03:00 2.
Cerddoriaeth fyw tu mewn a thu
allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45 3.
Cerddoriaeth wedi ei recordio tu
mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45 4.
Digwyddiadau chwaraeon dan do:
Sul-Sadwrn 08:00-23:45 5. Perfformiadau dawns tu mewn a thu allan: Sul-Sadwrn 08:00-02:45 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |