Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Y Cynghorydd
Gruffydd Williams (Aelod Lleol)
yn eitem 6 ar y rhaglen, (Cais Trwydded Eiddo
Siop Traeth Becws Islyn, Nefyn)
oherwydd bod ei ferch yn gweithio
yn y caffi Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly ni fynychodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 243 KB Talybont Uchaf Farm, Talybont, Bangor, Gwynedd LL57 3YW. I ystyried y cais Penderfyniad: Gohirio gwneud
penderfyniad llawn ar y cais hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno a derbyn
caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo fel a ragwelir gan y cais
trwydded eiddo. Os a phan bydd caniatâd cynllunio priodol, bydd yr
Is-bwyllgor hwn yn ailymgynnull i ystyried y cais ymhellach, yn ogystal â
gwneud penderfyniad llawn Cofnod: CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – TALYBONT UCHAF FARM, TALYBONT, BANGOR Ymgeisydd Simon a Caroline Higham Aelod Lleol Cynghorydd Dafydd Meurig Preswylwyr Lleol Liz Watkins,
Meinir Jones, David Pritchard, Grace Crowe, Peter Green, Geraint Hughes a Jên
Morris Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Nigel Pegler, Haf Jones a Tina Moorcroft (preswylwyr lleol) ac Aneurin Rhys
(Swyddog Rheolaeth Datblygu - Gwasanaeth Cynllunio) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai
gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer adeilad rhestredig gradd 2 sydd wedi ei drawsnewid i gynnwys
buarth, ystafell barti a man adloniant dan do. Gwnaed y cais mewn perthynas â
gwerthu alcohol ar yr eiddo yn unig; cerddoriaeth byw ac wedi recordio, ar ac
oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos oedd yn
berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a
phryderon o gynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffordd oedd yn arwain at yr
eiddo Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf
Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadauôGwahodd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeiswyr: ·
Mai’r bwriad oedd creu man cyfarfod (venue)
fyddai’n cynnig digwyddiadau unigryw, moethus
safonol gyda lle i aros ·
Nad oes eiddo o’i fath yn lleol – nid yw’n cynnig
yr un gwasanaeth a Hendre Hall ·
Buasai’n rhoi sicrwydd busnes i gwmnïau lleol e.e.,
glanhawyr, siopau blodau ·
Bod dwy lôn yn arwain at yr eiddo gyda bwriad
cyfeirio traffig i ddefnyddio un lôn yn benodol. Y ffordd benodol yma yn addas gyda
mannau pasio gydag arwyddion a chyfarwyddiadau yn cael eu rhannu gydag ymwelwyr
i hyrwyddo’r
defnydd ·
Eu bod yn byw yn yr eiddo gyda theulu ifanc - dim
eisiau ysgogi problemau sŵn ·
Eu bod eisiau cydweithio gyda’r gymuned ·
Eu bod wedi gwahodd y preswylwyr cyfagos i fynychu
cyfarfod i rannu gwybodaeth am y bwriad
ond neb wedi troi fyny Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amlder derbyn hyd ar 150 o bobl ar y safle, nodwyd nad oeddynt yn gwybod beth fydd y galw, ond yn rhagweld cynnal hyd at 15 priodas mewn blwyddyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 244 KB Siop Traeth Becws Islyn, Lon Gam, Nefyn, LL53 6ED I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatáu’r cais Cofnod: CAIS
AM DRWYDDED EIDDO SIOP TRAETH BECWS ISLYN, LON GAM, NEFYN Ymgeisydd Geraint
Jones Lleol David
Robinson Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jane Spencer a Neil Cookson (preswylwyr lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai
gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a) Adroddiad
yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer Siop Traeth Becws Islyn, Lôn Gam,
Nefyn sy’n gwerthu cynnyrch lleol ar gyrion traeth yn Nefyn. Gwnaed y cais mewn
perthynas â chwarae cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo a gwerthu alcohol,
ar ac oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn berthnasol
i’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion trosedd ac anrhefn,
ysbwriel yn casglu ar lan y môr a phryderon o gynnydd sylweddol mewn traffig ar
y ffordd a diffyg mannau parcio. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn caniatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn
ganlynol-: • Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor
a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu • Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais • Rhoi
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau • Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Bydd y bwriad yn cefnogi busnesau lleol – yn
gwerthu cynnyrch lleol ·
Bydd y bwriad yn creu cyflogaeth leol ·
·
Wedi rhedeg Becws
Aberdaron ers 10 mlynedd heb unrhyw helynt ·
Bod gwerthiant alcohol mewn archfarchnadoedd yn
dderbyniol ·
Bod staff yn gwirfoddoli i gasglu sbwriel oddiar y traeth – sbwriel nad yw’n dod yn uniongyrchol o’r
siop ·
Bod y siop yn cyfrannu at yr economi leol ·
Bod y busnes yn cael ei redeg yn drefnus a
chyfrifol Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen
i werthu alcohol o 8am, nodwyd, o’r hyn sydd yn cael ei weld yn Aberdaron, bod
ymwelwyr yn dueddol o brynu anrhegion o gynnyrch lleol cyn ymadael ar ardal. Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddo drwy lythyr. David Robinson ·
Bod ganddo bryderon ynglyn
a’r cais – ei fod yn byw 50m o’r eiddo ·
Pryder ynglŷn â gwerthu alcohol ar y traeth a
materion diogelwch ·
Bod meinciau wedi eu gosod ar ffordd gyhoeddus yn
atal traffig ·
Bod y meinciau yn creu awyrgylch bar · Bod yr ymgeisydd yn defnyddio biniau cyhoeddus ar gyfer gwastraff masnachol - angen cadw at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 263 KB Vaynol
Arms, Pentir, Bangor, Gwynedd I ystyried
y cais Penderfyniad: Caniatáu’r cais Cofnod: CAIS
AM DRWYDDED EIDDO VAYNOL ARMS, PENTIR, BANGOR Ymgeisydd David
Hughes Aelod Lleol Cynghorydd
Menna Baines Swyddogion: Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd) Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Wyn James a Dr Caroline Lamers (preswylwyr
lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai
gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a) Adroddiad
yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Vaynol Arms, Pentir, Bangor sy’n
dŷ tafarn a bwyty gydag ardal allanol i’r cefn o’r eiddo. Gwnaed y cais
mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo, chwarae
cerddoriaeth byw, lluniaeth hwyr y nos a gwerthu alcohol ar, ac oddi ar yr
eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn berthnasol i’r amcanion
trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion sŵn a chynnydd mewn traffig a
materion parcio ac awgrymwyd cwtogi oriau gwerthu alcohol hyd 23:00 yn ystod yr
wythnos a Dydd Sul, a hyd 00:00 ar ddyddiau Gwener a Sadwrn. Derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Gwarchod y
Cyhoedd yn amlygu pryder ynglŷn ag oriau chwarae cerddoriaeth byw y tu
allan. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i dynnu’r cais yma yn ôl a gofyn
am gerddoriaeth byw/recordio ar gyfer tu mewn yr eiddo yn unig. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn caniatau’r cais yn unol â sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn
ganlynol-: • Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor
a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu • Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais • Rhoi
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau • Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr
ymgeisydd: ·
Bod y busnes wedi bod yn defnyddio rhybuddion
digwyddiadau dros dro, ond erbyn hyn eisiau osgoi eu defnyddio ·
Eu bod yn canolbwyntio ar redeg busnes o fwyty yn
hytrach na thafarn ·
Bod trwydded flaenorol y dafarn yn caniatau agor hyd at 01:00 – dim bwriad agor hyd 01:00 –
staff eisiau mynd adre ·
Gweini bwyd yn gorffen am 20:30 ·
Bod yr oriau ar gyfer defnydd achlysurol megis
cynnal priodasau a/ neu hybu a chefnogi digwyddiadau cymunedol ·
Wedi cytuno tynnu chwarae cerddoriaeth tu allan o’r
cais ·
Ei fod eisiau cydweithio gyda’r gymuned Mewn ymateb i gwestiwn sut y byddai deilydd y drwydded yn tawelu pryderon y gymuned, nododd bod tafarn wedi bod ar y safle ers ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |