Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Menna Baines (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 222 KB Elevenses Distillery Ltd,
Neuadd y Faenol, Parc y Faenol, Bangor, Gwynedd LL57 4BP I ystyried y cais uchod Penderfyniad: COFNODION: Eraill a wahoddwyd: Mr Jake Davies (ymgeisydd) Mr Simon Bromley (Gwasanaeth
Tân ac Achub Gogledd Cymru) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Elevenses Distillery Ltd, Neuadd
y Faenol, Parc y Faenol, Gwynedd ar gyfer distyllfa
fach deuluol. Gwnaed y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth fyw a
gwerthiant alcohol ar ac oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd na dderbyniwyd
gwrthwynebiadau i’r cais ond bod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd (Cyngor Gwynedd) wedi cynnig amodau / sylwadau. Roedd Heddlu Gogledd
Cymru yn argymell amodau TCC i’w cynnwys ar y drwydded ynghyd a sicrhau bod
staff yn derbyn hyfforddiant mewn perthynas â holl agweddau’r Ddeddf Trwyddedu.
Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu pryder ynglŷn â diffyg
gwybodaeth am amlder cynnal digwyddiadau ac am gynlluniau atal niwsans
cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr
ymgeisydd wedi nodi cyfyngiad o 5 digwyddiad y flwyddyn Argymhellwyd i’r
Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais · Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau · Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Ei fod yn hapus gydag amodau’r Heddlu a bod rhai
eisoes yn weithredol ·
Ei fod yn derbyn sylwadau Adran yr Amgylchedd ·
Bod bwriad trefnu un noson agoriadol ym mis Ebrill
2023 - bydd y noson yn un drwy wahoddiad yn unig i bobl dros 18 oed (teulu a
ffrindiau yn bennaf) ·
Bydd toiledau symudol yn cael eu darparu ar gyfer y
digwyddiadau ·
Gyda chydweithrediad perchennog y Faenol, bydd modd
darparu llefydd parcio digonol ar gyfer y digwyddiadau Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag os caniatáu'r
drwydded bydd cyfle i gynnal mwy nag un digwyddiad ac felly angen trefniadau
pendant yn eu lle, cadarnhaodd yr ymgeisydd y bydd trefniadau pendant ar gyfer
ymwelwyr - toiledau a llefydd parcio digonol. Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod gohebu clir wedi
bod gyda’r ymgeisydd yn ystod y broses o gyflwyno cais a bod y cais yn un
safonol. Bydd hawl cynnal hyd at 5 digwyddiad y flwyddyn mewn adeilad ‘digwyddiadau’ drws nesaf i’r ddistyllfa.. Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, ... view the full COFNODION text for item 4. |