Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Ms M A G Davies (Preswylydd Lleol) a Mr
Simon Bromley (Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO Bonna Pizza, 23 Holyhead
Rd, Bangor LL57 2EU I ystyried y cais Penderfyniad: COFNODION: Bona Pizza, 23 Ffordd Caergybi, Bangor Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr
Adran Trwyddedu Amlygodd y Rheolwr
Trwyddedu nad oedd yr Aelodau Lleol wedi cyflwyno sylwadau, ond yn awyddus i
annerch yr Is-bwyllgor os byddai’r holl bartïon yn derbyn hynny. Mewn ymateb,
nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd eu bod yn derbyn anerchiad yr Aelodau Lleol,
ond yn dymuno nodi bod amserlen bendant wedi ei gosod ar gyfer cyflwyno
sylwadau. Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer siop
bwyd poeth i’w gario allan yn gwerthu pizza, kebabs, byrgyrs a sglodion; y cais
yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â darparu lluniaeth hwyr yn y nos ac oddi ar
yr eiddo. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd ar sail niwsans
cyhoeddus, yn benodol mewn perthynas tebygol mewn sŵn yn hwyr yn y nos gan
gwsmeriaid, yn ogystal â niwsans arogleuon. Nodwyd hefyd bod deiseb wedi ei
derbyn yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Atal
Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru yn
argymell amodau TCC i’w cynnwys ar y drwydded ynghyd a sicrhau bod staff yn
derbyn hyfforddiant mewn perthynas â holl agweddau’r Ddeddf Trwyddedu. Nid oedd
gan y Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais Argymhellwyd i’r
Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Drwyddedu
2003. a)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ‘angen’ i’r
eiddo fod yn agored hyd 3:30am, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ardal Bangor
Uchaf yn ardal drwyddedig hwyr -
byddai’r eiddo yma yn cyfateb i oriau trwyddedig dau eiddo pryd ar glud arall
yn yr ardal. Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd: ·
Ei bod yn sicrhau bod gan y ddau ymgeisydd brofiad
helaeth o weithio yn y diwydiant bwyd (cyfnod o 25 mlynedd) ·
Bod oriau agor bwriededig yn cyfateb i oriau 2
eiddo arall yn yr un ardal ynghyd a siop
gyfleus oedd yn agor 24 awr · Bod gofyn am hanner awr ychwanegol ... view the full COFNODION text for item 4. |