Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 366 KB Cariad
Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LP I ystyried y
cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD Caniatáu y cais
yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Oriau Gwerthu
alcohol ar
ôl 17:30 (i'w werthu
gyda pwdinau / hufen ia) Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo – i'w gyfyngu i'r
ardal decin
yn union o flaen cownter gweini’r Kiosk
yn unig Dim alcohol i'w
yfed ar fyrddau ar y palmant Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn
Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded. Cofnod: CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – Cariad Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr,
Porthmadog, Gwynedd LL49 9LP Eraill a wahoddwyd: ·
Elizabeth Shone – Cariad
Gelato ·
Olivia O’Neill - Cariad
Gelato ·
David W Lindsay – Cariad Gelato ·
Cyng Gwilym Jones – Aelod Lleol ·
Elizabeth Williams (SwyddogTrwyddedu,
Heddlu Gogledd Cymru) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer kiosg hufen ia gyda rhywfaint o fyrddau allanol. Eglurwyd
bod Cariad Gelato yn fusnes teuluol sydd yn cynhyrchu a gwerthu hufen ia wedi
ei wneud mewn modd Eidalaidd. Roedd yr ymgeisydd yn gofyn am ganiatáu
gwerthiant alcohol ochr yn ochr ai fusnes creiddiol, gan alluogi cwsmeriaid i
fwynhau diod alcohol oddi fewn i ardal eistedd allanol benodol wedi ei ddiffinio;
neu i ganiatáu cwsmeriaid i brynu alcohol ar gyfer ei yfed i ffwrdd oddi ar yr
eiddo. Gofynnwyd am yr
hawl i werthu alcohol o 12 y prynhawn hyd at 21:00 bob dydd - yr eiddo yn
agored i werthu hufen ia rhwng 10 a 21:00 bob dydd. Cyfeiriwyd at
oriau arfaethedig safonol ar gyfer oriau agor ac oriau gwerthiant alcohol ar ac
oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan yr Aelod Lleol a Chyngor Tref
Porthmadog oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o
Ddiogelwch y Cyhoedd a Diogelu plant rhag niwed. Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn
cyfarfod gyda’r ymgeisydd, wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth
i gyfiawnhau gwrthwynebiad i’r cais. Roeddynt yn fodlon fod sicrwydd wedi ei
roi fod ethos y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar gynhyrchu a gwerthu hufen ia
Eidalaidd i deuluoedd, yn hytrach na phwyslais ar werthu alcohol. Cynhaliwyd
cyfarfod gyda’r ymgeiysdd, yr Heddlu a’r Swyddog
Trwyddedu ar y 7fed o Fawrth 2023 i geisio cyfarch pryderon yr Aelod Lleol a’r
Cyngor Tref. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn barod i gyfaddawdu gan gytuno, ·
I werthu alcohol ar ôl 17:30 yn unig,
gan mai dyma’r
cyfnod mae masnachu i deuluoedd
a phlant yn dod i ben ·
Alcohol i’w werthu gyda
phwdinau / hufen ia yn unig
ar ôl 17:30 ·
Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo ·
Gweini alcohol i’w
gyfyngu i’r ardal ‘decking’ yn union o flaen cownter gweini’r
Kiosg yn unig. Ni fydd alcohol yn cael ei
yfed ar fyrddau
ar y palmant Roedd yr Adran Trwyddedu yn argymell caniatau’r
cais yn
unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, a’r cytundeb cyfaddawdu a dderbyniwyd gan yr
ymgeisydd b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |