Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
EITEM FRYS - GWRTHWYNEBIAD I GEISIADAU DIGWYDDIAD DROS DRO - BEECHWOOD HOUSE , DOLGELLAU PDF 310 KB I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: Yn unol â
Deddf Drwyddedu 2003 penderfynwyd gwrthod y ceisiadau gan nad oedd manylion
digonol na mesurau diogelwch wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd mewn ymateb i
bryderon y Cyngor a’r Heddlu Cofnod: Eraill a wahoddwyd: ·
Mr Dean
Hawkins - ymgeisydd ·
Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru) ·
Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Rheolaeth Llygredd) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar geisiadau am ddigwyddiad dros dro yn
Beechwood House, Dolgellau,
Gwynedd, mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan. Cais 1 - Rhybudd
Digwyddiad Dros dro i gynnal gweithgareddau trwyddedig estynedig i’r hyn sydd
ar y drwydded fel rhan o weithgareddau Sesiwn Fawr Dolgellau 21, 22 a 23 o
Orffennaf. Cais 2 - Rhybudd
Digwyddiad Dros Dro i gael cerddoriaeth tu allan a bar tu allan ar y Marian
Fawr yn Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Hwyl yr Haf Dolgellau 19 o Awst Adroddwyd bod
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r ddau gais gan y Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd,
gyda sylwadau hefyd yn ategu pryderon wedi eu derbyn gan yr Heddlu. Eglurwyd
mai dim ond y Cyngor (sydd yn gweithredu cyfrifoldebau Iechyd Amgylchedd) a’r
Heddlu sydd gyda’r grym i wrthwynebu rhybudd digwyddiad dros dro. Nid oes trefn
o ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y gyfundrefn digwyddiadau dros dro. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno
gwybodaeth fyddai’n diwallu pryderon y Cyngor a’r Heddlu ynglŷn â’r ddau
ddigwyddiad. Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad, bod poster wedi ymddangos ar y
cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â natur y digwyddiad os byddai’r rhybudd
digwyddiad dros dro yn cael ei ganiatáu. Roedd y poster yn amlygu’n glir nad
oedd yr amserlen yn ymwneud a Sesiwn Fawr Dolgellau. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Nad oedd yr eiddo wedi cael ei gynnwys yng
ngweithgareddau Sesiwn Fawr Dolgellau - anodd peidio cymryd hyn yn bersonol ·
Ei fod yn ceisio gwneud elw wedi covid 19 - gweld cyfle i gymryd mantais o’r digwyddiad ·
Bod lleoliadau eraill yn y dref yn chwarae
cerddoriaeth yn uchel, pam felly nad oedd modd gwneud hynny yn Beechwood House? ·
Ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor a
threfnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau ynglŷn â cheisio cau'r ffordd, ond nad
oedd datrysiad ·
Bydd miloedd yn mynychu’r dref ac mi ddylid cau’r
ffyrdd i gyd ·
Bod pawb yn cael cymryd rhan heblaw am Beechwood House Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd wedi cyflwyno gwybodaeth i’r Swyddog Amgylchedd, nododd nad oedd manylion cyswllt ganddo a'i fod yn cadw cofnod ei hun o’r lefelau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |