Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
EITEM FRYS - GWRTHWYNEBIAD I GAIS DIGWYDDIAD DROS DRO - BRAICH GOCH INN, CORRIS PDF 227 KB I ystyried
y cais Penderfyniad: Cofnod: 1.
CAIS DDIGWYDDIAD DROS
DRO - BRAICH GOCH INN, CORRIS Cais am DDIGWYDDIAD DROS
DRO – ymestyniad oriau gweithgareddau trwyddedig ar gyfer achlysur codi arian
at elusennau ar yr 22ain o Fedi 2023 Eraill a wahoddwyd: ·
Maria De La Pava Catano (Ymgeisydd) ·
Mark
Mortimer (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd) ·
Cynghorydd John Pughe Roberts (Aelod Lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn manylu ar gais digwyddiad dros dro yn Braich
Goch, Corris, Machynlleth, mewn perthynas â ymestyn oriau gweithgareddau
trwyddedig tu mewn i’r eiddo ar gyfer achlysur codi arian at elusennau ar y
22ain o Fedi 2023 ·
Defnyddio’r ardal fewnol y bar sydd wedi ei
gysylltu i adeilad y bunkhouse ar gyfer gwerthu
alcohol a chynnal cerddoriaeth byw hyd at 11 yr hwyr a DJ tan 02:00 y bore. ·
Darparu gweithgareddau trwyddedig ar gyfer uchafswm
o 100 o bobl Adroddwyd bod
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais gan y Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y
Cyhoedd gan nad oedd yr ymgeisydd wedi ymateb i drafod cyfaddawd ynglŷn
â’r oriau. Eglurwyd mai dim ond y Cyngor (sydd yn gweithredu cyfrifoldebau
Iechyd Amgylchedd) a’r Heddlu sydd gyda’r grym i wrthwynebu rhybudd digwyddiad
dros dro ac nad oedd trefn o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y
gyfundrefn digwyddiadau dros dro. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau i’r
cais wedi eu cyflwyno gan Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryder
fod y digwyddiad yn mynd i danseilio'r amcanion trwyddedu o atal niwsans
cyhoeddus. Roedd swyddogion y gwasanaeth wedi derbyn dau gŵyn am aflonyddwch
sŵn cerddoriaeth ym mis Mai 2022 hyd 01:30 (tu hwnt i’r oriau a ganiateir
ar y drwydded). Nid oedd rhybudd digwyddiad dros dro mewn lle i ganiatáu
gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i’r hyn a ganiateir ar y drwydded. Eglurwyd, gan fod
cwynion sŵn o weithgareddau trwyddedig heb awdurdod wedi eu derbyn mis Mai
2022, anfonwyd e-bost (21-08-23) gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd at ddeilydd y drwydded yn awgrymu cyfaddawd, gan fod y cais yn
nodi oriau terfynu adloniant rheoledig am 02:00. Roedd Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd yn cynnig terfynu’r gweithgareddau trwyddedig am 00:30, hanner awr yn
hwyrach na’r drwydded bresennol. Ystyriwyd hyn yn gyfaddawd teg, ac y byddai yn
rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded brofi ei gallu i
drefnu adloniant heb aflonyddu ar breswylwyr cyfagos. Er hynny, ni
dderbyniwyd ymateb i’r cyfaddawd ac o ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell gwrthod y cais ar sail. ·
Cwyn o gynnal gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i
derfyn amser y drwydded ·
Cwynion o aflonyddwch sŵn yn dilyn adloniant a
gynhaliwyd mis Mai 2022 ·
Diffyg yr ymgeisydd o beidio ymateb i gynnig o
gyfaddawd ar yr oriau a ofynnwyd amdanynt b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |