Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Cynghorydd John Brynmor Hughes (Aelod Lleol)
oherwydd ei fod yn Aelod o Glwb Golff Abersoch |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 245 KB Clwb Golff Abersoch, Lon Golff, Abersoch, LL53 7EY I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais yn ddarostyngedig i gyfaddawd
a wnaed gyda’r ymgeisydd: Bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle dan reolaeth pwyllgor y
clwb Ar ôl 0200, bydd yr eiddo ar agor i aelodau'r clwb golff yn unig Bydd holl ddrysau a ffenestri'r eiddo yn cael eu cadw ar gau yn ystod
adloniant rheoledig, ac eithrio yn ystod mynediad ac allanfa uniongyrchol. Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth fyw/chwyddedig gael ei chwarae tu
allan yr eiddo ar ôl 23:00 Ni fydd sŵn neu ddirgryniad y dod o'r eiddo a fyddai'n achosi
niwsans. Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu
allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00 . Bydd y poteli yn
cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead Cofnod: Clwb Golff
Abersoch, Lon Golff, Abersoch, LL53 7EY Eraill a wahoddwyd: Mr Michael Murphy (Ymgeisydd) Amlyn Williams – Aelod Clwb
Golff Abersoch Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu) Elizabeth Williams
(Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Clwb
Golff Abersoch, Lon Golff, Abersoch sydd yn glwb ar gyfer aelodau yn bennaf -
yn cynnwys bar, ystafell fwyta ac ardal patio. Adroddwyd bod y cais yn un i newid
o dystysgrif Clwb i drwydded eiddo, gyda’r mwyafrif o’r gweithgareddau
trwyddedig yn aros yr un peth. Eglurwyd bod yr
ymgeisydd yn gofyn am yr hawl i gynnal y gweithgareddau trwyddedig tu mewn a
thu allan i’r eiddo. Amlygwyd bod hawl gwerthu alcohol 24ain awr y dydd, bob
dydd ar y dystysgrif clwb presennol, ac ar y cais trwydded eiddo. Er nad oedd
cynnydd cyffredinol yn yr oriau gweithgareddau trwyddedig, roedd yr ymgeisydd
yn ceisio'r hawl i gynnal gweithgareddau trwyddedig yn hwyrach na’r drwydded
gyfredol, ond i beidio agor tan amser cinio. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan
Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd
sylwadau i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail pryderon am yr
oriau a ofynnwyd amdanynt, o’r bwriad o agor y clwb i'r cyhoedd a chynnal
gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan i’r eiddo. Ystyriwyd y gallai’r
oriau a geisiwyd danseilio’r amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Adroddwyd, ar
28ain Gorffennaf 2023, cynhaliwyd cyfarfod rhwng yr ymgeisydd a'r Gwasanaeth
Gwarchod y Cyhoedd a daethpwyd i gytundeb ar gyfaddawd fel a ganlyn. ·
Bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle dan
reolaeth pwyllgor y clwb ·
Ar ôl 02:00, bydd yr eiddo ar agor i aelodau'r clwb
golff yn unig ·
Bydd holl ddrysau a ffenestri'r eiddo yn cael eu
cadw ar gau yn ystod adloniant rheoledig, ac eithrio yn ystod mynediad ac
allanfa uniongyrchol. ·
Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth fyw/chwyddedig
gael ei chwarae tu allan yr eiddo ar ôl 23:00 ·
Ni fydd sŵn neu ddirgryniad y dod o'r eiddo a
fyddai'n achosi niwsans. ·
Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i
gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00. Bydd
y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda
chaead O ganlyniad, roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn unol â’r cyfaddawd a
gytunwyd gyda’r ymgeisydd. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |