Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 226 KB

‘City Sports and Cocktail Bar’, 20/21 Canolfan Menai, Bangor, LL57 1DN

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd.

·       Ni chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LZeq 15 munud    yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5, 63 a 125Hz oddi fewn i    unrhyw eiddo preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo ar agor neu ar  gau) o ganlyniad i sŵn adloniant yn deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas  yr amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142:2014

·       Os, wedi cyhoeddi'r drwydded hon bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes cydymffurfiaeth ag amod 1 bydd  perchennog yr eiddo yn gwneud  y canlynol:

a) Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn

·       Unwaith bydd lefel ar ddyfais reoli sŵn yn cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w newid heb ymgynghoriad a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llygredd, Cyngor Gwynedd.  

·       Ni chaniateir chwarae cerddoriaeth yn allanol

·       Rhaid cau'r ardal eistedd allanol ar ol 21:00

·       Er mwyn arbed sŵn a dirgrynant adael yr eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn ystod yr adloniant, heblaw am fynediad i mewn ac allan o’r eiddo.

·       Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau  22:00 - 09:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead

 

Amodau ychwanegol i gynnwys

 

·       Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

·       Stopio gwerthu alcohol ar y penwythnosau am 03:30 a chau am 04:00

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

·       Chris O’Neal                     Ymgeisydd

·       Gilly Haradence                Cynrychiolydd yr Ymgeisydd

·       Ffion Muscroft                   Swyddog Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd

·       Ian Roberts                       Heddlu Gogledd Cymru

·       Elizabeth Williams            Heddlu Gogledd Cymru

·       Cyng. Nigel Pickavance   Aelod Lleol

·       Cyng. Dylan Fernley         Aelod Lleol

·       Awen Gwyn                       Aelod o’r Cyhoedd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                      Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adan Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer cynnal Bar Chwaraeon ar lawr gwaelod yr eiddo fyddai’n cynnwys amryw o Sgriniau Teledu, Byrddau Pŵl, Byrddau Dartiau Rhyngweithiol a Pheiriannau Hap Chwarae. Ar yr ail lawr bydd Bar Coctel a Gwirodydd ynghyd â seddau arbennig a mannau cymdeithasu, Bythau Tynnu Lluniau ac ardal ddawnsio.

 

Gwnaed y cais mewn perthynas â Dramâu dan do a'r tu allan, Ffilmiau dan do, Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do, Adloniant Bocsio a Reslo dan do a'r tu allan, Cerddoriaeth Fyw dan do a'r tu allan, Cerddoriaeth wedi'i recordio Dan do a'r Tu Allan, Perfformiadau Dawns Dan Do, Lluniaeth Hwyr yn y Nos dan do a'r tu allan a Chyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori oedd yn cynnwys sylwadau gan aelod o’r cyhoedd yn pryderu am gerddoriaeth fyw gan DJ, bandiau yn chwarae a cherddoriaeth gefndir ar ddwy lefel y lleoliad ynghyd a chais i sicrhau bod cynllun rheoli’r busnes yn cynnwys mesurau i ymdrin â llygredd sŵn a rhwystrau rheoli cwsmeriaid; a yw rheolwyr y bar wedi rhoi ystyriaeth ofalus i drefniadau mynediad a gadael yr eiddo?; yn bryderus y byddai cynnydd mewn ymddygiad gwrth gymdeithasol, gall arwain at wrthdaro a / neu achosi difrod i siopau cyfagos

 

Roedd sylwadau gan Iechyd yr Amgylchedd yn nodi pryder am yr oriau arfaethedig, cais i chwarae cerddoriaeth tu allan tan 21.00 ynghyd a bwriad i gael ardal eistedd allanol (er y byddai’n rhaid i'r cwmni wneud cais am drwydded gan y Gwasanaeth Priffyrdd i osod cadeiriau a byrddau ar y stryd).  Adroddwyd bod cyfarfod ar y safle wedi ei gynnal rhwng   Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a'r ymgeisydd mewn perthynas â'r cais Cynllunio (oedd ar y pryd yn mynd drwy'r broses gynllunio) a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â sŵn mewn perthynas â'r unedau aer dymheru, sŵn gan gwsmeriaid a'r lefel sŵn a ragwelir yn yr eiddo preswyl cyfagos fel rhan o'r broses gynllunio.

 

Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi'r cais, ond yn mynegi pryderon am ddiogelwch y cyhoedd, ar ôl 04:00 pryd y bydd llai o adnoddau ganddynt.  Wedi trafod y pryderon gyda’r ymgeisydd, awgrymwyd stopio gwerthu alcohol am 03:30am a chau am 04:00am ar y penwythnosau. Ategwyd bod yr Awdurdod Cyfrifol yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.