Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan
Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd
Cymru) a Moira Duell Parri (Swyddog Iechyd Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO St Tudwals
Inn, Abersoch I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais Trwydded
Arfaethedig Dydd
Sul/Sunday: 09:00 - 01:00 Dydd
Llun/Monday: 09:00 – 01:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 09:00 – 01:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 09:00 – 01:00 Dydd
Iau/Thursday: 09:00 – 01:00 Dydd
Gwener/Friday: 09:00 – 01:30 Dydd
Sadwrn/Saturday: 09:00 – 01:30 Gweithgareddau Trwyddedadwy Cyflenwi
Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo : Dydd
Sul/Sunday: 10:00 - 00:00 Dydd
Llun/Monday: 10:00 – 00:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 10:00 – 00:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 10:00 – 00:00 Dydd
Iau/Thursday: 10:00 – 00:00 Dydd
Gwener/Friday: 10:00 – 01:00 Dydd
Sadwrn/Saturday: 10:00 – 01:00 Amseriadau
ansafonol: Caniatáu
gwerthu i breswylwyr 24 awr y dydd I ganiatáu
gwerthu o 10:00 o'r gloch ar 31 Rhagfyr tan 00:00 ar y 1af o Ionawr Cerddoriaeth
wedi ei Recordio Tu Fewn : Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00 Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00 Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00 Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00 Lluniaeth yn
Hwyr y Nos: Dan do : Dydd
Sul/Sunday: 23:00 - 00:00 Dydd
Llun/Monday: 23:00 - 00:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 23:00 - 00:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 23:00 - 00:00 Dydd
Iau/Thursday: 23:00 - 00:00 Dydd
Gwener/Friday: 23:00 - 00:00 Dydd
Sadwrn/Saturday: 23:00 - 00:00 Cerddoriaeth
Byw: Tu Fewn : Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00 Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00 Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00 Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00 Ffilmiau: Tu
Fewn : Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00 Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00 Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00 Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00 Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00 Cynllun
Rheoli Sŵn i’w ddarparu i Adran Iechyd yr Amgylchedd Asesu lleoliad
CCTV dan do a tu allan o ystyried newid yng nghynllun y safle. Dim mynediad i
blant o dan 16 oed i'r safle ar ôl 22:00 ar Noswyl Nadolig a Nos Galan (os nad
ydynt yn bwyta neu aros yn y gwesty). Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel
amodau. Cofnod: Michelle Hazelwood Ar ran yr ymgeisydd Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad
yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr
Adan Amgylchedd yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo St Tudwals,
Abersoch. Cyflwynwyd y cais am amrywiad oherwydd gwaith adnewyddu mewnol ac
allanol i’r eiddo ac i gymryd mantais o’r cyfle i adolygu cynnwys y drwydded
bresennol. Ategwyd, ar wahân i’r newidiadau mewnol ac allanol, bod cais ar
gyfer ychwanegu gweithgaredd trwyddedig o ddangos ffilmiau hefyd wedi ei
gynnwys. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Cyflwynwyd sylwadau gan yr Heddlu yn nodi eu dymuniad i gynnwys amod ar
y drwydded fyddai yn nodi na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod mewn i’r safle
/ aros yno ar ôl 22:00 oni bai eu bod yn aros neu yn bwyta yn y gwesty ar
Noswyl Nadolig a Nos Galan - hyn yn gyson a nosweithiau eraill y flwyddyn.
Nodwyd hefyd bod yr Heddlu yn dymuno i’r ymgeisydd asesu lleoliad TCC o
ystyried newid yng nghynllun y safle. Roedd
y swyddogion yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd
gan argymell bod yr Is-bwyllgor yn caniatáu'r amrywiad cyn belled a bod yr
ymgeisydd yn cytuno i gyfaddawd a awgrymwyd gan Swyddog Adran Gwarchod y
Cyhoedd a sylwadau’r Heddlu. b) Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r
ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c) Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod cynllun y gwesty yn un agored, gyda ffocws
ar gyfer teuluoedd ·
Mewn ymateb i nifer o gynlluniau gwahanol i gefn
yr adeilad a diffyg eglurhad o’r statws cynllunio, cyflwynwyd cynllun newydd
oedd yn cyfateb i amodau a gofynion y drwydded bresennol · Yn cytuno gydag amod yr Heddlu na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod i mewn nac aros yn yr eiddo ar ôl 22:00 o'r gloch ac eithrio pan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |